Canolfan Enfys
Mae’r Cyngor wedi gofyn am eich barn am gynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth yng Nghanolfan Enfys a symud y ddarpariaeth o reolaeth bresennol Plas Derwen (Uned Cyfeirio Disgyblion) i reolaeth Ysgol Pen Coch. Bydd y cynnig yn golygu bod y capasiti arferol yn Ysgol Pen Coch yn cynyddu o 98 i 128 erbyn 1 Ebrill 2025.
Byddai’r cynnydd mewn capasiti arferol yn cael ei gyflawni wrth i Ysgol Pen Coch gymryd rheolaeth o Ganolfan Enfys ar ei safle presennol sydd ar yr un safle ag Ysgol Bryn Gwalia yn Yr Wyddgrug.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ddydd Mercher, 5 Mehefin 2024, a daeth i ben ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2024.
Mae'r adroddiad ymgynghori sy’n crynhoi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ochr yn ochr ag ymateb y Cyngor ar gael yn y ddolen gyswllt isod.
Adroddiad Ymgynghori Canolfan Enfys
Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori, adolygwyd y wybodaeth gan y Cabinet a phenderfynwyd bwrw ymlaen â’r Cynigion Statudol. Gellir dod o hyd i gopi o’r adroddiad ymgynghori isod. Y cam nesaf yw cyhoeddi’r Hysbysiadau Statudol. Mae’r Hysbysiad Statudol hwn yn nodi cychwyn cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod o hyd, rhwng 7 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2024, ac yn nodi’r cyfeiriad ble dylid anfon gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig.
Hysbysiad Statudol - Canolfan Enfys
Caiff yr Hysbysiad Statudol hwn ei gyhoeddi mewn copi papur, os oes angen copi papur o’r ddogfen hon arnoch, neu gopi o’r ddogfen mewn fformat gwahanol e.e. Braille neu brint bras, neu gymorth gyda dehongli mewn iaith wahanol, cysylltwch â’r Tîm Moderneiddio Ysgolion ar 01352 702188 / 01352 704014, neu e-bostiwch 21stCenturySchools@flintshire.gov.uk