Alert Section

Eich Gyrfa A'ch Datblygiad


Gwobrau a Chyflawniadau Prentisiaid 

Mae nifer o Weithwyr dan Hyfforddiant Sir y Fflint wedi mynd ymlaen i gael cydnabyddiaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Mae Gwobrau Prentisiaeth Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE) yn wobrau mawreddog sy’n cael eu cyflwyno i’r prentisiaid mwyaf brwdfrydig, sy’n dangos eu bod yn arloesol ac yn canolbwyntio ar gyflawni rhagoriaeth yn eu maes gwasanaeth. Maent yn wynebu eu cyfoedion o bob cwr o’r DU, ac mae’n gyflawniad sylweddol bod prentis yn cyrraedd y rhestr fer yn y rownd derfynol.

Roedd 2019, yn flwyddyn lwyddiannus iawn i Sir y Fflint. Cyrhaeddodd prentis peintwyr ac addurnwyr gyda Sir y Fflint y rownd derfynol yng nghategori Sgiliau Adeiladu a chyrhaeddodd dau o brentisiaid gweithredol Gwasanaethau Stryd y rownd derfynol yn y categori hwnnw. Roedd un yn fuddugol gan ennill tlws y buddugwyr.

Trainee Awards

Gareth - Prentis Paentiwr ac Addurnwr - Rheoli Asedau Tai - Cyrraedd rownd derfynol yn y categori ‘Sgiliau Adeiladu'

Trainee Awards 2

Adam - Prentis Gweithredol Gwasanaethau Stryd - Enillydd Cyffredinol y categori ‘Gwasanaethau Stryd’

Trainee Awards 3

Matthew - Prentis Gweithredol Gwasanaethau Stryd - Cyrraedd rownd derfynol yn y categori ‘Gwasanaethau Stryd’

Trainee Awards 4

Francesca - Cyn Brentis Marchnata - Medal Dysgwr Eisteddfod yr Urdd yn 2019

Nod Cystadleuaeth Medal y Dysgwr gan yr Urdd ydi gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac sy’n ymfalchïo yn eu Cymreictod.  Caiff ei gwobrwyo i unigolion sydd yn dangos sut maent yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn y coleg neu’r gwaith neu’n gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg pobl eraill.

Roedd cyn brentis Marchnata gyda Sir y Fflint yn fuddugol gan ennill Medal Dysgwr Eisteddfod yr Urdd yn 2019.

Rydym ni hyd yn oed yn cynnal ein gwobrau Gweithwyr dan Hyfforddiant Sir y Fflint ein hun i gydnabod datblygiad ein gweithwyr dan hyfforddiant a dathlu cyflawniadau blaengar prentisiaid y Cyngor. Mentoriaid cyrsiau, rheolwyr ac aseswyr sydd yn enwebu’r prentisiaid ac mae hi’n gystadleuaeth o safon uchel!

Cwestiynau ac Atebion


Q and A 1

Sophie – Prentis Gweinyddu Busnes – yr Adran Refeniw

Ble welsoch chi’r brentisiaeth yn cael ei hysbysebu?

Mi oeddwn i’n chwilio am swydd wag ar wefan Cyngor Sir y Fflint pan welais i’r hysbyseb am y brentisiaeth.  

Beth wnaeth i chi ymgeisio am y brentisiaeth?

Fe wnes i ymgeisio am y swydd i fod yn Hyfforddai yng Nghyngor Sir y Fflint gan ei fod yn gyfle gwych i gael gwaith yn y maes gweinyddol. Gan mai gofal plant oedd fy nghefndir, roedd yn anodd i mi newid gyrfa, felly pan welais y cyfle hwn, mi es i amdano fo!

Disgrifiwch ‘ddiwrnod arferol’ fel prentis yng Nghyngor Sir y Fflint.

Fy niwrnod arferol yng Nghyngor Sir y Fflint yw mewngofnodi i fy ngliniadur a chael golwg ar fy mlwch e-bost a llunio rhestr o’r hyn rydw i angen ei wneud y diwrnod hwnnw. Rydw i wedyn yn derbyn galwadau gan gwsmeriaid, yn ateb unrhyw ymholiadau sydd ganddynt ac yn eu cyfeirio at yr adrannau perthnasol.

Sut ydych chi’n gweld y cydbwysedd rhwng y gweithle a’r coleg?

Rydw i’n gweld y cydbwysedd rhwng y gweithle a’r coleg yn dda iawn. Mae’n wych gallu cael un diwrnod penodol yr wythnos ar gyfer gwaith coleg a gallu gwneud aseiniadau.

Beth ydych chi’n ei fwynhau orau am eich prentisiaeth?

Yr hyn rydw i’n ei fwynhau orau am fod yn brentis yw’r ffrindiau rydw i wedi’u gwneud yn y coleg ac yn y gwaith. Mae pawb yn gefnogol iawn ac os ydych chi byth angen help gydag unrhyw beth, mae rhywun yno bob amser i helpu.

Ydy’r brentisiaeth yr hyn roeddech chi’n disgwyl iddi fod?

Mae gan y brentisiaeth lawer mwy i’w gynnig nag oeddwn yn ei ddisgwyl. Mae’n grêt bod diwrnodau corfforaethol yn cael eu trefnu ar gyfer yr holl brentisiaid i fwynhau meithrin tîm, datrys problemau, cyfathrebu a llawer mwy. Mae digon o gyfle i gael hyfforddiant arall hefyd. Byddwn wir yn argymell i chi wneud cynllun datblygu personol a manteisio ar bob cyfle sydd ar gael.

Beth yw eich uchelgais ar gyfer y dyfodol?

Fy uchelgais ar gyfer y dyfodol yw cael swydd barhaol yn Sir y Fflint a, gobeithio, bod yn rheolwr ar adran.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried ymgeisio am brentisiaeth yng Nghyngor Sir y Fflint?

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n meddwl am ymgeisio fyddai ‘ewch amdani!’ Mae’n gyfle gwych i unrhyw un o unrhyw oed. Rydych chi’n datblygu cymaint o hyder fel gweithiwr a chymaint o wybodaeth a phrofiad. Hwn oedd y penderfyniad gorau ar gyfer fy ngyrfa i.

Q and A 2

Tara – Prentis Gweinyddu Busnes – Adran Iechyd Galwedigaethol

Ble wnaethoch chi weld y brentisiaeth yn cael ei hysbysebu?

Gwelais yr hysbyseb ar wefan Gyrfa Cymru

Beth wnaeth i chi ymgeisio am y brentisiaeth?

Roeddwn yn gwneud cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y coleg a gwelais yr hysbyseb. Sylwais ei fod yn sôn am leoliad gydag Iechyd Galwedigaethol. Penderfynais ymgeisio gan nad oeddwn yn siŵr pa faes o Iechyd a Gofal Cymdeithasol roeddwn eisiau canolbwyntio arno. Rhoddodd hyn y cyfle i mi edrych ar un opsiwn.

Disgrifiwch ‘ddiwrnod arferol’ fel prentis yn yr Adran Iechyd Galwedigaethol

Mae’n hynod o brysur ond yn amgylchedd hyfryd, mae’r tîm cyfan yn gyfeillgar ac yn glên iawn. Maent yn fy nghefnogi gyda phopeth ac yn cynnig cymorth. Rwy’n gwneud apwyntiadau i bobl. Rwy’n uwchlwytho data, cael ac ymateb i e-bost. Sicrhau bod y data yn gywir. Rwy’n helpu pobl pan ddônt i mewn i weld y nyrsys, cwnselwyr a ffisiotherapyddion.

Sut ydych chi’n llwyddo i gydbwyso gweithle/coleg?

Mae’n anodd weithiau ond mae’n bosib. Fodd bynnag, mae fy nghydweithwyr yn fy nghefnogi i gwblhau aseiniadau. Rwyf hefyd yn cael cefnogaeth gan fy nhiwtoriaid yn y coleg. 

Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich prentisiaeth? 

Rwyf wrth fy modd yn y gweithle. Rwy’n mwynhau bod mewn tîm a helpu staff sy’n defnyddio'r gwasanaeth. Mae’n wych.

Ydy’r brentisiaeth yr hyn yr oeddech wedi’i ddisgwyl?

Na nid bob amser. Nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn cael fy nghyfrifoldebau hy hun. Mae gen i fy llwyth gwaith fy hun ac yn gwneud tasgau yn annibynnol.

Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol?

Hoffwn weithio mewn iechyd galwedigaethol a dod yn Dechnegydd IG.

Pa gyngor fyddech yn ei roi i rywun sy’n ystyried ymgeisio am brentisiaeth gyda Chyngor Sir y Fflint?

Ymgeisiwch mae'n brofiad gwych. Pan ymgeisiais nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn cael cyfweliad heb sôn am y swydd. Byddwch yn hyderus ac ymgeisiwch, ni fyddwch yn difaru.

Q and A 3

Ryan – Prentis Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol - Gwasanaethau Cwsmeriaid

Ble wnaethoch chi weld y brentisiaeth yn cael ei hysbysebu?

Roedd y brentisiaeth wedi’i hysbysebu ar Facebook – roedd ffrind wedi’i rannu

Beth wnaeth i chi ymgeisio am y brentisiaeth?

Roeddwn yn cyrraedd diwedd fy ngradd Gwleidyddiaeth ac roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn swydd o fewn llywodraeth leol. Cefais wybod bod hyfforddiant a datblygu bob amser yn rhan bwysig o yrfa, felly nid oeddwn yn oedi cyn ymgeisio am brentisiaeth.

Disgrifiwch ‘ddiwrnod arferol’ fel prentis gyda Chyngor Sir y Fflint.

Mae fy niwrnod arferol yn gallu cynnwys rhoi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor a diweddaru’r wefan. Rwy’n gweithio’n agos gydag adrannau gwahanol i reoli’r ochr cyfryngau cymdeithasol o’u hymgyrchoedd a diweddaru eu hadrannau ar y wefan. Rwyf hyd yn oed wedi datblygu’r wefan rydych yn ei darllen nawr!

Sut ydych chi’n llwyddo i gydbwyso gweithle/coleg?

Rwy’n llwyddo i reoli’r cydbwysedd yn hawdd, mae fy rheolwr yn gefnogol iawn ac yn fy annog i wneud amser ar gyfer gwaith coleg a gwersi Cymraeg os oes angen.

Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich prentisiaeth?

Yr hyn rwyf yn ei fwynhau fwyaf am fy mhrentisiaeth yw gweithio ar brosiectau gwahanol gyda phobl ac adrannau gwahanol.  Mae pawb rwyf wedi gweithio gyda nhw yn gyfeillgar iawn ac yn fy annog i gymryd rhan.

Ydy’r brentisiaeth yr hyn yr oeddech wedi’i ddisgwyl?

Dim o gwbl – roeddwn yn gwybod y byddai yna lawer yn digwydd yn y cefndir, ond nid oeddwn wedi disgwyl gallu cyfrannu gymaint at bopeth!

Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol?

Hoffwn barhau i weithio i’r Cyngor gyda’r tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Chyfathrebu.

Pa gyngor fyddech yn ei roi i rywun sy’n ystyried ymgeisio am brentisiaeth gyda Chyngor Sir y Fflint?

Ymgeisiwch! Mae’n gyfle gwych fydd yn rhoi cam ymlaen gwych i chi.

Q and A 4

Robert – Prentis Cymhorthydd Gweinyddol - Adain Perfformiad Busnes, Tai ac Asedau 

Ble welsoch chi'r brentisiaeth yn cael ei hysbysebu?

Dywedodd fy athro busnes wrtha i amdani a hefyd fy chwaer sy'n gweithio i'r cyngor. 

Beth wnaeth i chi ymgeisio am y brentisiaeth?

Cefais wybod bod y cyngor yn lle gwych i weithio gyda llawer o gyfleoedd o fewn y cyngor i symud ymlaen, sy'n wir. 

Disgrifiwch ‘ddiwrnod arferol’ fel prentis yng Nghyngor Sir y Fflint.

Mae diwrnod gwaith arferol i mi yn ddiwrnod prysur ond rwy’n dysgu pethau newydd yn gyson bob dydd. Rwy’n gweithio gyda thîm gwych sy’n fy helpu gyda phopeth sydd ei angen arnaf. Mae’n grêt oherwydd dydw i ddim yn cael fy nhrin yn wahanol i unrhyw aelod arall o staff. Rwy'n cael fy nhrin yn gyfartal.

Sut mae’r cydbwysedd rhwng y gweithle a’r coleg?

Rwy'n mwynhau cydbwysedd y gweithle/coleg gan ei fod yn torri'r wythnos. Po fwyaf y bydda i’n ei ddysgu yn y coleg, mae'n fy helpu yn y gweithle ac yn gwella fy ngwaith, sy’n grêt gan fod y gwaith wedyn yn dod yn llawer haws. Mae hefyd yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd sydd yn yr un sefyllfa â fi.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich prentisiaeth?

Rwyf wrth fy modd â phopeth am fy mhrentisiaeth. Rwyf wrth fy modd gyda fy nhîm, mae pawb mor awyddus i helpu gyda beth bynnag sydd ei angen arna i, ond dydyn nhw ddim ofn rhoi cyfrifoldeb i fi. Mae hyn yn wych gan fy mod yn teimlo fel aelod gwerthfawr ar yr un lefel â phawb, sy'n grêt. 

A yw'r brentisiaeth yr hyn yr oeddech chi'n ei ddisgwyl?

Mae fy mhrentisiaeth gymaint yn well na’r hyn yr oeddwn wedi ei ddisgwyl. Roeddwn i’n disgwyl iddo fod yn dda gan fod pawb roeddwn i wedi siarad â nhw cyn cael y brentisiaeth wedi dweud wrtha i ei fod yn gyfle mor wych a llawer o le i ddatblygu. Fodd bynnag, pan gyrhaeddais i, nid yn unig roedd llawer o le, ond mae pawb yn fy nhîm yn wych - allwn i ddim bod wedi gofyn am dîm gwell. 

Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol?

Fy uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol yw parhau i ddatblygu o fewn y busnes, y cam cyntaf fyddai cael swydd barhaol ac yna parhau i symud ymlaen drwy'r busnes. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth yng Nghyngor Sir y Fflint?

Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am brentisiaeth yw mynd amdani!  Hwn fydd y penderfyniad gorau y byddwch chi’n ei wneud. A dweud y gwir, byddwn yn ei argymell i unrhyw un gan y bydd yn rhoi cymaint o gyfleoedd i chi symud ymlaen drwy’r busnes, tra hefyd yn dysgu ac yn ennill cyflog.

Q and A 5

Rhys - Prentis Gwaith Coed - Tai ac Asedau

Lle wnaethoch weld yr hysbyseb am y brentisiaeth?

Anfonodd aelod o’r teulu’r cyfle am brentis crefft ataf ar-lein ar dudalen twitter y Cyngor. 

Beth wnaeth i chi wneud cais am brentisiaeth?

Fe wnes i gais am y brentisiaeth gan fod gen i aelod o’r teulu a oedd wedi dilyn prentisiaeth gyda’r cyngor, ac a ddywedodd pethau da. Roeddwn eisiau gwella fy sgiliau a chymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa, ac roedd rôl y swydd hon yn gweddu hynny i’r dim, gyda chydbwysedd o allu parhau i fynd i’r coleg.

Disgrifiwch ‘ddiwrnod arferol’ fel prentis yng Nghyngor Sir y Fflint.

Mae diwrnod arferol yn y cyngor yn cynnwys ymarfer eich sgiliau a ddangosir i chi yn y gwaith ac yn y coleg, i helpu gyda chwblhau swyddi fel tîm. Mae gwaith yn cael ei gynnal i derfyn amser, serch hynny, mae pethau’n digwydd sy’n achosi i swyddi ddisgyn yn ôl, sy’n golygu bod angen i chi addasu a rheoli amser eich gwaith, ac mae’n bwysig peidio colli pwyll neu adael i hyn effeithio ar eich bywyd personol, er mwyn rhoi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Sut ydych chi’n canfod y cydbwysedd rhwng y gweithle/coleg?

Mae’r cydbwysedd rhwng y gweithle a’r coleg yn wych, a gellir ei reoli’n rhwydd. Rydw i’n gwneud 1 diwrnod yr wythnos yn y coleg a 4 diwrnod yn y gwaith, yn ogystal â fy ngwaith NVQ yn amser fy hun. 

Beth ydych chi’n ei fwynhau orau am eich prentisiaeth?

Yn fy mhrentisiaeth, rydw i’n mwynhau dysgu sgiliau newydd a chwblhau gwaith i safon uchel, a chwrdd â’r holl bobl wahanol yn yr adran. 

A yw’r brentisiaeth yr hyn yr oeddech wedi’i ddisgwyl?

Mae fy mhrentisiaeth yn well na’r hyn yr oeddwn wedi ei ddisgwyl, gan fy mod yn cael mwy o gyfle i ddysgu a datblygu’n gynt nag oeddwn yn ei feddwl, ac mae hynny oherwydd y bobl o fy nghwmpas, a fy nghymhelliant i wneud y mwyaf o’r cyfle rydw i wedi’i gael.

Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol?

Hoffwn gwblhau fy NVQ lefel 2 yn fy nyfodol gyda’r cyngor, ac yna symud ymlaen i NVQ lefel 3. Ar ôl 2 flynedd yn gwneud hynny, hoffwn gael swydd llawn amser yn gwneud gwaith coed yn y cyngor.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth yng Nghyngor Sir y Fflint?

Gwnewch gais, ac nid ydych chi’n gwybod, efallai y cewch chi brentisiaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, serch hynny, os ydych chi’n poeni am y camau cyfweld a phopeth, ceisiwch beidio, oherwydd mae pawb yno i’ch helpu ar hyd y ffordd, ac nid yno i’ch twyllo, a gallwch ffonio unrhyw bryd os ydych chi’n ansicr beth sy’n digwydd.

Q and A 6

Molly - Prentis Gradd - Ynni Carbon Isel

"Roeddwn wedi bod yn chwilio am brentisiaeth gradd ar ôl i mi gwblhau fy astudiaethau lefel A gan fy mod yn gweithio llawn amser ac yn awyddus i barhau â hynny, yn ogystal ag ennill cymwysterau uwch. Mae’r cydbwysedd rhwng gweithio a dysgu’n dda iawn, rwy’n treulio un diwrnod yn y brifysgol, ac yn gweithio am weddill yr wythnos. Mae fy rheolwr yn deall fod gennyf aseiniadau i’w gwneud ac yn gefnogol iawn, sy’n fy helpu i sicrhau cydbwysedd. Rwy’n gobeithio cwblhau fy ngradd i fod yn beiriannydd a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau yr wyf wedi’u datblygu gyda’r cyngor i symud ymlaen i rôl uwch yn y cyngor."

Trainee Quote 1

Lewys - TG Busnes

“Mae bod yn brentis yn Sir y Fflint yn ymwneud â dysgu sgiliau newydd a bod mewn amgylchedd gwaith.  Rydw i’n caru’r diwrnodau corfforaethol gan eu bod yn dod â’r prentisiaid yn nes at ei gilydd ac yn gwella ein sgiliau gwaith tîm.”

Trainee Quote 2

Cameron - Hyfforddwr TG

“Mae bod yn Weithiwr dan Hyfforddiant gyda Sir y Fflint yn dda iawn gan fy mod yn dysgu pethau newydd bob dydd ac yn ennill sgiliau hefyd.  Mae diwrnodau corfforaethol yn dda hefyd gan eich bod yn cael cyfarfod pobl mewn swydd debyg i chi ac ennill sgiliau pwysig, megis gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu.”