Alert Section

Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd y Fflint


Fe fydd Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu ei ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf, disgwylir iddi agor yn ystod hydref 2025.   Wedi’i ffurfio yn rhan o gyflwyniad Band B Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, fe fydd Ysgol Gymraeg Croes Atti yn Y Fflint yn trosglwyddo i safle newydd tua 0.94 milltir i’r de-ddwyrain o’i leoliad presennol yn rhan o’r prosiect.

School Front Concept

Bydd y campws yn cynnwys ysgol newydd gyda lle i hyd at 240 disgybl llawn amser a chyfleuster pwrpasol ar wahân ar gyfer gofal plant y blynyddoedd cynnar, digwyddiadau cymunedol a rhaglen drochi’r Gymraeg.  Mae cydleoli’r holl elfennau wedi’u cynnwys yn y prosiect i annog pobl i fabwysiadau addysg Gymraeg yn gynnar ac i gyd-fynd â pholisïau lleol a chenedlaethol megis Strategaeth Y Gymraeg 2025.

CLIC Front Concept

Ynghyd â hyrwyddo’r Gymraeg, bydd cwblhau’r prosiect £15.9 miliwn yn darparu’r ail ysgol gynradd carbon sero net yn Sir y Fflint.

School Back Concept

Amserlen y Prosiect