Alert Section

Troi'ch partneriaeth sifil yn briodas


O ddydd Mercher 10 Rhagfyr  2014 ymlaen gall cyplau droi eu partneriaeth sifil yn briodas, ond dim ond os oedd y bartneriaeth wedi’i chofrestru yng Nghymru neu Loegr, neu dramor yn un o swyddfeydd Is-gennad Prydain neu un o ganolfannau ei lluoedd arfog (lle cofrestrwyd y bartneriaeth sifil yn unol â deddfau Cymru a Lloegr). 

Caiff cyplau ddewis rhwng proses un cam neu broses dau gam ond bydd yn rhaid i bob cwpl drefnu apwyntiad mewn swyddfa gofrestru er mwyn , a rhaid i’r ddau ddod i ddangos tystiolaeth o’r canlynol:

  • Enw a dyddiad geni (pasbort fyddai orau)
  • Cyfeiriad (trwydded yrru, adroddiad banc neu fil cyfleustodau)
  • Eich partneriaeth sifil (eich tystysgrif) 

I drefnu apwyntiad, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 neu anfonwch e-bost at registrars@flintshire.gov.uk 

Hyd yn oed os na chynhaliwyd eich seremoni partneriaeth sifil yn Sir y Fflint, gallwch  ddod i swyddfa gofrestru Sir y Fflint i’w throi’n briodas. 


Un cam

Os yw cyplau'n dymuno dilyn y broses un cam, bydd y bartneriaeth yn troi’n briodas pan fydd y ddau’n llofnodi datganiad, mewn swyddfa gofrestru, yn dweud nad ydynt wedi diddymu eu partneriaeth sifil a bod y ddau ohonynt am ei throi’n briodas.

Rhaid llofnodi’r datganiad mewn swyddfa gofrestru. Yna caiff y briodas ei chofrestru a chânt dystysgrif priodas. 

Dau gam

Os yw cyplau am lofnodi'r datganiad mewn swyddfa gofrestru mewn ardal wahanol i honno lle cofnodwyd eu manylion neu mewn Eiddo Cymeradwy yn eu hardal eu hunain, rhaid iddynt ddilyn y drefn a ganlyn: 

Cam 1 - Gall cyplau drefnu apwyntiad mewn unrhyw swyddfa gofrestru i weld y Cofrestrydd Arolygol i lenwi datganiad ac i ddangos y dystiolaeth ofynnol. 
Cam 2 Gall cyplau lofnodi'r datganiad, a chael seremoni wedyn, yn unrhyw un o’r lleoliadau lle gall cyplau o’r un rhyw briodi: 

  • Safle cymeradwy, gan gynnwys yr Ystafell Seremonïau ym Mhlas Llwynegrin, yr Wyddgrug. 
  • Adeiladau crefyddol sydd wedi’u cofrestru i briodi cyplau o’r un rhyw (gan gynnwys capeli’r fyddin, y llynges a’r llu awyr) lle bydd seremoni o dan Adran 46 o Ddeddf Priodasau 1946 yn cael ei chynnal yn syth ar ôl llofnodi’r datganiad i droi’r bartneriaeth sifil yn briodas.
  • Adeilad lle y bydd seremoni’n cael ei chynnal yn unol â’r ffydd Iddewig neu Gymdeithas y Cyfeillion yn syth ar ôl llofnodi’r datganiad i droi’r bartneriaeth sifil yn briodas. 

Rhaid i’r Cofrestrydd fod yn bresennol pan gaiff pob partneriaeth sifil ei  throi’n briodas, gan gynnwys y rheini a gaiff eu cynnal mewn adeilad crefyddol.

O dan y broses dau gam bydd y briodas ganlynol yn cael ei chofrestru pan fydd y Cofrestrydd Arolygol yn dychwelyd i'r swyddfa a chaiff y dystysgrif priodas ei phostio i’r cwpwl.


Ffioedd

Y ffi lawn ar gyfer troi partneriaeth sifil yn briodas yw £45, ond bydd yn ddi-dâl os oedd eich partneriaeth sifil wedi’i chofrestru cyn dydd Sadwrn 29 Mawrth 2014 (cyn i chi gael cyfle i briodi). Bydd y broses yn ddi-dâl am 12 mis, tan ddydd Mercher 9 Rhagfyr 2015.  

Bydd angen i chi dalu'r ffi: 

  • os cafodd eich partneriaeth sifil ei chofrestru ar ôl dydd Sul 29 Mawrth 2014, neu os ydych yn bwriadu ei chofrestru yn y dyfodol ac yna’i throi’n briodas; ac 
  • ar ôl dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015 - hyd yn oed os cafodd eich partneriaeth sifil ei chofrestru cyn dydd Sul 29 Mawrth 2014. 

Os yw cyplau am ddilyn y broses 2 gam a chynnal seremoni mewn safle cymeradwy ar ôl llofnodi’r datganiad, bydd gostyngiad o £45 yn y ffi yn ystod y flwyddyn gyntaf, hyd at 9 Rhagfyr 2015 (darllenwch fanylion y seremoni Adnewyddu Addunedau isod)  ond bydd y Swyddfa Gofrestru’n codi ffi o £27 i gadarnhau  tystiolaeth.

Mae ffi o £11.00 am y dystygrif. Gallwch dalu ag arian parod neu â cherdyn credyd / debyd yn Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint.


 

Terfyn amser ar gyfer troi partneriaeth sifil yn briodas

Cyn gynted ag y bydd y Cofrestrydd Arolygol yn cael y manylion i droi partneriaeth sifil yn briodas, rhaid i’r cwpwl a’r Cofrestrydd Arolygol lofnodi’r datganiad cyn pen 12 mis ar ôl y dyddiad hwnnw.

Seremoni Adnewyddu Addunedau

Nid oes unrhyw seremoni briodas swyddogol ynghlwm wrth y broses o droi partneriaeth sifil yn briodas, ond gall cyplau ddewis cael seremoni Adnewyddu Addunedau mewn lleoliad o’u dewis nhw, cyhyd ag y bo gan y lleoliad drwydded i weinyddu priodasau. 

Os hoffech gael seremoni, trafodwch hyn gydag aelod o'r gwasanaeth cofrestru pan fyddwch yn trefnu’ch apwyntiad.  Dyma’r  ffioedd ar gyfer cynnal seremoni Adnewyddu Addunedau sy’n gysylltiedig â throi partneriaeth sifil yn briodas, am y flwyddyn gyntaf (hyd at 9 Rhagfyr 2015): 

Yn yr Ystafell Seremonïau, Plas Llwynegrin, yr Wyddgrug:
DyddPris
O ddydd Llun i ddydd Gwener £75 (£120 gan gynnwys TAW llai £45)
Dydd Sadwrn £111 (£156 gan gynnwys TAW llai £45)

Nid yw'r Swyddfa Gofrestru’n cynnal  seremonïau ar ddydd Sul na gwyliau banc 

Mewn lleoliadau cymeradwy: 
DyddPris
O ddydd Llun i ddydd Gwener £135 (£180 gan gynnwys TAW llai £45)
Dydd Sadwrn  £163 (£208 gan gynnwys TAW llai £45)
Dydd Sul neu ŵyl banc  £205 (£250 gan gynnwys TAW llai £45)

Ystafell Seremonïau Neuadd Llwynegrin, Y Swyddfa Gofrestru, Yr Wyddgrug

Llwynegrin Hall Ceremony Room / Ystafell Seremonïau Neuadd Llwynegrin

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol i’w chael ar y gwefannau a ganlyn:

  • gov.uk - gwefan y llywodraeth sy'n cynnwys gwybodaeth i’r cyhoedd.
  • Cydraddoldebau'r Llywodraeth (GEO) - mae  wedi diweddaru’r dudalen wybodaeth am briodasau cyplau o’r un rhyw.
  • Stonewall – y grŵp sy’n lobïo ar ran pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol , mae adran cwestiynau ac atebion hefyd.