Partneriaethau Sifil
Gall cyplau o’r un rhyw wneud eu perthynas yn ffurfiol drwy gofrestru fel partneriaeth sifil. Yn Sir y Fflint, dim ond Cofrestrydd a benodir gan y Cyngor Sir all gofrestru partneriaeth sifil. Rhaid i hynny ddigwydd yn y Swyddfa Gofrestru neu mewn adeilad a gymeradwywyd ac sydd wedi cael trwydded gan y Cyngor Sir. Nid oes modd cofrestru’r bartneriaeth mewn man addoli. Gallwch ddewis y modd rydych yn cofrestru’ch partneriaeth sifil. Gallwch drefnu ei chofrestru’n unig neu gallwch drefnu seremoni i gyd-fynd â’r cofrestru. Os ydych am gofrestru partneriaeth sifil yng Nghymru neu Loegr, gallwch wneud hynny drwy lofnodi’r Atodlen Partneriaethau Sifil yn y Swyddfa Gofrestru neu drwy ei chofnodi yn ystod seremoni yn y Swyddfa Gofrestru neu mewn adeilad a gymeradwywyd. Does dim rhaid cael seremoni ffurfiol – gallwch gofrestru dim ond drwy ddod i’r Swyddfa Gofrestru gyda dau dyst, a llofnodi’r dogfennau swyddogol. Os dewiswch seremoni partneriaeth sifil yn Sir y Fflint gallwch ychwanegu darlleniadau a cherddoriaeth i greu seremoni unigryw a phersonol. Gallwch hefyd gyfnewid modrwyau neu anrhegion fel rhan o’ch seremoni. Gallwn gynnig seremoni Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog. Cewch gyfle i ymweld â’r Cofrestrydd Partneriaethau Sifil i drafod eich diwrnod arbennig.
Ystafell Seremonïau Neuadd Llwynegrin, Y Swyddfa Gofrestru, Yr Wyddgrug.
Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru neu Loegr os ydych chi:
- yn 16 oed neu’n hŷn
- ddim eisoes yn briod nac mewn partneriaeth sifil
- ddim yn perthyn yn agos
Gall cyplau o’r un rhyw drosi partneriaeth sifil i briodas yng Nghymru neu Loegr.
Os ydych chi’n iau na 18 oed
Bydd arnoch chi angen caniatâd gan eich rhieni neu warcheidwaid i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru neu Loegr.
Mae’r rheolau’n wahanol os oes arnoch chi eisiau priodi neu ffurfio partneriaeth sifil yn yr Alban, Gogledd Iwerddon neu dramor.
Os ydych chi neu'ch partner o'r tu allan i'r DU
Mae’n rhaid i chi ymgeisio am fisa er mwyn priodi neu ffurfio partneriaeth sifil yn y DU os:
- nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
- nad oes gennych chi ganiatâd amhenodol i aros ym Mhrydain
Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â phriodi neu ffurfio partneriaeth sifil, ymwelwch â gwefan GOV.UK
Gallwch gofrestru/cynnal seremoni mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru neu adeilad a gymeradwywyd yng Nghymru neu Loegr, waeth lle’r ydych yn byw.
Rhaid cyflwyno hysbysiad o’r bartneriaeth sifil yn eich Swyddfa Gofrestru leol.
Ar ôl penderfynu pryd a lle’r ydych am gofrestru’ch partneriaeth, os ydych yn byw yn Sir y Fflint, dylech gysylltu â Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint i drefnu i chi a’ch partner gyflwyno Hysbysiad. Rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal ers 7 diwrnod o leiaf cyn cyflwyno Hysbysiad. Os ydych yn byw mewn gwahanol ardaloedd, bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch gyflwyno hysbysiad yn eich ardaloedd eich hunain. Rhaid cofrestru’ch partneriaeth pen 12 mis ar ôl cyflwyno’r hysbysiad ac ar ôl cyfnod clir o 28 diwrnod / 16 diwrnod cyn 2 Fawrth 2015.
Y dogfennau sydd eu hangen wrth gyflwyno Hysbysiad:
• Prawf adnabod a chenedligrwydd (eich pasbort fyddai orau)
• Os nad oes gennych basport cyfredol dilys, dylech ddangos eich tystysgrif geni. Ers 1 Ionawr 1983 mae'ch cenedligrwydd yn dibynnu ar genedligrwydd eich rhieni. Os cawsoch eich geni cyn y dyddiad hwnnw, dylech adangos eich pasbort neu'ch tystysgrif geni. Os cawsoch eich geni ar ôl y dyddiad hwnnw dylech ddangos eich pasbort neu'ch tystysgrif geni llawn ynghyd â thystiolaeth o genegligrwydd un o'ch rhieni (eu tystysgrif geni neu basport)
• Prawf o’ch cyfeiriad
• Os ydych wedi ysgaru neu os yw partneriaeth sifil flaenorol wedi’i diddymu, eich Archddyfarniad Absoliwt neu’ch Diddymiad Partneriaeth Sifil, sy’n dangos stamp gwreiddiol y llys
• Os ydych yn weddw neu wedi colli’ch partner sifil blaenorol, Tystysgrif Marwolaeth eich cymar
• Os ydych wedi newid eich enw’n ffurfiol, eich Gweithred newid Enw neu’ch dogfen Datganiad Statudol
• Os nad ydych yn Brydeiniwr ac yn destun rheolaeth fewnfudo bydd angen i'r ddau ohonoch roi rhybudd o'ch priodas mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig. Cysylltwch â Gofrestru Sir y Fflint am fwy o wybodaeth
• Y tâl cyfredol
Rhaid i chi fod yn 16 oed o leiaf ac os ydych dan 18 oed, bydd angen caniatâd eich rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad arnoch cyn y cewch gofrestru’ch Partneriaeth Sifil.
Cyhyd â’ch bod yn 16 oed neu drosodd ac nad oes dim yn eich rhwystro rhag uno mewn partneriaeth sifil, gall unrhyw un drefnu i gael seremoni yn Sir y Fflint, gan gynnwys pobl o weddill y DU a phobl o dramor, cyhyd ag y bo’r meini prawf preswylio’n cael eu bodloni.
Mae ffioedd partneriaeth sifil yn amrywio’n ôl y gwasanaeth a ddarperir, lleoliad y seremoni ac a yw’n cael ei chynnal ar un o ddyddiau’r wythnos, ar benwythnos ynteu ar Ŵyl Banc. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 neu darllenwch ein tabl ffioedd.
Gallwch gofrestru’ch partneriaeth sifil mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru neu adeilad a gymeradwywyd yng Nghymru neu Loegr, waeth lle’r ydych yn byw.
Mae seremoni’n ffordd ddelfrydol o ddathlu’ch ymrwymiad i’ch gilydd ac i ddathlu’r bartneriaeth yng nghwmni’ch teulu a’ch ffrindiau. Bydd eich seremoni’n unigryw ac yn bersonol i chi. Gallwn gynnig seremoni Gymraeg, Saesneg neu ddwyieithog a gallwch ychwanegu darlleniadau a cherddoriaeth ati.
Does dim rhaid i chi gael seremoni ond mae’n rhaid i ddau dyst fod yn bresennol pan gaiff y dogfennau eu llofnodi ym mhresenoldeb y Cofrestrydd.
Cewch. Gallwch gyfnewid modrwyau fel rhan o’r seremoni os dymunwch. Ffoniwch i drafod eich anghenion.
Fel arfer, bydd seremonïau’n para tua hanner awr, gan ddibynnu a ydych yn cynnwys darlleniadau neu gerddi yn eich seremoni. Ffoniwch y Cofrestrydd i gael rhagor o fanylion.
Cewch daflu conffeti’r tu allan i’r Swyddfa Gofrestru. Os ydych yn priodi mewn lleoliad a gymeradwywyd, bydd angen i chi drafod hyn gyda rheolwr y lleoliad.
Ar ôl cofrestru’r bartneriaeth sifil, gall y Cofrestrydd roi tystysgrif partneriaeth sifil i chi am ffi. Cewch brynu rhagor o gopïau’n ddiweddarach.
I gael rhagor o ganllawiau a gwybodaeth ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333.