Systemau Draenio Cynaliadwy
Mae Cyngor Sir y Fflint yn profi llawer o alw am gyngor cyn ymgeisio mewn perthynas â chymeradwyo SDC sy’n wasanaeth yn ôl disgresiwn am ddim a gynigir gan y Cyngor ar hyn o bryd.
Oherwydd adnoddau cyfyngedig mae pob cais yn cael ei adolygu yn y drefn gronolegol y cawsant eu derbyn.
Rydym yn parhau i annog cysylltu’n fuan â’r SAB ond yn cydnabod efallai y bydd yna oedi cyn darparu adborth.
Bydd newid sylweddol i ofynion draenio yn cael effaith ar ddatblygiadau newydd o fis Ionawr 2019. O 7 Ionawr 2019, bydd angen systemau draenio cynaliadwy ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac 1 tŷ neu lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy i reoli dŵr wyneb ar y safle. Rhaid i systemau draenio fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau gofynnol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) cyn y bydd gwaith adeiladu’n dechrau.
Bydd dyletswydd ar CCS i fabwysiadu systemau sy’n cydymffurfio, cyhyd a’i fod wedi ei adeiladu ac yn gweithredu yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyaeth CCS.
Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 yn gorchymyn systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd i gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau). Gweler isod y dolenni i wefannau Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth.
https://gov.wales/topics/environmentcountryside/epq/flooding/drainage/?skip=1&lang=cy
Mae Atodlen 3 DRhLlD 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy’n cyd-fynd ag adran 17 yr Atodlen. I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, ewch i Atodlen 3 Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010.
Mae’r CCS yn swyddogaeth statudol a gynigir gan yr awdurdod lleol i sicrhau fod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac 1 tŷ neu lle bod yr arwynebedd adeiladu yn 100m2 wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
Sefydlwyd yr CCS i:
- Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae goblygiadau draenio i’r gwaith adeiladau, a
- Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy yn unol ag Adran 17 Atodlen 3 (DRhLlD)
- Mae hefyd gan y CCS bwerau arolygu a gorfodi
- Ac mae’n defnyddio pwerau disgresiwn i gynnig cyngor cyn ymgeisio anstatudol
Os ydych yn ddatblygwr, yn asiant neu'n unigolyn sy'n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy nac 1 tŷ neu arwynebedd adeiladu o 100m2 neu ragor mae hefyd rhaid i chi geisio cymeradwyaeth CCS ynghyd â chymeradwyaeth gynllunio. Ni fydd hawl gennych i ddechrau adeiladu nes rhoddir y 2 ganiatâd.
Ni fydd yn ofynnol i safleoedd a datblygiadau presennol sydd wedi sicrhau caniatâd cynllunio neu yr ystyrir eu bod wedi derbyn caniatâd (boed yn ddarostyngedig i amodau fel mater a gadwyd yn ôl) neu y derbyniwyd cais dilys ar ei gyfer ond nad yw wedi ei bennu erbyn 7 Ionawr 2019, wneud cais am gymeradwyaeth CCS.
Serch hynny, bydd yn dal angen cymeradwyaeth CCS os rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amod o ran mater a gadwyd yn ôl ac nad yw'r cais i gymeradwyo'r mater a gadwyd yn ôl wedi ei wneud cyn 7 Ionawr 2010.
Mae yna rai eithriadau:
- Mae gwaith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio wedi ei eithrio o’r gofyniad am gymeradwyaeth CCS, nid yw’r eithriad yn berthnasol lle mae’r gwaith adeiladu ag arwynebedd o 100 m2 neu ragor
- Boed angen caniatâd cynllunio ai peidio, eithriwyd gwaith adeiladu sy'n cynnwys adeiladu un annedd, neu fath arall o adeilad, sydd ag arwynebedd o lai na 100m2, o’r gofyniad i sicrhau cymeradwyaeth.
Gwnewch ddewis perthnasol
- Proses cyn ymgeisio CCS nad yw'n gysylltiedig â phroses cyn ymgeisio’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Bydd y CCS yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio am dâl i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn ar wahân i’r gwasanaeth cyn ymgeisio, felly bydd angen i chi ymgysylltu’n fuan â’r gwasanaethau perthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod y dyluniad SDCau arfaethedig yn addas yn unol â safonau cenedlaethol a chynllun safle digonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu cyfyngu oedi a lleihau costau yn y tymor hir.
- Proses cyn ymgeisio CCS wedi’i chyfuno â phroses cyn ymgeisio’r Awdurdod Cynllunio Lleol
Bydd yr CCS yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio y codir tâl amdano i drafod gofynion draenio eich safle yn fanwl a beth sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig gyda’r cyngor cyn ymgeisio os byddwch yn dymuno ei dderbyn. Bydd hyn yn sicrhau bod y dyluniad SDCau arfaethedig yn addas yn unol â safonau cenedlaethol a bod cynllun safle digonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr i helpu cyfyngu oedi a lleihau costau yn y tymor hir.
Y dyddiad cychwyn ar gyfer y gofyniad am gymeradwyaeth yw 7 Ionawr 2019 ac rydym ar hyn o bryd yn sefydlu ein gwasanaeth newydd i ymdrin â’ch ceisiadau a gwefan bwrpasol i gynnig gwybodaeth ychwanegol i chi pan fydd ar gael.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y broses newydd hon cysylltwch â ni SAB@Flintshire.gov.uk
Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael ac mae’r tudalennau canlynol yn adnodd defnyddiol am ddim i gael rhagor o wybodaeth ar Ddraenio Cynaliadwy a’ch helpu chi i ddeall yr hyn y bydd angen i chi ei ystyried.
CIRIA 757: 'The SuDs Manual':