Alert Section

Cymunedau am Waith a Mwy

Ynglŷn â Chymunedau am Waith a Mwy

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym dîm pwrpasol sydd ar gael ar draws Sir y Fflint sy’n darparu mentora a chyngor un-i-un.  Rydym yn wasanaeth sy’n seiliedig yn y gymuned ac yn gweithio i wella sgiliau gwaith ar gyfer pobl sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant sydd o bosib yn wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.  Gall Cymunedau am Waith a Mwy roi cefnogaeth i chi er mwyn helpu i feithrin eich hyder, ennill rhywfaint o brofiad gwaith, dysgu sgiliau newydd neu ailysgrifennu eich CV. Bydd Cymunedau am Waith a Mwy yn eich helpu fel unigolyn ac yn cwrdd â chi yn eich cymuned leol.

Eisiau gwybod mwy?

Cysylltwch â’r tîm am sgwrs anffurfiol neu i drefnu apwyntiad dros y ffôn

Ebost: cfwtriage@flintshire.gov.uk

Facebook Twitter

wglogo
Cymunedau am Waith a Mwy - Communities for Work Plus

Oes gennych chi ddiddordeb?

  • 16+ oed?
  • Di-waith?
  • Yn byw yn Sir y Fflint?
  • Yn chwilio am waith neu hyfforddiant?

Efallai eich bod yn gymwys am Gymunedau am Waith a Mwy. Gallwch gyfeirio eich hun neu rywun arall.

Gallwch gysylltu â ni isod. 

Cysylltwch â ni

Dros 2000 o bobl wedi cymryd rhan

Wedi helpu dros  550 o bobl i ddod o hyd i waith

Pa gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig?

  • Mentora un i un
  • Cymhelliant a magu hyder
  • Adnabod a chynllunio cyfeiriad ar gyfer eich llwybr gyrfaol
  • Cefnogaeth gydag ysgrifennu CV’s, llythyrau eglurhaol a llenwi ceisiadau
  • Paratoi/hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau
  • Cyrsiau Hyfforddi
  • Gwirfoddoli
  • Dod o hyd i waith
  • Dod o hyd i brentisiaethau 

Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais?

  • Bydd gennych gynghorydd neu fentor eich hun
  • Mi fyddan nhw’n edrych i weld pa help sydd ei angen arnoch ac yn cytuno ar y camau nesaf gyda chi
  • Gallwch benderfynu os yw Cymunedau am Waith a Mwy ar eich cyfer chi ar ôl cyfarfod gyda’ch cynghorydd neu fentor.  Nid oes raid i chi ymuno â Chymunedau am Waith
  • Os byddwch yn penderfynu ymuno â Chymunedau am Waith bydd eich mentor yn trefnu cyfarfod neu’n cysylltu â chi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch

Astudiaeth Achos

Roedd Lisha yn 19 oed, yn byw Sir y Fflint ac yn ddi-waith ers dros ddwy flynedd. Cafodd ei chyfeirio at Gymunedau am Waith a dyrannwyd mentor iddi. Nid oedd gan Lisha lawer o brofiad gwaith yn flaenorol ac roedd ei hyder yn isel ac nid oedd yn teimlo’n gyfforddus yn mynd allan o’i hardal leol.

Gweithiodd ei mentor gyda hi i godi ei hyder a’i pharatoi at wneud cais am gyfleoedd gwaith. Ym mis Awst, cynhaliodd Sainsbury’s ymgyrch recriwtio ar gyfer gweithwyr glanhau yn yr ardal. Llwyddodd Lisha i ddod o hyd i waith ar ôl cael cefnogaeth gan ei mentor gyda sgiliau cyfweld a chasglu’r ID priodol.

Mae Lisha wedi cael dyrchafiad i Reolwr Safle yn ddiweddar ac mae bellach yn gweithio’n llawn amser ac yn chwilio am ei chartref ei hun. Dywedodd Lisha ei fod “yn mynd yn wych. Rwyf wrth fy modd yn codi i fynd i’r gwaith yn y bore a rhoi fy ngwisg ymlaen, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd.”

Dywedodd mentor Lisha, er bod ganddi ddiffyg sgiliau, dim cludiant ac ychydig iawn o brofiad gwaith blaenorol, mae’n rhoi llawer o foddhad gweld pa mor dda y mae Lisha yn ei wneud rwan.  Mae wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywyd.  Mae hi wedi gwneud yn ofnadwy o dda ac fe ddylai fod yn falch iawn o’i hun.  

Astudiaeth Achos - Case Study