Alert Section

Adeilad Newydd Campws Treffynnon


Dechreuodd gwaith adeiladu’r ysgolion cynradd ac uwchradd newydd yn Nhreffynnon fydd ar yr un safle, sef safle presennol yr Ysgol Uwchradd ym mis Ionawr 2015.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 2014 a Galliford Try yw’r contractwyr a ddewiswyd i adeiladu’r datblygiad £30 miliwn blaenllaw ar dir ar dop y cae ysgol presennol.

Bydd un ysgol gynradd newydd yn cymryd lle Ysgol Babanod Perth y Terfyn ac Ysgol Iau y Fron a bydd yn gwasanaethu dysgwyr hyd at 11 oed. Bydd yr ysgol gynradd yn rhannu safle â chyfleuster newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Treffynnon a fydd yn cael ei adeiladu er mwyn darparu addysg i rai 11-16 oed.

Disgwylir i’r ysgolion newydd agor fis Medi 2016 a bydd y cyfleusterau presennol yn parhau i gael eu defnyddio hyd nes yr adeg hynny i sicrhau nad oes unrhyw aflonyddwch ar y dysgwyr.

Bydd lle i 600 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd trillawr arfaethedig a lle i 315 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd unllawr. Bydd plant cynradd a myfyrwyr oedran uwchradd yn cael eu haddysgu yn y llety diweddaraf o'r radd flaenaf gyda'r holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu.

Fideo Cerdded Drwy'r Datblygiad

Rhybudd ynglyn â Hawlfraint

Mae ddeddfau hawlfraint (Adran 47, Deddf 1988) yn amddiffyn cynlluniau, darluniadau a deunydd a anfonir at y Cyngor. Dim ond i gymharu ceisiadau presennol gyda cheisiadau blaenorol ac i wirio a yw datblygiadau wedi’u cwblhau yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd y gallwch ddefnyddio deunydd yr ydych wedi’i lawrlwytho a/neu ei argraffu at ddibenion ymgynghori.

Cael golwg ar ddyddiadau, cynlluniau a dogfennau atodol a hysbysiad y penderfyniad