Alert Section

Chwarae Cymru

Mae Chwarae Cymru yn sefydliad cenedlaethol wedi ei leoli yng Nghymru, sy'n ymroddedig i hyrwyddo a chefnogi chwarae a gwaith chwarae plant.

Fe sefydlwyd Chwarae Cymru yn 1998 ac mae’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, gan gefnogi’r sector chwarae a gweithio i sicrhau fod gan blant fynediad i gyfleoedd chwarae o ansawdd.

Ewch i wefan Chwarae Cymru

Dyma drosolwg o Chwarae Cymru:

Gweledigaeth ac Amcanion

Mae Chwarae Cymru yn anelu i hyrwyddo hawl plant i chwarae a chefnogi’r sector chwarae drwy:

Eiriolaeth: Mae Chwarae Cymru yn eiriolwyr dros chwarae fel hawl sylfaenol i bob plentyn ac unigolyn ifanc.

Addysg a Gwybodaeth: Mae Chwarae Cymru yn darparu gwybodaeth, adnoddau a hyfforddiant i unigolion a sefydliadau sy’n ymwneud â chwarae plant a gwaith chwarae.

Dylanwad Polisi: Mae Chwarae Cymru yn gweithio i ddylanwadu ar bolisi a’r broses o wneud penderfyniadau ar lefelau amrywiol, o leol i genedlaethol, i flaenoriaethu a chefnogi cyfleoedd chwarae.

Ymchwil a Datblygu: Mae Chwarae Cymru yn ymgysylltu mewn prosiectau ymchwil a datblygu i ddeall effaith chwarae ar les a datblygiad plant yn well.

Cefnogi Gweithwyr Chwarae: Mae Chwarae Cymru yn cefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio yn y sector chwarae, gan gynnwys gweithwyr chwarae a darparwyr chwarae, drwy gynnig hyfforddiant, arweiniad a chyfleoedd rhwydweithio.

Egwyddorion Allweddol a Dulliau

Mae Chwarae Cymru yn gweithredu yn seiliedig ar yr egwyddorion a’r dulliau canlynol:

Cyfleoedd Chwarae Digonol: Mae Chwarae Cymru yn eiriolwyr dros weithredu’r dull “cyfleoedd chwarae digonol”, gan sicrhau fod gan blant ddigon o amser, lleoedd a chyfleoedd i chwarae.

Canolbwyntio ar y Plentyn: Mae Chwarae Cymru yn blaenoriaethu lleisiau, barn ac ymreolaeth plant mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â chwarae.

Cynwysoldeb: Mae Chwarae Cymru yn gweithio i sicrhau fod cyfleoedd chwarae yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob plentyn, waeth beth fo’u cefndir neu eu galluoedd.

Eiriolaeth: Mae Chwarae Cymru yn ymgyrchu’n frwd dros gydnabod chwarae fel rhan hanfodol o fywydau plant.

Hyfforddiant ac Adnoddau: Mae Chwarae Cymru yn darparu adnoddau, hyfforddiant ac arweiniad i gefnogi’r rhai hynny sy’n gweithio gyda phlant, gan gynnwys gweithwyr chwarae, addysgwyr, rhieni a gwneuthurwyr polisi.

Llwyddiannau a Mentrau

Dros y blynyddoedd mae Chwarae Cymru wedi bod yn ymwneud â mentrau ac ymgyrchoedd niferus i hyrwyddo chwarae plant. Mae rhai o’u llwyddiannau nodedig yn cynnwys:

Llunio Adnoddau: Mae Chwarae Cymru wedi creu ystod o adnoddau, gan gynnwys cyhoeddiadau, pecynnau gwaith ac adroddiadau ymchwil i gefnogi’r ddealltwriaeth o chwarae ac er mwyn ei hyrwyddo.

Hyfforddiant a Gweithdai: Mae Chwarae Cymru yn cynnig cyrsiau hyfforddi a gweithdai ar waith chwarae, asesu risg a chreu amgylcheddau sy’n gyfeillgar i chwarae.

Diwrnod Chwarae: Mae Chwarae Cymru yn ymwneud â threfnu Diwrnod Chwarae, digwyddiad blynyddol sy’n dathlu pwysigrwydd chwarae ac yn darparu cyfleoedd i blant ymgysylltu mewn gweithgareddau chwareus. 

Dylanwad o ran Polisi: Mae Chwarae Cymru wedi bod yn ddylanwadol mewn eirioli dros chwarae mewn dogfennau polisi a deddfwriaeth, ar lefel lleol a chenedlaethol.

Cydweithio: Mae Chwarae Cymru yn cydweithio gyda sefydliadau amrywiol, llywodraethau a chymunedau i eirioli dros chwarae plant ac i greu amgylcheddau chwarae cefnogol.