Alert Section

Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Bydd y Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf yn cael ei gynnal ar 11 Mehefin.

Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae ac i ymgyrchu dros sicrhau bod chwarae'n cael ei ystyried ym mhob agwedd ar fywydau plant. 

Mae gan blant hawl i gael amser a lle i chwarae fel rhan o’r diwrnod ysgol. Fodd bynnag, yn Arolwg Omnibws Plant Cymru (2022) dywedodd 61% o blant eu bod wedi methu amser chwarae – a’r rhesymau mwyaf cyffredin am hynny oedd i ddal i fyny â'u gwaith neu oherwydd bod athro’n teimlo eu bod wedi camymddwyn. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae, mae IPA Cymru Wales a Chwarae Cymru yn galw ar ysgolion i ddiogelu amser chwarae ac rydym yn falch o'u cefnogi. 

Cymerwch ran drwy ddilyn #DiogeluAmserChwarae ar y cyfryngau cymdeithasol.