Alert Section

Grant Cymorth Ychwanegol a Ariennir a Grant Offer / Adnoddau / Hyfforddiant 2024 - 2025


Diben y grantiau hyn yw galluogi plant gydag Anghenion Cymorth Ychwanegol i gael mynediad at ofal plant a chyfranogi’n llawn ynddo. 

Mae’n rhaid i’r ceisiadau gael eu cyflwyno gan y darparwr gofal plant.

Fe fydd y grantiau hyn yn cefnogi anghenion gofal plant a chwarae plant a phobl ifanc rhwng 0-18 oed.  

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan Lyfryn Cymorth Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn ogystal ag arsylwad gan Swyddog Lleoliadau Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar, a chopïau o unrhyw asesiadau gan Ymwelydd Iechyd y teulu, adroddiadau gan asiantaeth megis Therapydd Iaith a Lleferydd ac ati.   I ofyn am gopi o Lyfryn Cymorth Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar ac ymweliad gan Swyddog Lleoliadau Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch ag aelod o’n tîm drwy ffonio 01352 703930.

Fe all taliad ddechrau o'r dyddiad y cymeradwyir y grant. Mae cyllid cyfyngedig ar gael felly efallai na fyddwn yn gallu ariannu pob cais.

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer y canlynol:

1. Ariannu Gweithiwr Chwarae Ychwanegol i ddarparu cefnogaeth 1:1 i’r plentyn

Efallai y bydd rhai plant angen cefnogaeth ychwanegol gan aelod o staff am ran o’r amser, neu’r holl amser y byddant gyda’u darparwr gofal plant.

Uchafswm y grant ydi £11.50 fesul awr am hyd at 12.5 awr yr wythnos.  Rhaid i unrhyw gost ychwanegol gael ei ysgwyddo gan y darparwr gofal plant. Bydd y taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’r darparwr gofal plant bob mis.

Fe fydd y Tîm Datblygu Gofal Plant yn monitro’r grant ar hap yn dymhorol a byddant yn casglu adborth yn ymwneud â’ch profiad o’r grant.  Os yw eich amgylchiadau yn newid yn y cyfamser a’ch bod yn credu nad oes angen y grant arnoch mwyach, cysylltwch â ni ar drwy ffonio 01352 703930 neu e-bostio Childcare.Development@siryfflint.gov.uk 

Ymgeisiwch am y grant Cymorth Ychwanegol a Ariennir yma

2. Offer / Adnoddau 

Efallai y bydd rhai plant ag Anghenion Cymorth Ychwanegol angen offer / adnoddau ychwanegol i’w galluogi i gymryd rhan yn llawn yn eich lleoliad gofal plant. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y plentyn, ond gall gynnwys deunyddiau dysgu ychwanegol neu offer chwarae arbenigol.

Fe fyddwn ni angen rhestr o eitemau yr hoffech eu prynu, gydag eglurhad y tu ôl i bob cais am bob eitem unigol.  Mae’n rhaid i chi gadarnhau’r pris ar gyfer bob eitem. 

Fe ofynnir am brawf ffotograffig eich bod wedi derbyn yr holl eitemau o fewn 4 wythnos o dalu'r grant yn ogystal â chopïau o'r holl dderbynebau.

Ymgeisiwch am y Grant Offer/Adnoddau yma

3. Hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant 

Fe all hyn gynnwys hyfforddiant ar anghenion  meddygol/gofal iechyd penodol neu hyfforddiant cyffredinol sydd â chysylltiad uniongyrchol â darparu gofal i blentyn penodol gydag anghenion cymorth ychwanegol. I drafod unrhyw geisiadau yn ymwneud â hyfforddiant cysylltwch â’n Tîm Datblygu Gofal Plant ar 01352 703930.


I gael rhagor o gymorth gydag unrhyw gais am grant, cysylltwch â ni drwy ffonio 01352 703930 neu e-bostio Childcare.Development@siryfflint.gov.uk