Alert Section

Cynllun Cyfeillio

Cyfleoedd Chwarae Cynhwysol
Mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol a Llywodraeth Cymru

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Erthygl 31 (CCUHP) yn nodi;

1. Bod Partïon yn cydnabod fod gan bob plentyn yr hawl i orffwys a hamdden, i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden sy'n briodol i oedran y plentyn ac i gymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a'r celfyddydau.

2. Bod Partïon yn parchu a hyrwyddo hawl y plentyn i gyfranogi'n llawn mewn bywyd diwylliannol ac artistig ac yn annog darpariaeth cyfleoedd priodol a chyfartal ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, artistig a hamdden. 

Yn Sir y Fflint, rydym yn ceisio darparu gwasanaeth yn seiliedig ar hawliau – 
‘Hawl pob Plentyn!'


Mae ein Rhaglen Cynllun Chwarae Haf yn para am chwech wythnos yn ystod yr Haf (24 Gorffennaf, 2023 – 01 Medi, 2023, diwrnodau’r wythnos).  Rydym yn cynnig sesiynau dwy awr ar draws y Sir. Datblygwyd y cynllun cyfeillio i ddarparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc 5-17 oed. 

Rôl y ‘Cyfaill’ cynllun chwarae yw gweithio fel aelod o'r tîm ym mhob lleoliad gan gefnogi  plant gydag anghenion ychwanegol. Bydd y Cyfaill yn annog cyfranogiad yng ngweithgareddau cynllun chwarae ac yn gweithio’n agos gyda theulu pob plentyn.


Effaith

Rydym wedi bod yn monitro’r Cynllun Cyfeillio yn fanwl ers y ‘cynllun peilot’ yn 2005, mae rhai o’r sylwadau yr ydym wedi ei gael rieni a gofalwyr yn cynnwys:

"Yn sicr, rydym bob amser yn hapus o weld T yn cael profiad cymdeithasol, mae’n un o’r pethau mae pob rhiant i blentyn gydag anghenion arbennig yn poeni amdano, o ran sut mae eich plentyn yn cael ei dderbyn gan ei gyfoedion” 

“Mae wedi fy helpu i oroesi’r gwyliau haf, yr unig adeg mae M yn gallu profi chwarae heb fy mod yno, sydd yn grêt ar gyfer annibyniaeth M”  

“Ydi, roedd yn golygu bod gennym amser i ni ein hunain tra yr oedd D mewn dwylo diogel”  

“Gwahaniaeth mawr, roedd y gwyliau yn llawer llai o straen na’r blynyddoedd blaenorol”  

“Mae wedi gwneud gwahaniaeth i F gan yr oedd wedi syrffedu yn ystod y gwyliau. Mae ganddi ffrindiau, ond gan fod angen cadw llygaid arni drwy’r amser ni allai ryngweithio gyda phlant eraill gymaint.” 

Am ragor o fanylion, cysyllwch â’r tîm Datblygu Chwarae
E-bost - cynllunchwaraesyff@siryfflint.go.uk
Tel - 01352 704154     

Ymgeisiwch Rŵan