Alert Section

Grant Gofal Plant a Chwarae 2024 - 2025


Mae cyllid Grant Gofal Plant a Chwarae er mwyn cefnogi:

  • Rhieni sy’n mynd yn ôl i’r gwaith neu sydd eisiau gwneud cwrs hyfforddi. 
  • Rhieni sydd eisiau mynediad at ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Lles plant yn ystod argyfwng teulu neu dan amgylchiadau arbennig.

Mae cyllid cyfyngedig ar gael felly efallai na fyddwn yn gallu ariannu pob cais.

Paratowch y dystiolaeth ganlynol cyn i chi wneud cais am y grant.

1. Ymgeiswyr sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith

  • Copïau o’ch cyfarfodydd gwaith gyda’ch hyfforddwr gwaith i ddangos eich bod chi’n chwilio am waith/cadarnhau dyddiad dechrau eich gwaith newydd.
  • Darparwch gopïau o brawf o incwm a budd-daliadau – holl dudalennau eich Datganiad Dyfarniad Credyd Treth diweddaraf neu’r tri mis diweddaraf o Gredyd Cynhwysol gan Gyllid y Wlad (gan ddangos yr holl dudalennau).

2. Ymgeiswyr sy’n dymuno mynychu hyfforddiant

  • Llythyr gan y darparwr Hyfforddiant / Coleg yn dangos dyddiad dechrau’r cwrs hyfforddi a hyd y cwrs.

3. Angen seibiant

  • Ar gyfer lles plant yn ystod argyfwng teulu neu dan amgylchiadau arbennig - atodwch ddatganiad ategol gan weithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol neu addysg.

Fe fydd yn rhaid anfon tystysgrif geni’r plentyn a bil Treth y Cyngor mwyaf diweddar ar gyfer pob cais er mwyn cadarnhau eich bod yn byw yn Sir y Fflint.

Mae’n rhaid i’r rhiant/gofalwr gyflwyno’r ceisiadau.

Os oes gennych chi fwy nag un plentyn, llenwch gais ar wahân ar gyfer pob plentyn.

Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried a’u hateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Os yw ceisiadau’n llwyddiannus, bydd y cyllid yn dechrau o’r diwrnod cymeradwyo a bydd y taliadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i’r darparwr gofal plant bob mis.


Llenwch y Grant Gofal Plant a Chwarae yma

I gael rhagor o gymorth gydag unrhyw gais am grant cysylltwch â ni ar 01352 703930 neu ebostiwch Childcare.Development@siryfflint.gov.uk