Alert Section

Sut i Wneud Cais

Dysgwch fwy am y broses ymgeisio a beth y gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni.

Gallwch wneud cais am fwy nag un swydd hyfforddai. Llenwch ffurflen gais ar-lein ar wahân ar gyfer pob swydd mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn sgilbwysig a gwerthfawr yn y gweithle, ac mae wedi ymrwymo i gynyddu nifer ygweithwyr dwyieithog. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer unrhyw swydd gan ymgeiswyr sydd yn gallu gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Byddwn hefyd yn cefnogi gweithwyr newydd a phresennol sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella / datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.

Ymgeisio

Os ydych chi’n barod i ymgeisio am rai o’r lleoliadau, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein sydd ar gael ar wefan y Cyngor.

Gallwch ymgeisio am ddewis cyntaf ac ail ddewis ar gyfer eich lleoliad.

Mae’n rhaid i chi gynnwys cyfeiriad e-bost cyfredol ar eich ffurflen gais er mwyn i ni gysylltu â chi. 

Cyfweliad Cam Cyntaf

Fe gewch chi gyfweliad cam cyntaf.  Bydd hyn yn digwydd naill ai ar-lein neu’n bersonol.

Bydd y cyfweliad yn rhoi cyfle i chi drafod eich sgiliau a phrofiad gyda ni.

Caiff ei gwobrwyo i unigolyn sydd yn dangos sut maent yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn y coleg neu’r gwaith neu’n gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg pobl eraill.

Ail Gam - Prawf Ar-lein

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi gwblhau dau asesiad ar-lein; prawf llythrennedd a phrawf rhifedd.  Bydd y ddau asesiad yma’n ein helpu i benderfynu ar eich lefelau llythrennedd a rhifedd.

Ar ôl y prawf ar-lein, fe fyddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad ail gam. 

Ail Gam - Cyfweliad

Yn ystod yr ail gam fe fyddwch chi’n cyfarfod gweithwyr o’r gwasanaeth rydych wedi gwneud prawf i ymuno ag o, a byddwch yn trafod mwy am y swydd rydych wedi gwneud cais amdani.

Mae’n bosibl y cewch chi dasg i’w chwblhau sydd yn gysylltiedig â’r swydd ac yn cael eich gwahodd i’w thrafod.

Yn gyffredinol, bydd hyn yn ystod cam olaf y broses ymgeisio cyn y byddwch chi’n clywed gennym ni eto.

Os Ydych Chi’n Llwyddiannus

Llongyfarchiadau! Fe fyddwch chi’n Weithiwr dan Hyfforddiant gyda Sir y Fflint (yn amodol ar wiriadau cyflogaeth).

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n clywed gennym ni am ychydig - fe fyddwn ni angen cysylltu â llawer o ymgeiswyr ac fe fydd gennym ni lawer o fanylion i’w prosesu.

Fe fyddwn yn gofyn i chi ddarparu dogfennau megis prawf adnabod, prawf o’ch cyfeiriad, tystysgrifau cymwysterau, a geirdaon.

Yna bydd goruchwyliwr yn cysylltu â chi’n nes at y dyddiad cychwyn.

Cychwyn Eich Prentisiaeth 

Pan fyddwch chi’n cychwyn, byddwch yn mynychu sesiwn gynefino gyda gweithwyr eraill sydd dan hyfforddiant gyda Sir y Fflint. Mae’n gyfle gwych i chi gyfarfod eich gilydd a gwneud ffrindiau yn y gweithle.

Rydych fel arfer yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ac yn ennill profiad gwerthfawr o weithio i’r Cyngor.

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol megis diwrnodau corfforaethol fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth sydd yn gwella eich profiad dysgu. 

Dyddiadau Ymgeisio 

Mae ceisiadau yn cau 15 Mai 2023

Bydd cam cyntaf y cyfweliadau’n cael eu cynnal yr wythnos sy’n dechrau: 29/05/2023 a bydd ail gam y cyfweliadau’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau: 19/06/2023