Alert Section

Ysgolion cyfrwng Cymraeg


Pam dewis Cymraeg?

Pa bynnag iaith rydych chi'n ei siarad gartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn. Mae dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi’r cyfle i’ch plentyn ehangu ei sgiliau dwyieithog yn greadigol ac yn academaidd. Mae manteision ehangach i addysg ddwyieithog gan gynnwys effaith gadarnhaol ar alluoedd gwybyddol plentyn, ac mae’r buddion hyn yn para am oes. 

MANTEISION BOD YN DDWYIEITHOG:

  • Mae meddu ar y gallu i siarad Cymraeg naill ai’n sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi
  • Gallu cymhwyso gwybodaeth mewn o leiaf dwy iaith
  • Cynyddu'r gallu i ddysgu iaith arall
  • Mae dysgu Cymraeg yn cynnig cyfleoedd i brofi dau ddiwylliant gan gynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth, cyfryngau digidol, a llu o bethau eraill
  • Gall siarad Cymraeg helpu i feithrin dealltwriaeth lawnach o gymuned ehangach person a’i le ynddi
  • Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n deall dwy iaith yn meddwl yn fwy hyblyg a chreadigol
  • Gall helpu gyda phontio rhwng cenedlaethau os yw neiniau a theidiau neu aelodau o'r teulu yn fwy cyfforddus mewn un iaith.

 I ddysgu mwy am y manteision hyn, gweler y fideos a'r erthygl isod: 

Menter Iaith: Cyfres o fideos byr (i gyd o dan 1 munud) yn amlygu manteision addysg ddwyieithog: 

https://www.youtube.com/playlist?list=PLad5Y0wC3xUCNqG0KE8qrq9rDG_dgZQCh

Erthygl: Bilingual children have more efficient thinking skills, research by Bangor lecturers reveal (2 funud o ddarllen):

https://nation.cymru/news/bilingual-children-have-more-efficient-thinking-skills-research-by-bangor-lecturers-reveals/

YMUNO AG ADDYSG CYFRWNG CYMRAEG - Ysgolion Cynradd

Mae 5 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint ac mae pob un yn cynnig rhaglen gydlynol a chynhwysfawr ar gyfer hwyrddyfodiaid i’r iaith. 

Yr ysgolion yw:

Byddai ein hysgolion cynradd Cymraeg yn croesawu eich plentyn o unrhyw oedran ac yn cynnig rhaglen bontio bwrpasol i gefnogi eich penderfyniad i symud eich plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg. 

Daw mwyafrif y disgyblion sy’n mynychu ein hysgolion o gartrefi di-Gymraeg. Cymraeg yw iaith swyddogol ein hysgolion, a’u nod yw datblygu gallu plant i gofleidio a defnyddio dwy iaith yn effeithiol erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd. 

Gyda hyn mewn golwg, maent yn canolbwyntio’n llwyr ar y Gymraeg yn y Blynyddoedd Dysgu Sylfaen (meithrin i flwyddyn 2) ac mae plant yn cael eu trochi yn yr iaith yn y dosbarth ac o gwmpas yr ysgol. Y nod wedyn yw meithrin dwyieithrwydd drwy gydol Cyfnod Allweddol 2. Mae plant sy’n dechrau ym mlwyddyn 3 neu uwch, sy’n newydd i’r Gymraeg, yn cael eu cefnogi trwy raglen drochi iaith 10 wythnos bwrpasol a chydlynol a ariennir gan yr Awdurdod Lleol. 

Yn y boreau, mae’r plant yn rhan o grŵp dysgu bychan sy’n cael ei addysgu gan arbenigwyr mewn addysgu Cymraeg sy’n cael ei gefnogi gan un o Athrawon Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint. Yn ystod y prynhawn, mae plant yn dilyn cwricwlwm arferol yr ysgol yn y dosbarth lle cânt gyfleoedd i ymarfer defnyddio’r iaith y maent wedi bod yn ei dysgu yn y boreau. 

Ar ôl 10 wythnos, mae plant yn aros yn y dosbarth yn llawn amser, ac mae athrawon dosbarth yn defnyddio cronfa o adnoddau i barhau i gefnogi plant wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau ieithyddol.

Mae’r rhaglen 10 wythnos ar gael fel adnodd cwbl ddigidol, felly gall rhieni hefyd gael mynediad i’r rhaglen a dewis dysgu ochr yn ochr â’u plant os dymunant. Mae manylion mewngofnodi ar gael o ysgol y plentyn. 

Fideo yn cyflwyno’r rhaglen:

YMUNO AG ADDYSG CYFRWNG CYMRAEG - Uwchradd

Mae un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint. Mae Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug yn cynnig rhaglen ‘Drochi’ unigryw ar gyfer plant sy’n dewis addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar ôl derbyn addysg gynradd cyfrwng Saesneg. 

Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug (dolen i wefan yr ysgol) 

Mae disgyblion sy’n dewis addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg o ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn cael cynnig y cyfle i fynychu rhaglen ragarweiniol ar ddiwedd Blwyddyn 6 i baratoi ar gyfer ymuno â rhaglen Drochi ym Mlwyddyn 7.

Mae hwyrddyfodiaid i’r iaith ym mlwyddyn 7 yn dilyn rhaglen Drochi lwyddiannus iawn, ac yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd mewn dosbarth bach a chefnogol iawn. Mae hyn yn galluogi mwy o ffocws ar ddatblygiad iaith drochi ym mhob pwnc. 

Dros y ddwy flynedd nesaf, mae disgyblion yn integreiddio’n gynyddol gyda disgyblion iaith gyntaf, gan ganiatáu iddynt ddatblygu a defnyddio eu medrau Cymraeg mewn mwy o amrywiaeth o gyd-destunau, gyda’r nod o gael eu hintegreiddio’n llawn erbyn Blwyddyn 9.

Cefnogaeth I Ddisgyblion a Rhieni

Mae ein hysgolion yn brofiadol iawn wrth gefnogi disgyblion a rhieni. 

Anfonir pob gohebiaeth o'r ysgol adref yn ddwyieithog. Bydd athro eich plentyn yn fwy na pharod i’ch helpu gyda gwaith cartref eich plentyn. Yn wir, mae ymchwil yn awgrymu y gall ymdrin â’u gwaith mewn dwy iaith helpu plant i ddeall y pwnc y maent yn ei astudio a gall arwain at ddysgwyr mwy annibynnol.