Alert Section

Trosolwg Cyffredinol

Flintshire Play Logo (Transparent)

Lle mae’r hwyl yn dechrau!

Bydd Cynlluniau Chwarae’r Haf Sir y Fflint yn cael eu darparu mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned leol a Llywodraeth Cymru.

Mae mwyafrif ein tîm yn staff sydd yn dychwelyd o gynllun chwarae’r haf diwethaf yn 2023. Maent wedi cael gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a byddant wedi cwblhau rhaglen hyfforddiant llawn a chynhwysfawr. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys Rheoli Risg; Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle; Cymorth Cyntaf; Amddiffyn Plant; Diogelu ac Ymwybyddiaeth o Anableddau.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau yn cael eu trefnu mewn cydymffurfiaeth â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cynlluniau chwarae mynediad agored yn ddiogel. 


Rhestr Lleoliadau

Bydd Cynlluniau Chwarae yn dechrau ar draws y sir o ddydd Llun 22 Gorffennaf 2024 (diwrnodau’r wythnos yn unig)

Safleoedd 3-wythnos

Wythnos 1-3

Dydd Llun 22 Gorffennaf – Dydd Gwener 9 Awst

Bore: 10:30am – 12.30pm

  • Llaneurgain
  • Gwernaffield
  • Bwcle Lyme Grove
  • Pontybodkin (Llun - Mer)
  • Cymau (Iau - Gwe) 

Prynhawn: 2pm – 4pm

  • Mynydd Isa / New Brighton
  • Yr Wyddgrug Parkfield
  • Bwcle Westwood
  • Abermorddu (Llun - Mer)
  • Ffrith (Iau - Gwe)
  • Bagillt Ysgol Merllyn
  • Saltney
  • Caerwys
  • Penyffordd (Treffynnon) 

Wythnos 4-6

Dydd Llun 12 Awst – Dydd Gwener 30 Awst

Bore: 10:30am – 12.30pm

  • Sychdyn
  • Yr Wyddgrug Gas Lane
  • Bwcle Common
  • Sandycroft

Prynhawn: 2pm – 4pm

  • Northop Hall
  • Gwernymynydd
  • Parc Drury
  • Yr Hôb
  • Bagillt Victoria Road
  • Brychdyn
  • Mostyn

Safleoedd 6-wythnos

Dydd Llun 22 Gorffennaf – Dydd Gwener 30 Awst

Bore: 10:30am – 12.30pm

  • QuayPlay Cei Connah
  • Pheonix Park Coed-llai
  • Mynydd Y Fflint
  • Castell Y Fflint
  • Aston
  • Sealand Manor
  • Carmel
  • Fron Road
  • Rhosesmor
  • Penarlâg Level Road 

Prynhawn: 2pm – 4pm

  • Coed Onn Y Fflint 
  • Clwb 33 Shotton
  • Holway
  • Gladstone Penarlâg
  • Penyffordd (Caer)
  • Albert Avenue Y Fflint
  • Parc Cornist
  • Mancot
  • Garden City
  • Carmel

DYDDIADAU
Dydd Llun 22 Gorffennaf - Dydd Gwener 30 Awst (dyddiau’r wythnos)

HYD
Mae nifer yr wythnosau ar safleoedd naill ai 3 neu 6 wythnos yn dibynnu ar leoliad.  Bydd rhestr safleoedd 2024 hefyd yn nodi os yw safleoedd yn cyflwyno darpariaeth yn y bore (10:30yb - 12:30yp) neu yn y prynhawn (2:00yp - 4:00yp)

DIM COST 
Bydd yr holl sesiynau am ddim.

OEDRANNAU
5 – 12 OED – POB SAFLE

CYSYLLTWCH Â
Cymraeg:
 cynllunchwaraesyff@siryfflint.go.uk / 01352 704154
Saesneg: FCCsummerplayschemes@flintshire.gov.uk / 01352 704154

Bydd y sesiynau chwarae’n cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint.

Ymgeisiwch Rŵan

 

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw chwarae peryglus?

Mae Chwarae Peryglus yn bwysig i ddatblygiad plant, mae’n eu galluogi i herio eu hunain, arbrofi gyda chyfyngiadau, goresgyn ofnau ac archwilio ffiniau. Gall Chwarae Peryglus gynnwys dringo, neidio, cydbwyso, llithro, siglo a mathau eraill o chwarae.  Bydd ein tîm yn sicrhau bod eich plentyn yn cael cyfle i gael mynediad at chwarae peryglus dan oruchwyliaeth ddiogel. 

Beth yw chwarae mynediad agored dan oruchwyliaeth?

Mae Mynediad Agored yn cyfeirio at allu plant i chwarae’n rhydd a mynychu cynlluniau chwarae a gadael fel y mynnant.   Bydd ein staff yn annog plant i aros ar y safle, ond rydym hefyd yn annog rhieni/gwarcheidwaid i drafod eu disgwyliadau gyda’r plentyn cyn mynychu.   Mae fyny i chi benderfynu p’un a fydd eich plentyn yn dilyn eich cyfarwyddiadau neu beidio. 

Mae Chwarae Dan Oruchwyliaeth yn cyfeirio at gyfrifoldeb y staff.   Eu gwaith nhw yw goruchwylio er mwyn sicrhau fod gan blant amgylchedd diogel i chwarae.  Cynghorir staff fel rhan o’u hyfforddiant i roi’r hawl i blant chwarae heb ymyrraeth oedolion, gan ymuno os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny. 

A oes rhaid i mi adael fy mhlentyn?

Nag oes, mae croeso i chi aros o gwmpas gyda’ch plentyn, a chewch ddod â phicnic gyda chi a mwynhau cymdeithasu gydag eraill. 

Ble a phryd mae’r Cynlluniau Chwarae’n cael eu cynnal?

Mae sesiynau bore a phrynhawn yn cael eu cynnal ar draws Sir y Fflint, gweler am amseroedd a rhestr o safleoedd.  

Sicrhewch eich bod hefyd yn cofrestru eich plentyn ymlaen llaw ar-lein ar gyfer bob safle.  Gallwch eu cofrestru ar gyfer nifer o safleoedd os ydych yn dymuno iddynt fynychu mwy nag un. 

Nid yw fy mhlentyn yn 5 oed eto?

Yn anffodus rydym ond yn cael goruchwylio plant 5 oed a hŷn, ond mae croeso i chi aros gyda nhw ar y safle.