Alert Section

Archwiliadau Cyn Eich Cyflogi


Os ydych chi’n gwneud cais am swydd gyda Chyngor Sir y Fflint, byddwn yn gofyn am y llythyrau geirda arferol a/neu’n cynnal yr archwiliadau cefndir arferol, a dim ond os bydd canlyniadau’r rhain yn foddhaol y cewch eich penodi.

Mae archwiliadau cyflogaeth yn rhan hanfodol o’r broses recriwtio. Maent yn sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a bod ein holl weithwyr wedi’u harchwilio’n briodol. Yn ogystal â’r archwiliadau safonol, mae’n ofynnol i ni, yn ôl y gyfraith, gynnal archwiliadau mwy trylwyr os ydych yn gwneud cais am swydd sy’n golygu gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed.

Os byddwn yn cynnig swydd i chi, dyma enghreifftiau o’r math o archwiliadau y byddwn yn eu cynnal 
Prawf o’ch hawl i weithio yn y DU Archwiliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, llythyr geirda, dilysu cymwysterau iechyd a diogelwch ac aelodaeth o gyrff proffesiynol (os yw hynny’n berthnasol i’r swydd). Cewch ragor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen yma

Canllawiau Gov.UK ar Prawf Hawl i Weithio yn y DU