Alert Section

Ysgol Penyffordd


Mae cyfrifoldeb ar Gyngor Sir y Fflint i adolygu a lle bo angen, moderneiddio ei adeiladau ysgol.  Un ardal a glustnodwyd ar gyfer buddsoddiad yn ein hysgolion yw ardal Penyffordd.   

Bydd y cyfleuster ysgol gynradd y 21ain Ganrif yn gweld ysgol gynradd gymunedol newydd cyfrwng Saesneg gyfun o 3-11 oed yn cael ei chodi ar safle Abbotts Lane ar gyfer 315 o ddysgwyr amser llawn a Meithrinfa 45 lle Cyfwerth ag Amser Llawn.  Bydd adeilad presennol yr ysgol feithrin yna’n cael ei ddymchwel, a bydd gwell lle parcio yn cael ei adeiladau ar gyfer staff ac ymwelwyr a lle penodol i rieni ollwng eu plant.  Bydd y cyfleuster yn darparu profiad dysgu llawn ysbrydoliaeth i blant oed cynradd.

Newyddlen Haf 2017

Ffeithiau Allweddol:

  • Adeilad newydd Ysgol Gynradd gyda lle i 315 o Ddisgyblion Llawn amser a Meithrinfa 45 lle FTE ar Safle Abbott’s Lane.
  • Mae dyluniad yr ysgol yn cynnwys: Ystafell ddosbarth i’r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2, Neuadd a chyfleusterau Stiwdio; ystafell gymunedol; ardal cae chwarae gwair; cae chwaraeon amlddefnydd; ardaloedd cynefin a hamdden, gwell maes parcio i staff ac ymwelwyr a pharth gollwng a chodi i rieni/ gofalwyr.
  • Mwy o leoedd parcio i staff ac ymwelwyr gyda pharth codi a gollwng penodol i rieni / gofalwyr.
  • Dyluniad parod ar gyfer y dyfodol i ganiatáu estyniadau ystafelloedd dosbarth os bydd cynnydd yn nifer y dysgwyr yn yr ardal.
  • Dyluniad ystyriol i weddu i’r gymuned.
Ysgol Penyffordd