Grant Cynaliadwyedd 2024 - 2025
Mae’r grant Cynaliadwyedd hwn wedi ei sefydlu i gefnogi darparwyr gofal plant yn Sir y Fflint. Mae’r grant hwn er mwyn cefnogi darparwyr gofal plant i:
- agor darpariaeth newydd (Grant i fusnesau newydd)
- ehangu neu gynnal eu darpariaeth gofal plant presennol (Grant Cynaliadwyedd)
Os bydd cais yn llwyddiannus, caiff y grant ei dalu’n syth i’r Darparwr Gofal Plant.
Cymeradwyir y grantiau gan Bartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint.
Sicrhewch fod y dogfennau hyn ar gael gennych i’w hatodi gyda’ch cais cyn mynd ymlaen gyda’r ddolen isod:
- Copi o Gyfriflen Banc diweddaraf eich cyfrifon
- Copi o’ch cynllun busnes
- Copi o ddatganiad ariannol eich cyfrifon blynyddol diwethaf
- Copi o’ch adroddiad ansawdd gofal
Os oes angen cymorth arnoch gyda’r dogfennau a restrir uchod cysylltwch ag un o’r canlynol:
- Datblygu Gofal Plant Sir y Fflint
01352 703930
- Clybiau Plant Cymru
01492 536318
- Blynyddoedd Cynnar Cymru
01745 530111
- Mudiad Meithrin
01970 639639
- PACEY Cymru
07734734124
- Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd
01352 759367
Cyflwynwch gais ar wahân os ydych yn dymuno ymgeisio am fwy nag un adran.
I gael rhagor o gymorth gydag unrhyw gais am grant, cysylltwch â ni drwy ffonio 01352 703930 neu e-bostio Childcare.Development@siryfflint.gov.uk