A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021?
A fyddan nhw’n 4 oed erbyn 31 Awst, 2025?
Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth derbyn ym Medi 2025.
Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar-lein am le yn yr dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2024.
Bydd angen i chi gofrestru i gael cyfrif er mwyn gwneud cais. Cliciwch isod, yna cliciwch y botwm i greu cyfrif.
Gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn
Yr amserlen ar gyfer derbyn i’r Dosbarth Derbyn yw
Amserlen ar gyfer derbyniadau Derbyn
Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni: | Cyfnod i’r rhieni ystyried: | Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni: | Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd: | Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”) |
23/09/24 |
23/09/24 - 18/11/24 |
18/11/24 |
19/11/24 - 24/02/25 |
16/04/25 |
Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau.Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (24 Chwefror 2025) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (16 Ebrill 2025).
Rydw i am newid fy newisiadau neu fy nghyfeiriad cartref – beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi am wneud unrhyw newidiadau i’ch dewisiadau neu newid eich cyfeiriad cartref oherwydd eich bod yn symud tŷ, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen isod. Sicrhewch fod eich manylion yn cyd-fynd â manylion yr ymgeisydd oherwydd ni fyddwn ni’n gallu gwneud y newidiadau.
Sylwch – Dim ond os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais ddylech chi ddefnyddio’r ffurflen isod.
Newid fy newisiadau ar gyfer fy nghais/fy nghyfeiriad cartref
Os ydych chi’n newid eich cyfeiriad, nodwch yr isod:
Os ydych chi’n symud i Sir y Fflint neu o fewn y sir a’ch bod yn dymuno i’ch cais fod yn seiliedig ar eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi roi prawf o’r cyfeiriad hwn i ni.
Math o Symud Ty a Thystiolaeth Ofynnol
Math o Symud | Tystiolaeth |
Prynu Eiddo
|
Pan fyddwch chi wedi symud i mewn, darparwch fil Treth y Cyngor neu fil cyfleustodau diweddar i ni.
|
Rhentu Eiddo
|
Pan fyddwch chi wedi symud i mewn, darparwch fil Treth y Cyngor neu fil cyfleustodau diweddar i ni.
|
Lluoedd Arfog neu Weision y Goron
|
Gorchymyn penodi neu lythyr swyddogol yn nodi’r dyddiad y byddwch chi’n symud a chyfeiriad post yr uned neu’r ardal gwersyll.
|
Lloches Trais Domestig
|
Cadarnhad ysgrifenedig gan staff y lloches eich bod chi’n byw yn y lloches.
|