Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfraith newydd, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Y nod yw cael un system mewn perthynas â’r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac yn derbyn addysg a/neu hyfforddiant.
Bydd y wefan hon yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar ADY, y system ADY newydd a beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
Cyhoeddwyd y Cod ADY yn 2021 i gefnogi gweithrediad y Ddeddf newydd. Mae’n darparu canllawiau statudol, clir ar y system ADY ar gyfer awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion, sefydliadau addysg bellach a byrddau iechyd eu dilyn. Mae’r Cod yn amlinellu’r dyletswyddau ar y cyrff hyn pan ddaw y posibilrwydd fod gan blentyn neu unigolyn ifanc ADY i’w sylw.
Mae’r Cod yn nodi’r ddyletswydd ar ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach i ddynodi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy’n gyfrifol am sicrhau fod anghenion y plant gydag ADY yn cael eu diwallu. Mae’r rôl yn debyg i rôl flaenorol y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig.
Rhaid i holl fyrddau iechyd gael Swyddog Arweiniol Clinigol Addysgol Dynodedig. Maent yn gyfrifol am gydlynu dyletswyddau’r bwrdd iechyd o dan y system newydd.
Diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY):
(1) Mae gan unigolyn anghenion dysgu ychwanegol os yw ef neu hi ag anawsterau dysgu neu anabledd (os yw’r anhawster dysgu neu anabledd yn codi o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
(2) Mae gan blentyn o oedran ysgol gorfodol neu unigolyn dros yr oedran hwnnw, anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi:
(a) yn cael llawer mwy o anhawster yn dysgu na mwyafrif y plant o'r un oed, neu (b) gydag anabledd ar gyfer dibenion y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n rhwystro neu’n atal ef neu hi rhag defnyddio’r cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill yr un oed mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.
(3) Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw ef neu hi yn, neu os byddent pe na bai darpariaeth dysgu ychwanegol yn cael ei wneud, yn debygol o fod o fewn isadran (2) pan fyddent o oedran ysgol gorfodol.
Diffiniad o Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol:
(1) Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” ar gyfer unigolyn tair oed neu hyn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy'n ychwanegol at yr hyn, neu sy'n wahanol i'r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o'r un oedran:
(a) ysgolion a gynhelir prif ffrwd yng Nghymru,
(b) sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu
(c) llefydd yng Nghymru lle darperir addysg meithrin.
(2) Mae “darpariaeth ddysgu ychwanegol” ar gyfer plentyn dan dair oed yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
Ystyried a phenderfynu ar ADY
Bydd anghenion addysgol ac ADY mwyafrif o blant a phobl ifanc yn Sir y Fflint yn cael eu canfod, eu diwallu a’u monitro o fewn ysgolion prif ffrwd neu sefydliadau addysg bellach lleol. Bydd hyn drwy wahaniaethu a mynediad at strategaethau perthnasol ac ymyraethau a dargedir o fewn cynnig cynhwysol o addysg safon uchel.
Os daw'r posibilrwydd o ADY i sylw ysgol neu sefydliad addysg bellach, rhaid iddynt ystyried a phenderfynu os oes gan y plentyn neu berson ifanc ADY, ac angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae gan ysgolion 35 diwrnod i benderfynu ac os cytunir ar ADY, rhaid paratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Mewn achosion lle mae Cyngor Sir y Fflint angen gwneud y penderfyniad, mae terfyn amser o 12 wythnos i benderfynu a pharatoi CDU pan gytunir ar ADY. Mae’r terfynau amser hyn yn amodol nad oes amgylchiadau eithriadol yn codi a all arwain at oedi.
Os ydych chi’n bryderus am gynnydd eich plentyn ac yn credu bod ganddynt ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol, siaradwch ag athro/athrawes eich plentyn neu’r Cydlynydd ADY yn ysgol eich plentyn. Gall y plentyn neu berson ifanc hefyd wneud cais eu hunain.
Y Gymraeg
Os yw plentyn neu berson ifanc angen darpariaeth ddysgu ychwanegol trwy’r Gymraeg, rhaid i’r ysgol, sefydliad addysg bellach neu Gyngor Sir y Fflint gymryd holl gamau rhesymol i sicrhau’r ddarpariaeth. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau i holl blant, gan gynnwys y rhai gydag ADY trwy ddarpariaeth addysgol a gwneir pob ymdrech rhesymol i gynnig gwasanaethau arbenigol ac ymyrraeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynlluniau Datblygu Unigol – Cynllun unedig
Mae gwybodaeth am ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn cael ei ysgrifennu i mewn i Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n disgrifio anghenion yr unigolyn a’r ddarpariaeth sydd ei angen i’w helpu i gyflawni’r canlyniadau gofynnol.
Bydd CDU yn disodli ystod o gynlluniau addysgol sydd eisoes yn eu lle ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol neu goleg. Mae’r rhain yn cynnwys Cynlluniau Addysgol Unigol, Datganiadau Addysg Arbennig a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau. Ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, bydd y CDU yn ffurfio rhan o’u Cynllun Addysg Personol.
Bydd CDU mwyafrif y plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cael eu paratoi a’u cadw gan yr ysgol neu sefydliad addysg bellach. Bydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddiwallu mwyafrif o anghenion unigolion yn cael ei fodloni drwy gyllidebau dirprwyedig.
Mae CDU rhai grwpiau o blant wedi cael eu paratoi a’u cadw gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r rhain yn cynnwys plant gydag ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol sydd unai’n ‘derbyn gofal’, yn derbyn addysg yn y cartref neu wedi’u cofrestru mewn mwy nac un lleoliad.
Bydd yr holl CDU yn cael eu hadolygu mewn adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o leiaf unwaith y flwyddyn. Gall gais i gynnal adolygiad yn gynt gael ei wneud gan unrhyw unigolyn perthnasol, gan gynnwys y plentyn, y rheini neu’r unigolyn ifanc.
Arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae’r system ADY yn gosod mwy o ganolbwynt ar roi’r plentyn neu berson ifanc yn ganolog i’r broses wrth gynllunio, canfod eu ADY a phenderfynu ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach ystyried barn, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni neu’r person ifanc.
Bydd ysgolion, sefydliadau addysg bellach a Chyngor Sir y Fflint yn cydweithio gyda phlant, eu rhieni, neu’r person ifanc wrth benderfynu ar ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol. Lle bod angen, bydd gwasanaethau perthnasol megis gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd hefyd yn cael eu cynnwys.
Mae ystod o adnoddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gall ysgolion a Chyngor Sir y Fflint eu defnyddio i gipio barn, dymuniadau a theimladau. Mae’r adnoddau hyn yn helpu i gefnogi cyfathrebu, cynllunio a gwneud penderfyniadau. Gall y wybodaeth a gesglir gan ddefnyddio’r adnoddai hyn, gael eu defnyddio i ddatblygu Proffil Un Dudalen, sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig o dan dri pennawd allweddol:
• Beth mae pobl yn ei hoffi a’i edmygu amdana i
• Beth sy'n bwysig i mi, a
• Y ffordd orau i fy nghefnogi
Bydd adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau fod llais pawb yn cael ei glywed, gan ystyried y wybodaeth berthnasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r canllaw defnyddiol hwn ar gyfer teuluoedd:
https://llyw.cymru/adolygiadau-syn-canolbwyntio-ar-unigolion-canllawiau-i-deuluoedd
Hawl gyson a chlir ar gyfer apelio
Cydnabyddir weithiau y bydd anghydfodau am benderfyniadau yn codi. Yn unol â Chod ADY 2021, mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu datrys cyn gynted â phosibl. Os yw plentyn, eu rhieni/gofalwyr neu’r person ifanc yn anghytuno â phenderfyniadau’r ysgol am yr ADY a’r darpariaeth ddysgu ychwanegol, gallent wneud cais i Gyngor Sir y Fflint ailystyried y mater. Yn dilyn y broses ailystyried, bydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad. Mae ganddynt 7 wythnos i benderfynu, ac os gytunir ar yr ADY, dylent baratoi CDU. Mae’r terfyn amser yn amodol nad oes amgylchiadau eithriadol yn codi a all arwain at oedi.
Mae gan holl blant, eu rhieni/gofalwyr a phobl ifanc, yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg yn erbyn penderfyniadau a wneir gan Gyngor Sir y Fflint, neu sefydliad addysg bellach mewn perthynas â’u ADY neu eu darpariaeth ddysgu ychwanegol.
Pan fydd yr ysgol, sefydliad addysg bellach neu Gyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad am ADY, rhoddir llythyr neu daflen gwybodaeth, sy’n egluro sut all plant, eu rhieni neu’r person ifanc ymarfer eu hawliau.
Gall teuluoedd yn Sir y Fflint gael mynediad at Wasanaeth Cefnogi a Gwybodaeth ADY rhanbarthol newydd. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan SNAP Cymru a bydd yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ddiduedd ar gyfer plant a’u rhieni neu ofalwyr a phobl ifanc sydd ag/neu sydd o bosibl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys datrys anghydfodau ac eiriolaeth ADY ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am SNAP Cymru ar Hafan - SNAP CymruSNAP Cymru.
Plant o dan oedran ysgol gorfodol
Mae gan Gyngor Sir y Fflint Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar. Mae eu rôl yn cynnwys plant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir. Maent yn gyfrifol am gydlynu ein dyletswyddau fel Cyngor, codi ymwybyddiaeth o ADY, a hyrwyddo canfod anghenion yn gynnar.
Eclipse
Bydd Cyngor Sir y Fflint a’i ysgolion yn defnyddio system TG Eclipse i reoli ei brosesau o dan y system ADY newydd. Defnyddir Eclipse gan dri awdurdod cymdogol eraill a fydd yn cefnogi dull cyson ar draws y rhanbarth.
Symud i’r system newydd
Mae dull graddol, cam wrth gam i weithredu’r system newydd. Bydd plant sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) sydd eisoes yn hysbys, yn trosglwyddo i’r system newydd dros gyfnod o 3 blynedd. Mae hyn yn cynnwys plant yn Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a’r rhai gyda Datganiad AAA.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi amserlen ar gyfer trosglwyddo i’r system newydd y bydd rhaid i ysgolion a’r Cyngor ei weithredu. Rhan o’r broses yn gyntaf fydd ystyried a phenderfynu os yw plentyn neu berson ifanc yn bodloni’r diffiniad o ADY fel yr amlinellir o fewn y Ddeddf newydd, hynny yw, eu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Yn dibynnu ar y penderfyniad, bydd llythyr o’r enw Hysbysiad yn cael ei anfon i rieni’r plentyn neu berson ifanc. Os oes cytundeb fod gan y plentyn/person ifanc ADY, fel y diffinnir o fewn y Ddeddf, bydd Hysbysiad CDU’ yn cael ei anfon. Os oes penderfyniad nad oes ADY, bydd ‘Hysbysiad Dim CDU’ yn cael ei anfon.
Ôl-16
I bobl ifanc, mae dull trosglwyddo’n cael ei fabwysiadu ac maen nhw’n cael eu symud yn raddol o’r system AAA i’r system ADY fel a ganlyn:
- Bydd y rhai ym Mlwyddyn 11 yn 2022 i 2023 yn symud i’r system ADY erbyn 31 Awst 2023
- Bydd y rhai ym Mlwyddyn 11 yn 2023 i 2024 yn symud i’r system ADY erbyn 31 Awst 2024
Bydd Deddf Addysg 1996 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn dal i fod yn berthnasol i bobl ifanc sydd eisoes mewn addysg Ôl-16.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn penderfynu ar ran y bobl ifanc hyn er mwyn eu paratoi ar gyfer pontio i addysg ôl-orfodol. Y cam cyntaf yw nodi’r canlyniadau a ddymunir gan y person ifanc ac yna canfod rhaglenni astudio addas, sy’n gwrs addysg bellach neu hyfforddiant.
Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sydd ag ADY yn gallu mynychu coleg/Sefydliad Addysg Bellach lleol. Bydd y Sefydliad Addysg Bellach yn gyfrifol am baratoi a chynnal CDU pan fo angen.
Mewn nifer fach iawn o achosion, efallai y bydd angen lleoliadau arbenigol. Mae’n ddyletswydd ar Gyngor Sir y Fflint i ystyried rhaglenni astudio mewn Sefydliad Addysg Bellach prif ffrwd yn y lle cyntaf. Mae’r Cod ADY yn cynnwys manylion y cyfrifoldebau a osodir ar awdurdodau lleol ynghylch lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbenigol annibynnol.
Mae gan berson ifanc hawl i 2 flynedd o addysg bellach neu hyfforddiant. Y tu hwnt i hynny, gall awdurdod lleol benderfynu bod gan berson ifanc anghenion addysg neu hyfforddiant rhesymol o dan amgylchiadau penodol.
Dolenni defnyddiol
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
Adain ADY
Yr Adran Addysg
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6ND
Ffôn
Saesneg: 01352 704028 / 01352 704150 / 01352 704029
Cymraeg: 01267 224923
E-bost: ALN@siryfflint.gov.uk