Marwolaethau
Rydym yn sylweddoli bod marwolaeth un o’ch anwyliaid yn gyfnod anodd ac emosiynol. O gofio hyn, ein nod yw sicrhau bod y profiad o gofrestru marwolaeth mor syml â phosibl.
Rhaid cofrestru pob marwolaeth gyda’r Cofrestrydd Marwolaethau a Genedigaethau yn yr ardal lle bu’r person farw. Dylent gofrestru cyn pen 5 diwrnod oni bai bod crwner yn ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth.
Bydd meddyg yn darparu tystysgrif feddygol yn nodi’r rheswm dros y farwolaeth.
Os bu farw’r person yn Sir y Fflint, ac oes yw’r dystysgrif hon gennych chi, bydd angen i chi ffonio’r Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 i drefnu apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth.
Os yw’r crwner wedi cael ei hysbysu o’r farwolaeth, bydd angen ffurflen ychwanegol, gan y crwner, ar y Cofrestrydd. Bydd y crwner yn anfon hon yn syth i’r Swyddfa Gofrestru.
- Perthynas fyddai orau
- Rhywun a oedd yn bresennol pan fu farw’r person fyddai orau
- Rhywun sy’n byw yn y tŷ lle bu farw’r person.
Os nad oes teulu, gellir ehangu’r meini prawf i gynnwys:
- Rhywun sy’n trefnu’r angladd gyda’r trefnydd angladdau
- Rhywun cyfrifol o’r ysbyty neu’r cartref lle bu farw’r person.
- Tystysgrif feddygol gan feddyg yn nodi’r rheswm dros y farwolaeth (os yw’r crwner wedi’i hysbysu o’r farwolaeth, bydd yn anfon y ffurflen hon yn syth at y Cofrestrydd)
- Os ydynt ar gael – tystysgrifau geni, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, sy’n cadarnhau’r manylion i’w cofnodi ar y gofrestr farwolaeth
- Dull o dalu am gopïau o’r dystysgrif marwolaeth (h.y. arian, cerdyn credyd/debyg neu siec gyda cherdyn gwarantu siec).
Bydd y Cofrestrydd yn gofyn i chi gadarnhau’r wybodaeth a ganlyn:
- Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- Yr enw llawn roedd yr ymadawedig yn ei ddefnyddio pan fu farw
- Manylion unrhyw enwau eraill y gelwid yr ymadawedig
- Dyddiad a man geni’r ymadawedig
- Galwedigaeth yr ymadawedig ac a oedd wedi ymddeol
- Cyfeiriad a chod post cartref presennol yr ymadawedig
- Os oedd yr ymadawedig yn briod/mewn partneriaeth sifil neu’n weddw, enw llawn a galwedigaeth ei g/chymar
- Enw llawn a chyfeiriad y person sy’n rhoi’r wybodaeth a’i b/perthynas â’r ymadawedig.
Bydd angen y wybodaeth gyfrinachol a ganlyn hefyd ar gyfer ystadegau’r llywodraeth:
- A oedd yr ymadawedig yn sengl, yn briod, yn weddw, wedi ysgaru, yn bartner sifil, wedi colli partner sifil neu’n gyn bartner sifil?
- A yw’r priod/partner sifil yn dal yn fyw? Os felly, beth yw ei d(d)yddiad geni?
- Am ba hyd fu’n ymadawedig yn yr ysbyty neu mewn sefydliad arall cyn y bu farw?
- A oedd yr ymadawedig yn iau na 75 oed?
- Ym mha ddiwydiant oedd yr ymadawedig yn gweithio a beth oedd ei swydd?
- A oedd yn cael pensiwn o un o gronfeydd y llywodraeth? Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth sifil, athrawon, y lluoedd arfog a gweddwon rhyfel. Nid yw’n cynnwys pensiwn y wladwriaeth neu gredyd pensiwn
- Rhif GIG yr ymadawedig oddi ar ei g/cherdyn meddygol (os yw ar gael).
Ar ôl cofrestru’r farwolaeth, bydd angen i chi lofnodi’r cofnod. Mae’n bwysig bod y wybodaeth a nodir yn gywir gan y gall unrhyw gamgymeriadau y ceir hyd iddynt ar ôl cofrestru arwain at oedi, anhwylustod neu ofid.
Yna, bydd y Cofrestrydd yn rhoi’r ffurflenni a ganlyn i chi:
- Ffurflen werdd i’w rhoi i’r trefnydd angladdau. Os yw’r farwolaeth wedi’i chyfeirio at y crwner, ac os oes amlosgiad yn cael ei drefnu, bydd y crwner yn anfon ffurflen gyfatebol at eich trefnydd angladdau.
- Ffurflen BD8 wen i’w llenwi a’i hanfon gennych chi at yr Adran Gwaith a Phensiynau i atal taliadau pensiwn a budd-daliadau. Bydd hon hefyd yn gyfrwng i hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau bod amgylchiadau unrhyw briod/partner sifil sy’n dal yn fyw wedi newid.
Nac oes. Mae’r gwasanaeth ar gael am ddim. Fodd bynnag, mae modd prynu copïau ardystiedig o’r cofnod marwolaeth (y dystysgrif marwolaeth) am dâl bychan.
Bydd angen i chi ddangos tystysgrif geni pan fyddwch yn gweinyddu ystâd yr ymadawedig (e.e. wrth ddeilio â’r banc, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant).
Os digwyddodd y farwolaeth yn Sir y Fflint, ac os nad ydych chi’n byw yn Sir y Fflint, mae’n bosibl rhoi manylion i unrhyw Gofrestrydd yng Nghymru neu Loegr. ‘Cofrestru drwy ddatganiad’ yw hyn. Bydd yn rhaid i chi fynd i Swyddfa Gofrestru lle bydd y Cofrestrydd yn cofnodi’r wybodaeth ac yn ei hanfon i Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint.
Gallwch hefyd archebu tystysgrifau marwolaeth. Codir tâl am y rhain a bydd angen talu â siec gan ddangos cerdyn gwarantu siec neu archeb bost pan fyddwch yn rhoi’r datganiad. Bydd y Cofrestrydd yn anfon y datganiad a’r taliad i Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint.
Ar ôl cofrestru’r farwolaeth yn Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint, cewch y dogfennau a ganlyn:
- Unrhyw gopïau ardystiedig o’r cofnod marwolaeth y byddwch wedi’u harchebu ac wedi talu amdanynt
- Ffurflen werdd i’w rhoi i’r trefnydd angladdau. Bydd y crwner yn anfon y ffurflen gyfatebol (os bydd angen cynnal post mortem)
- Ffurflen BD8 wen, i chi ei llenwi a’i hanfon i’r Adran Gwaith a Phensiynau i roi manylion unrhyw fudd-dal neu bensiwn.
Mae’r trefniadau hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn byw yn Sir y Fflint ond yn gorfod cofrestru yn rhywle arall yng Nghymru neu Lloegr ac yn methu teithio i’r ardal lle bu farw’r ymadawedig.
Os oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn â ble y dylech gofrestru, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 i gael cyngor.
Os bydd y farwolaeth yn digwydd o dan yr amgylchiadau a ganlyn, caiff ei chyfeirio at y crwner:
- Mae’r farwolaeth yn sydyn ac yn annisgwyl
- Mae’r farwolaeth yn gysylltiedig â diwydiant
- Nid yw’r rheswm dros y farwolaeth yn glir
- Mae’r amgylchiadau’n amheus
- Damwain, trais, hunanladdiad, esgeulustod yn ystod/ar ôl llawdriniaeth arweiniodd at y farwolaeth
- Pan mae meddyg wedi egluro na all ddarparu tystysgrif marwolaeth neu pan nad oedd meddyg wedi bod yn gweld yr ymadawedig yn ystod salwch olaf yr ymadawedig.
Bydd y crwner yn ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth ac yn gwneud un o’r canlynol:
- Rhoi tystysgrif i’r Cofrestrydd i ganiatáu i’r farwolaeth gael ei chofrestru
- Trefnu post mortem ac, ar ôl hynny, bydd modd rhoi tystysgrif i’r Cofrestrydd yn nodi’r rheswm dros y farwolaeth i ganiatáu i’r farwolaeth gael ei chofrestru
- Trefnu post mortem a chynnal cwest. Bydd y crwner yn trefnu i’r farwolaeth gael ei chofrestru ar ôl cynnal y cwest.
Profedigaeth yw un o’r profiadau mwyaf trawmatig mewn bywyd. Mae’n gyfnod o drallod personol enfawr i berthnasau a ffrindiau. Isod, ceir gwybodaeth i helpu’r rhai sy’n ceisio ymdopi â marwolaeth.
- Cruse Bereavement Care Cymru
Corff sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae Cruse yn rhoi cymorth a gwasanaeth cwnsela, mewn grŵp neu un i un.
- The Child Bereavement Charity
Mae’r Child Bereavement Charity (CBC) yn rhoi cymorth arbenigol, gwybodaeth a hyfforddiant i’r rhai sydd wedi colli baban neu blentyn, neu pan fydd plentyn yn colli rhywun agos.
- The Compassionate Friends (UK)
Corff elusennol yw’r Compassionate Friends (UK) sy’n galluogi rhieni a’u teuluoedd i gynnig dealltwriaeth, cymorth ac anogaeth i eraill sydd wedi colli plentyn neu blant. Maent hefyd yn cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth i berthnasau, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n helpu’r teulu.
- The Miscarriage Association
Gall colli plentyn yn y groth fod yn brofiad unig a brawychus sy’n peri gofid enbyd i rai. Mae’r Miscarriage Association yn cynnig cymorth a gwybodaeth i bawb sydd wedi cael y profiad hwn.
Mae colli plentyn yn brofiad hynod o boenus. Rydym eisiau cynnig cymorth ymarferol a thrugarog i deuluoedd sy’n galaru.
Mae amrywiaeth o gymorth ar gael gan gynnwys ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant dan 18 a chyfraniad o £500 tuag at gostau angladd a chostau cysylltiedig eraill.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gefnogi teuluoedd sy’n galaru ar wefan Llywodraeth Cymru.