Alert Section

Bywyd yn Sir y Fflint


Y 'porth' i ogledd Cymru

Mae Sir y Fflint mewn lleoliad dethol, ac mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb. 

Mae cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwych yn golygu mynediad hawdd i Gymru a gweddill y DU.

Mae ansawdd bywyd da yn Sir y Fflint oherwydd prisiau eiddo cystadleuol, cyfleusterau hamdden ac addysg o’r radd flaenaf, ynghyd â chefn gwlad hygyrch a llwybrau cerdded arfordirol.

Mae canol trefi Sir y Fflint yn cynnwys masnachwyr annibynnol a siopau’r stryd fawr, yn ogystal â marchnadoedd stryd bywiog a gwyliau arbenigol.

Mae cefn gwlad Sir y Fflint yn dirlun o amrywiaeth anhygoel, gyda digon i’w ddarganfod.

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
  • Traeth arbennig Talacre, sydd wedi ennill gwobrau.
  • Henebion a chestyll.
  • Glannau afonydd tawel, coetiroedd hynafol, dyffrynnoedd coediog a thir fferm tonnog.
  • Arfordir sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt, Afon Dyfrdwy a’i haber.
  • Mae dinas hanesyddol  Caer a Pharc Cenedlaethol Eryri hefyd o fewn tafliad carreg.

Darganfyddwch fwy am Sir y Fflint ac ardal Gogledd Ddwyrain Cymru drwy ymweld â  www.cometo.wales neu www.northeastwales.wales