Alert Section

Cynllun Cyfeillio / Chwarae Cynhwysol

Creu Cyfleoedd Chwarae Cynhwysol: Cyfoethogi Bywydau Drwy'r Cynllun Cyfeillio. Yn Datblygu Chwarae Sir y Fflint mae ein hymrwymiad i chwarae cynhwysol a galluogi plant a phobl ifanc yn greiddiol i bopeth rydym yn ei wneud.

Mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref a Chymuned lleol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, rydym yn falch o  gynnig ystod o fentrau trawsnewidiol sy’n adleisio egwyddorion Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Erthygl 31: Dathlu’r Hawl i Chwarae

Mae Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn amlinellu pwysigrwydd hawl y plentyn i hamdden, chwarae a chyfranogiad diwylliannol. Rydym nid yn unig yn credu mewn cydnabod yr hawl hwn ond hefyd ei ddathlu trwy ein gwasanaethau. Mae ein hymagwedd wedi ei wreiddio’n gadarn mewn creu fframwaith seiliedig ar hawliau yr ydym yn ei alw’n falch yn “Hawl Pob Plentyn!

Rhaglen Cynllun Chwarae’r Haf: Creu Atgofion

Dychmygwch chwe wythnos o chwerthin, chwilota a llawenydd. Bydd ein rhaglenni gwyliau yn cyflwyno sesiynau dwyawr i chi a fydd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol ar hyd a lled y Sir, lle rydym yn darparu llwybr i blant ymgolli eu hunain mewn gweithgareddau sy’n cyfoethogi a sy’n cyd-fynd â’u hoed a’u diddordebau.  

Y Cynllun Cyfeillio: Croesawu Amrywiaeth

Yn ein hymrwymiad cadarn i gynhwysiant, fe aethom ati i gyflwyno’r Cynllun Cyfeillio rai blynyddoedd yn ôl - menter drawsnewidiol wedi ei ddylunio ar gyfer plant a phobl ifanc o 5 i 17 oed sydd ag anghenion ychwanegol. Mae’r Cynllun Cyfeillio yn gweithredu fel hafan gefnogol yn ystod gwyliau’r ysgol*, lle gall pob plentyn gymryd rhan mewn chwarae gyda’r rhyddid a’r annibyniaeth maent yn ei haeddu.

Rôl y Cyfaill Cynllun Chwarae: Arwain a Meithrin

Mae ein Cyfaill Cynllun Chwarae yn ffurfio rhan ganolog o’r profiad. Gan weithio ochr yn ochr â’n tîm ym mhob safle, mae’r unigolion ymroddedig hyn yn cefnogi ac yn arwain plant gydag anghenion ychwanegol. Eu nod yw i feithrin cyfranogiad, gan sicrhau fod profiad pob plentyn yn cael ei deilwra i’w galluoedd a’u dyheadau unigryw. Mae cyfeillion hefyd yn cydweithio’n agos gyda theuluoedd gan greu pont ddi-dor rhwng y cartref a chwarae.

Effaith Ymledol: Lleisiau o Werthfawrogiad

Dros y blynyddoedd rydym wedi monitro effaith y Cynllun Cyfeillio yn fanwl, gan edrych ar ei effeithiau trawsnewidiol ar blant a theuluoedd. Mae adborth gan rieni a gofalwyr yn dangos y gwerth rydym yn ei ddarparu:

"Mae profiad cymdeithasol T wedi blodeuo, sy’n lleddfu pryder sylweddol i rieni plant gydag anghenion arbennig."

"Mae annibyniaeth newydd M yn ystod amser chwarae wedi gwneud gwyliau’r haf yn hawdd."

"Rydym nawr yn mwynhau cyfnodau o seibiant tra bo D yn profi chwarae diogel a hapus."

"Mae’r gwyliau wedi dod yn llai o straen i F, gan ei galluogi i ryngweithio’n fwy rhydd gyda’i chyfoedion."

Siwrnai o Gynhwysiant: Ymunwch â ni

Mae Datblygu Chwarae Sir y Fflint yn eich gwahodd chi i fod yn rhan o’r siwrnai drawsnewidiol hon. Drwy’r Cynllun Cyfeillio a’n hymrwymiad i chwarae cynhwysol, rydym yn creu tirwedd lle caiff potensial pob plentyn ei feithrin, ei ddathlu a’i alluogi. Ymunwch â ni wrth i ni barhau i gyfoethogi bywydau a meithrin cymuned lle mae cynhwysiant yn teyrnasu.

Gyda brwdfrydedd diderfyn.

Tîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint

*Mae darpariaethau gwyliau yn destun cyllid allanol ac fe all fod ar gael neu mae’n bosibl na fydd ar gael yn eich ardal.