Alert Section

Tystysgrifau


Yng Nghymru a Lloegr, dechreuwyd cofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ar 1 Gorffennaf 1837, a dechreuwyd cofrestru Partneriaethau Sifil ar 5 Rhagfyr 2005. Mae systemau gwahanol ar waith yn yr Alban ac yng ngogledd Iwerddon.

Rhennir y wlad yn ardaloedd cofrestru ac mae gan bob ardal Cofrestrydd Arolygol sy’n gyfrifol am y cofrestri blaenorol sy’n perthyn i’r ardal. Maent yn cynnwys cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau o 1 Gorffennaf 1837 ymlaen.

Os ydych chi’n gwybod ym mha ardal y digwyddodd y digwyddiad, bydd angen i chi wneud cais i Gofrestrydd Arolygol yr ardal honno. Cewch gopi ardystiedig o’r cofnod gan y Cofrestrydd Arolygol. Mae ffi am y gwasanaeth hwn

Mae cofrestri Sir y Fflint yn cael eu cadw ym Mhlas Llwynegrin, yr Wyddgrug o 1 Gorffennaf 1837 ymlaen, ac mae modd cael copïau ardystiedig o unrhyw gofnod o enedigaeth, marwolaeth neu briodas o’r cofrestri hyn a chewch weld cofrestriad partneriaeth sifil yn Sir y Fflint oddi ar gronfa ddata ar-lein y llywodraeth. 

Mae’r cofrestri genedigaethau, marwolaethau a phriodasau naill ai’n:

  • Anghyflawn – yn dal yn cael eu defnyddio gan y Cofrestrydd neu’r Eglwys, neu’n
  • Gyflawn – yn cael eu cadw ym Mhlas Llwynegrin, yr Wyddgrug.

Beth am enedigaethau, marwolaethau a phriodasau cyn 1837?

Mae’n bosibl y byddai digwyddiadau cyn 1 Gorffennaf 1837 wedi cael eu cofnodi mewn cofrestr bedydd, priodas a chladdedigaeth eglwysi, a gaiff eu cadw gan Archifydd y Sir. Gall ffurflenni’r cyfrifiad weithiau fod yn ffynonellau gwybodaeth defnyddiol. Gall staff yr Archifdy  eich cynghori.

Gwneud cais am gopi o dystysgrif

  • Ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 yn ystod oriau swyddfa i siarad ag aelod o staff.
  • Ewch i’r Swyddfa Gofrestru i wneud cais

P’un bynnag rydych yn ei ddewis, bydd yn rhaid i chi dalu am y dystysgrif(au) cyn y gallwn brosesu’ch cais. Gallwch dalu â siec (yn daladwy i Gyngor Sir y Fflint), archeb bost, cerdyn credyd neu ddebyd (dros y ffôn neu’n bersonol) neu ag arian parod.

Fel arfer, cewch eich tystysgrif(au) cyn pen 5 diwrnod gwaith.