Alert Section

Canolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy


Bydd y Canolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy newydd a ddatblygwyd ar y cyd gan Goleg Cambria, ysgolion lleol a Chyngor Sir y Fflint yn darparu cyfleusterau newydd a chwricwlwm ehangach o ddewis ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn Sir y Fflint.

Bydd y cyfleuster yn darparu profiad dysgu ar gyfer 700 o fyfyrwyr mewn lleoliad canolog rhwng safle Coleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.

Mae’r adeilad tri llawr yn cynnwys celfyddydau perfformio arbenigol, cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chyfleusterau celfyddydau creadigol yn ogystal ag ystafelloedd dosbarth addysgu cyffredinol a mannau astudio cymdeithasol a phreifat. Ar gael o fynedfa sydd newydd ei ffurfio o Lôn Golftyn, mae'r cynllun yn cynnwys maes parcio i staff ac ymwelwyr yn ogystal â man parcio bysiau i wasanaethu campws ehangach Coleg Cambria.

Mae gwaith wedi dechrau ar y safle ym mis Mawrth 2015 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn haf 2016.

Deeside Sixth Form Centre