Tir llygredig
Cyngor - Datblygu Tir Halogedig
Adroddiadau Asesu Tir Halogedig
Datganiad Sefyllfa - Y Cynllun Marc Ansawdd Cenedlaethol / Unigolyn Cymwys
Mae gan dir halogedig y posibilrwydd o effeithio ar iechyd a lles.
Mae gan Awdurdodau Lleol gyfrifoldeb wrth ystyried cais cynllunio neu wrth ryddhau amod cynllunio, bod effeithiau cronnol llygredd ar iechyd, yr amgylchedd naturiol, amwynder a sensitifrwydd posibl yr ardal, neu ddatblygiad arfaethedig a’r effeithiau andwyol o gael eu hamlygu i lygredd, yn cael eu hystyried.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn croesawu cyflwyno’r cynllun hwn sydd mewn egwyddor, yn ceisio gwella ansawdd adroddiadau asesu tir halogedig sy’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor.
Serch hynny, nid yw’r Cyngor yn cefnogi’r Cynllun Marc Ansawdd Cenedlaethol a byddai’n disgwyl i’r cynllun gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru cyn ei ystyried.
Nid yw’r stamp Unigolyn Cymwys yn warant bod adroddiad yn dderbyniol, ond dylai ddarparu arwydd tra’n adolygu adroddiad, y gallai’r Swyddog Tir Halogedig ddisgwyl i ansawdd y wybodaeth a ddarperir fod o safon addas ac na fyddai adolygu’r adroddiad hwn yn arwain at ohebiaeth o bwys na maith.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint o’r farn bod cyflwyno adroddiad sydd â marc Unigolyn Cymwys/Cynllun Marc Ansawdd Cenedlaethol yn bodloni gofynion amod cynllunio ac ni fydd lefel craffu adroddiadau gan y Swyddog Tir Halogedig yn cael ei leihau.
Cofrestr tir halogedig (Y dogfennau isod):
Contaminated land remediation notice wirral (PDF 500KB ffenestr newydd)
Contaminated land remediation statement Beechwood (PDF 2MB ffenestr newydd)
Contaminated land remediation statement Bilberry (PDF 2MB ffenestr newydd)
Contaminated land remediation statement Wirral (PDF 1MB ffenestr newydd)
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am Strategaeth Tir Halogedig Sir y Fflint, mae croeso i chi ysgrifennu atom:
Cyngor Sir y Fflint
Gwarchod Cymuned a Busnes
Yr Adran Rheoli Llygredd
Ty Dewi Sant
Ewloe
Sir y Fflint
CH5 3FF
(Byddai o gymorth i ni pe baech yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad post a’ch rhif ffôn mewn unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig).