Covid-19 Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint
Diweddariad 22/12/21
Rydym yn dilyn cyngor ac arweiniad Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad y cyhoedd. Cawn ein harwain gan lefelau rhybudd a chyfyngiadau cyfredol Llywodraeth Cymru a allai newid ar fyr rybudd.
Helpwch ni i gadw pawb yn ddiogel:
- Gwnewch brawf llif unffordd cyn ymweld â’r Swyddfa Gofrestru
- Os ydych chi, neu unrhyw westai yn y seremoni â symptomau, dylid hunanynysu ac archebu prawf PCR
- Gwisgwch orchudd wyneb wrth ymweld â’r Swyddfa Gofrestru oni bai eich bod wedi’ch eithrio.
Priodas a Phartneriaeth Sifil
Rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau ar nifer y bobl a ganiateir yn ein hystafelloedd seremoni ar un adeg i gydymffurfio â’r asesiad risg i ddiogelu cwsmeriaid a staff.
Y nifer fwyaf o bobl a ganiateir ym mhob stafell yw:
- Swyddfa Gofrestru – 6 unigolyn (uchafwm 2 westai/tystion)
- Ystafell Seremonïau – 44 o bobl (uchafwm 40 o westion)
Mae’r ffigyrau hyn yn cynnwys dau Gofrestrydd a’r cwpl.
Genedigaethau
Mae darpariaeth wedi’i wneud ar gyfer cofrestru genedigaethau i’w gwneud yn rhannol dros y ffôn. I gwblhau’r cofrestriad, mae'n rhaid i riant/ rieni lofnodi’r gofrestr yn bersonol yn y Swyddfa Gofrestru a byddwn yn trafod y trefniadau ar gyfer hyn pan fyddwn yn trefnu’r apwyntiad. Gallwn ond cofrestru babanod sy’n cael eu geni yn Sir y Fflint.
Ar gyfer cofrestru babanod wedi’u geni mewn gwledydd eraill, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru yn y sir lle ganwyd y babi h.y.
- Ysbyty Glan Clwyd - 01824 708100
- Ysbyty Countess of Chester – 01244 972668
- Ysbyty Maelor Wrecsam - 01978 298997
I wneud apwyntiad am gofrestriad dros y ffôn ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333.
Marwolaethau a Marw-enedigaethau
Mae darpariaeth wedi’i wneud ar gyfer cofrestru marwolaethau i’w gwneud yn rhannol dros y ffôn. Mae’r Gwasanaeth Cofrestru hefyd yn gweithio’n agos gydag ymarferwyr iechyd i rannu gwybodaeth yn electronig, i gael gwared ar y gofyniad i deuluoedd mewn profedigaeth ddod i’r Swyddfa Gofrestru yn ystod yr argyfwng cyfredol.
I wneud apwyntiad am gofrestriad dros y ffôn ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333.