Alert Section

Dewiswch y grŵp sydd fwyaf perthnasol i'ch pryder:


Gofalu am Eraill

Mae’n rhestru ffynonellau cymorth i bobl ifanc sy’n gofalu am eraill. Mae’n cynnwys gwasanaethau lleol a chenedlaethol, a manylion ynghylch sut i gysylltu ag eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Lleol

Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu

 

Canolfan Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
01244 547017

GGiDSyFf@siryfflint.gov.uk

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu yn ffynhonnell gwybodaeth sydd â manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi ar gyfer pob agwedd ar fywyd teulu. Mae gennym lawer o fanylion am help ar gyfer materion cyffredin y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod gofal plant, gweithgareddau gwyliau ysgol, gwasanaethau hamdden a swyddi gwag. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am fudiadau a llinellau cymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr ifanc.

Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn gyfrinachol. Os na allwn ni eich helpu chi'n hun, mae'n bosib y gallen ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â mudiadau eraill sy'n gallu cefnogi eich anghenion.

Gofalwyr Ifanc

Ewch i Wefan

Barnardo's - Gwasanaethau Sir y Fflint
82-84 Stryd Fawr
Yr Wyddgrug
CH7 1BH
01352 755422

flintshireservices@barnardos.org.uk

Mae Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint yn wasanaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n cefnogi aelod o'r teulu sydd â phroblemau iechyd. Rydyn ni'n gwybod eich bod yn mynd drwy amser caled, ac rydyn ni yma i'ch helpu, gorau gallwn ni.

Gallwn gynnig cefnogaeth unigol, gweithgareddau grŵp a chyfle i gyfarfod â phobl ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg i chi. Gallwn hefyd roi help ymarferol drwy hyfforddiant cymorth cyntaf a gwersi coginio i ddangos i chi sut i baratoi prydau bwyd ar gyfer eich teulu cyfan. Gwnawn eich helpu i ddysgu sut i gadw trefn ar arian eich aelwyd, a rhoi cyfle i chi ddatblygu'n bersonol.

Mae gennym gysylltiadau â nifer o wasanaethau eraill a allai eich cefnogi, a gallwn eich cyfeirio at y gwasanaethau hyn, dim ond i chi ofyn.

Cenedlaethol

RipRap

Ewch i Wefan

Mae RipRap yn gallu eich helpu i ymdopi pan fydd canser ar riant. Rydyn ni'n gwybod eich bod yn mynd drwy amser caled, ac y gallech chi deimlo'n ofnus ac ar eich pen eich hun.

Mae ein safle'n cynnwys hanesion gan bobl ifanc eraill sy'n ymdopi â'r un sefyllfa â chi. Cewch wybodaeth a chynghorion i'ch helpu i ddeall a dod i delerau â'r hyn sy'n digwydd yn eich teulu. Ceir hefyd ddewiswr emosiwn rhyngweithiol, lle gallwch ddweud wrthym sut rydych chi'n teimlo – fe wnawn ni eich helpu i archwilio eich meddyliau ac awgrymu ffyrdd i godi eich hwyliau

Os nad ydych chi'n gallu canfod y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi ar y safle, e-bostiwch unrhyw gwestiynau neu bryderon aton ni. Atebir pob problem gan weithwyr proffesiynol profiadol sy'n gweithio yn y maes hwn.

Llinell Cefnogi

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 01708 765200
Am ddim o ffôn tŷ: Nac ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor: Yn amrywio – ffoniwch am fanylion

Yn Llinell Cefnogi, rydyn ni'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl o bob oed. Mae ein horiau agor yn amrywio - ond os ydych chi'n ffonio pan ydyn ni ar gau, bydd neges leisbost yn dweud wrthych chi pryd fyddwn ni'n agor nesa.

Mae unrhyw beth a ddywedwch chi wrthym ni'n gyfrinachol. Wnawn ni ddim rhoi eich manylion i neb arall, heblaw eich bod chi eisiau i ni wneud hynny. Mae ein holl weithredwyr yn gyfeillgar, a byddwn yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud wrthym ni.

Byddwn yn gweithio â chi i geisio datblygu eich hunan-barch, gan roi i chi'r cryfder mewnol a'r gallu i symud ymlaen yn eich bywyd. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn cwestiynau i chi a fydd yn caniatáu i chi archwilio'r mater yn llawnach, a chanfod eich ateb chi eich hun i wella'r sefyllfa. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am wasanaethau eraill o bobl rhan o'r Deyrnas Unedig a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Young Carers Net

Ewch i Wefan

Mae YCNet (Rhwyd Gofalwyr Ifanc) yn ymroddedig i gefnogi pobl ifanc sy'n gofalu am eraill. Mae ein gwefan yn llawn gwybodaeth a chyngor ac mae'n gyfle i ryngweithio'n ddiogel gyda gofalwyr ifanc eraill ledled y wlad.

Gallwch sgwrsio â gofalwyr ifanc eraill ac â'n gweithwyr ieuenctid cyfeillgar, darllen am bobl ifanc mewn sefyllfa debyg i'ch un chi, yn ogystal â chyfrannu at ein fforwm drwy rannu eich profiadau a'ch cyngor eich hun ag eraill.

Gallwch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr misol, a chael ateb i unrhyw gwestiynau a allai fod gennych gan fodryb gofidiau a gweithwyr ieuenctid.

Ceir adran hefyd sydd â manylion am sefydliadau a gwasanaethau eraill rydyn ni'n meddwl a allai eich helpu chi. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am y safle, neu os oes angen mwy o help arnoch chi, mae croeso i chi anfon e-bost aton ni, ac fe ddown yn ôl atoch chi mor gyflym ag y gallwn.

Marwolaeth (Teulu)

Manylion gwasanaethau sy’n cynnig cymorth i bobl ifanc sydd wedi colli aelod o’r teulu. Mae’n rhestru dolenni cyswllt i wefannau sy’n cynnwys straeon gan eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Lleol

Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu

Canolfan Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
01244 547017

GGiDSyFf@siryfflint.gov.uk

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu yn ffynhonnell gwybodaeth sydd â manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi ar gyfer pob agwedd ar fywyd teulu. Mae gennym lawer o fanylion am help ar gyfer materion cyffredin y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod gofal plant, gweithgareddau gwyliau ysgol, gwasanaethau hamdden a swyddi gwag. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am fudiadau a llinellau cymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr ifanc.

Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn gyfrinachol. Os na allwn ni eich helpu chi'n hun, mae'n bosib y gallwn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â mudiadau eraill sy'n gallu cefnogi eich anghenion.

Cefnogaeth Profedigaeth Release

Ewch i Wefan

Tŷ'r Eos
Ffordd Caer
Wrecsam
LL11 2SJ
01978 316800

anna.perkin@new-tr.wales.nhs.uk (bydd yn creu e-bost)

Mae Release yn wasanaeth arbennig ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd wedi dioddef marwolaeth rhywun yr oeddent yn ei garu. Rydyn ni'n gwybod y gallech chi fod yn teimlo'n ypsét, yn ddryslyd neu'n flin – fe wnawn ein gorau i helpu sut bynnag y gallwn.

Gallwn roi cefnogaeth mewn sesiwn un-wrth-un neu mewn sesiwn teulu. Rydyn ni'n cynnal sesiynau grŵp efo pobl ifanc eraill sydd wedi wynebu'r un profiadau, ac mae hynny'n creu cyfle i dderbyn help yn ogystal â'i roi i eraill.

Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â gwasanaethau eraill a allai eich helpu chi a'ch teulu, fel ei gilydd. Gofynnwch i ni, a byddem ond yn rhy barod i roi manylion ynglŷn â'r gwasanaethau hyn i chi.

Cenedlaethol

Cruse

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 0844 477 9400
Am ddim o ffôn tŷ: Ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor:
Dydd Llun – dydd Gwener 9:30am - 5:00pm

Sefydlwyd Cruse yn benodol er mwyn cefnogi pobl sy'n ymdopi â phrofedigaeth a galar. Rydyn ni'n gwybod pa mor galed y mae hi'n gallu bod pan fydd rhywun agos atoch yn marw. Mae'n iawn i chi deimlo'n ddig, yn ypsét, yn ddryslyd, neu amrywiaeth o emosiynau eraill. Nid un ffordd sydd yna i ddelio â marwolaeth.

Mae'r bobl sy'n ateb y ffonau hefyd wedi wynebu profedigaeth - felly mae 'na gyfle da y byddan nhw'n gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo. Byddwn yn cadw unrhyw beth a ddywedwch wrthym ni'n gwbl gyfrinachol. Wnawn ni ddim dweud wrth neb arall, heblaw eich bod chi eisiau i ni wneud hynny.

Mae ein llinell gymorth yn arbennig ar gyfer pobl ifanc. Beth bynnag rydych chi eisiau - sgwrs gyffredinol â chlust gyfeillgar neu wybodaeth am wasanaethau eraill a allai eich helpu – ffoniwch ni. Dim ots beth ddywedwch chi wrthym ni, wnawn ni ddim barnu. Rydyn ni'n credu mai'r ffordd orau i chi symud ymlaen ydy gwneud eich penderfyniadau eich hun. Wnawn ni ddim dweud wrthych chi beth i'w wneud – yr unig beth a wnawn ni ydy rhoi syniadau ac opsiynau i chi ddewis eich llwybr eich hun.

The Road for You

Ewch i Wefan

Mae The Road for You yn wefan arbennig ar gyfer pobl ifanc sydd wedi colli rhywun agos atyn nhw. Mae pawb yn adweithio'n wahanol i farwolaeth - dydyn ni ddim yma i ddweud wrthych chi sut dylech chi fod yn ymddwyn neu’n teimlo.

Rydyn ni'n credu mewn rhoi help i chi ganfod eich ‘ffordd’ eich hun o ddelio â'ch colled. Os oes rhywun rydych chi'n ei nabod wedi marw, yn ddiweddar, neu hyd yn oed beth amser yn ôl, gallech ddefnyddio ein safle i weld sut mae pobl eraill yn yr un sefyllfa â chi wedi ymdopi. Gallwch ddarllen eu profiadau yn yr adran bersonol (ffenestr newydd). Ar ein negesfyrddau, gallwch rannu eich meddyliau a'ch teimladau, cynnig cyngor i eraill, a chael syniadau ar gyfer ymdopi pan rydych chi'n teimlo'n ypsét. Gallwch hefyd gofnodi eich emosiynau ar ein llinell amser, neu bostio llun er cof am rywun yr oeddech yn ei garu.

Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi ar ein safle, mae croeso i chi anfon e-bost atom.

Winston’s Wish

Ewch i Wefan

Yma yn Winston’s Wish, rydyn ni'n gwybod bod rhaid eich bod yn teimlo cymysgedd o emosiynau ar ôl marwolaeth rhywun agos, a gall hyn yn aml eich gadael yn teimlo'n flin, yn ddryslyd neu'n ypsét. Ar ein gwefan, bydd Doctor Doug yn eich helpu i ddod o hyd i'r atebion i'r holl gwestiynau a allai fod gennych chi pan fu farw'r person.

Mae gan y wefan hefyd negesfyrddau lle gallwch sgwrsio â phobl ifanc eraill sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg. Ceir syniadau ar gyfer pethau i'w gwneud ar ddiwrnodau fel Sul y Mamau, Sul y Tadau, pen-blwyddi a dyddiadau arbennig. Mae gennym gyngor am sut i wneud i'r atgofion bara drwy greu seren yn ein Hawyrlun o atgofion, creu jar o atgofion neu sgriblo meddyliau a theimladau ar y wal graffiti.

Mae croeso i chi e-bostio unrhyw gwestiynau aton ni, unrhyw bryd, ac fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.