Datblygiad Ysgol Gynradd Drury
Mae’r Cyngor wedi bod yn gofyn am eich barn am gynnig i ehangu safle ysgol a chynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael i blant yn Ysgol Gynradd Drury.
Mae’r Cyngor yn bwriadu darparu’r lleoedd ychwanegol yn yr ysgol drwy:
Gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Drury o’i darpariaeth gyfredol, sef 124 o leoedd llawn amser yn yr ysgol, i 180 o leoedd llawn amser, cynnydd o 56 o leoedd llawn amser o 1 Medi 2024 ymlaen.
Byddai’r cynnig yn golygu y byddai nifer derbyn yr ysgol yn cynyddu o 17 disgybl ym mhob grŵp blwyddyn i 25 disgybl ym mhob un.
Byddai’r cynnydd i’r capasiti’n cael ei ddarparu drwy godi estyniad ar adeilad yr ysgol. Y bwriad fydd cyflwyno capasiti newydd yr ysgol ar ôl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn 1 Medi 2024.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar 1 Mawrth 2022 a daeth i ben ar 11 Ebrill 2022.
Mae'r adroddiad ymgynghori sy’n crynhoi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ochr yn ochr ag ymateb y Cyngor ar gael yn y ddolen cyswllt isod.
Cyflwynwyd hysbysiad statudol o’r cynnig, cynhaliwyd y cyfnod hysbysiad statudol o 29 Medi 2022 i 27 Hydref 2022 lle'r oedd unrhyw berson yn gallu gwrthwynebu’r cynnig. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ar gyfer y cynnig hwn.
Hysbysiad o'r Penderfyniad
Ar ddydd Iau 20 Rhagfyr 2022, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Drury o’i darpariaeth bresennol, sef 124 o leoedd llawn amser yn yr ysgol, i 180 o leoedd llawn amser, sef cynnydd o 56 o leoedd llawn amser o 1 Medi 2024 ymlaen.
Ystyriodd y Cabinet y cynnig ac ymateb yr awdurdod lleol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018. Penderfynodd y Cabinet gymeradwyo’r cynnig.
Mae llythyr y penderfyniad a’r adroddiad gwrthwynebiad ar gael drwy ddilyn y dolenni cyswllt isod.
Llythyr Hysbysiad o Benderfyniad Ysgol Gynradd Drury
Adroddiad Gwrthwynebiad Ysgol Gynradd Drury
Cyhoeddir y llythyr o Benderfyniad a’r Adroddiad Gwrthwynebiad ar ffurf copi caled, os oes angen copi papur o’r ddogfen hon arnoch, neu gopi o’r ddogfen mewn fformat gwahanol er enghraifft braille neu brint bras, neu gymorth gyda dehongli mewn iaith wahanol, cysylltwch â’r Tîm Moderneiddio Ysgolion ar 01352 702188 / 01352 704014, neu anfonwch e-bost at 21stCenturySchools@flintshire.gov.uk
Mae’r amserlen arfaethedig ar gyfer gwneud penderfyniadau fel a ganlyn:
Camau’r broses
|
Dyddiadau Allweddol
|
Proses Ymgynghoro
|
1 Mawrth 2022 tan 11 Ebrill 2022
|
Mae’r Cabinet yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad ac yn penderfynu a ddylid symud ymlaen â’r cynigion
|
Gorffennaf 2022
|
Mae’r Cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol ac yn cychwyn cyfnod gwrthwynebu
|
Medi 2022
|
Mae’r Cabinet yn ystyried yr adroddiad gwrthwynebu ac yn penderfynu p’un a ddylid gweithredu’r cynigion ai peidio
|
Tachwedd 2022
|
Bydd llythyr hysbysiad o’r penderfyniad yn cael ei gyhoeddi gyda chanlyniad penderfyniad y Cabinet
|
Rhagfyr 2022
|