Alert Section

1bws Tocyn Aml-weithredwr


Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws yn gadael i chi ddefnyddio gwasanaethau 27 o weithredwyr bysiau a bron i 200 o lwybrau bysiau ledled Gogledd Cymru. Felly fe allwch chi deithio o gwmpas yn hawdd heb orfod poeni pa fws i’w ddal. 

Lle allwch chi ddefnyddio tocyn 1Bws?

Fe allwch chi ddefnyddio tocyn 1bws ar unrhyw wasanaeth bws yng ngogledd Cymru o fewn y siroedd canlynol, neu i ac o’r siroedd hyn:

  • Ynys Môn
  • Conwy
  • Sir Ddinbych 
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Wrecsam

Allwch chi ddim defnyddio tocyn 1bws ar wasanaeth Townlynx 28 (Yr Wyddgrug i’r Fflint) na gwasanaethau twristiaeth (fel yr X10).

Gwasanaethau bws sy’n gweithredu yn Lloegr

Allwch chi ond defnyddio tocyn 1bws ar y gwasanaethau hynny sy’n cychwyn neu’n gorffen yng Nghymru ac sy’n mynd yn uniongyrchol i Gaer, Ellesmere Port neu’r Eglwys Wen (Swydd Amwythig).

Gwasanaethau Traws Cymru®

Am ragor o wybodaeth am ba wasanaethau Traws Cymru syn’n derbyn tocynnau 1Bws a gwybodaeth amserlen: https://traws.cymru/cy/use-1bws-ticket-north-wales 

Sut i brynu tocyn 1Bws

I brynu tocyn 1Bws, talwch y gyrrwr ar eich bws cyntaf. Fe dderbynnir arian parod neu daliadau digyffwrdd ar bob bws, heblaw am wasanaeth Townlynx 6 (Yr Wyddgrug - Pant-y-mwyn), nad yw’n derbyn taliadau digyffwrdd.

Beth yw’r prisiau?

Price tocyn Dydd 1Bws

  • Oedolyn £6.50
  • Plentyn (Hyd at 16 oed) £4.50
  • Cerdyn Teithio Rhatach £4.50
  • Tocyn teulu (Hyd at 2 oedolyn  a 3 phlentyn) £14.20
  • Cerdyn teithio rhatach (Lloegr a’r Alban) £4.50

Pris tocyn Wythnosol 1Bws

  • Oedolyn £28.00
  • Plentyn  (hyd at 16 oed) £19.00
  • Cerdyn Teithio Rhatach £19.00
  • Cerdyn teithio rhatach (Lloegr a’r Alban) £19.00

Sut i ddefnyddio tocyn 1bws

I ddefnyddio tocyn 1bws, dangoswch y cod QR ar y tocyn i’r darllenydd ar bob bws y byddwch chi’n ei ddefnyddio wedyn.

Am ba hyd y mae’r tocyn 1bws yn ddilys?

Mae’r tocyn 1bws yn ddilys am ddiwrnod cyfan, hyd at, ac yn cynnwys y bws olaf.