Alert Section

Amdanom ni


Marleyfield in construction 300 x 199Mae Sir y Fflint, fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Ngogledd Cymru, yn gyngor sy'n perfformio'n dda ac sy'n adnabyddus am arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn amrywio o dai cymdeithasol i wasanaethau cymdeithasol i reoli gwastraff i drechu tlodi. 

Rydym yn falch o'n hanes o amddiffyn a gwerthfawrogi gwasanaeth yn y gymuned yn ystod cyfnod hir o lymder.

Mae Sir y Fflint hefyd yn arweinydd ar bartneriaethau cydweithredol rhanbarthol a lleol ac wedi cyfrannu'n helaeth at reoli pandemig Covid-19 gan y partneriaid gwasanaethau cyhoeddus.

Adeiladu ar ein llwyddiant

Yr un peth ydi arloesi a Chyngor Sir y Fflint yn y pendraw.

Yma yn Sir y Fflint rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau lleol i bobl leol a gweithio’n agos gyda chymunedau, partneriaid, busnesau a gweithwyr er mwyn darparu amrywiaeth o wasanaethau newydd, arloesol a chynaliadwy.

Ers degawd a mwy mae Cyngor Sir y Fflint, fel pob cyngor arall yn y Deyrnas Unedig, wedi bod yn rheoli goblygiadau’r gostyngiadau blynyddol yng nghyllid Llywodraeth Cymru a’r DU.

Hyd yn oed yn ystod y caledi presennol, mae’r Cyngor yn parhau i fod yn uchelgeisiol. 

Beth rydym yn ei wneaud

Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau cyhoeddus lleol ar gyfer 156,100 o bobl sy’n byw ar 69,729 o aelwydydd.

Rydym yn cyflogi 6,113 aelod o staff, sy’n golygu mai’r Cyngor yw’r ail gyflogwr mwyaf yn y Sir, ac mae’r gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys, addysg, tai, hamdden, llyfrgelloedd, cynllunio, casglu sbwriel, iechyd yr amgylchedd, ailgylchu, ffyrdd, gwasanaethau cymdeithasol, safonau masnach, trafnidiaeth a thwristiaeth.

Mae 78 o ysgolion yn Sir y Fflint (64 o rai Cynradd, 11 Uwchradd, 2 Arbenigol, 1 Uned Cyfeirio Disgyblion, ac mae 23,716 o ddisgyblion yn mynd iddynt.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi cymorth i fwy na 5000 o oedolion a 2000 o blant bob blwyddyn.

Mae gan Gyngor Sir y Fflint, saith llyfrgell, deg o ganolfannau chwaraeon a hamdden (wyth ohonynt dan reolaeth Aura Cymru a dwy wedi’u trosglwyddo fel Asedau Cymunedol), tri o barciau gwledig, ffermydd sirol ac mae’n cynnal 1174.8 km o ffyrdd.

Mae Tai ac Asedau yn rheoli ac yn cynnal a chadw oddeutu 7312 o eiddo y mae’r cyngor yn berchen arnynt, gan gynnwys 1460 o eiddo gwarchod.

Ein Lle yng Nghymru

Mae Sir y Fflint yn un o 22 awdurdod unedol yng Nghymru, a’r un mwyaf o ran poblogaeth yng ngogledd Cymru, a’r chweched drwy Gymru. Mae Sir y Fflint yn aelod gweithgar o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae nifer o’n huwch-swyddogion ac aelodau etholedig mewn swyddi amlwg yn genedlaethol wrth weithio mewn cenedl ddatganoledig. 

Sir y Fflint sy’n arwain neu’n cyd-arwain nifer o strategaethau a gwasanaethau cydweithredol yn y rhanbarth, gan gynnwys gwasanaethau awtistiaeth, gwasanaethau i’r rhai hynny sydd mewn perygl o gam-drin domestig, diogelwch cymunedol, cynllunio at argyfwng, cynllunio mwynau a gwastraff, twf economaidd a thrin a gwaredu gwastraff.

Mae pobl yn ystyried y Cyngor i fod yn gydweithiwr cadarnhaol sy’n agored i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau gwerth i’r cyhoedd.

Sut cawn ni ein llwyodraethu

Mae gan Gyngor Sir y Fflint 70 o Gynghorwyr sy’n cael eu hethol yn ddemocrataidd bob pum mlynedd.  Mae’n cael ei redeg gan weinyddiaeth lafur leiafrifol gyda chyfansoddiad gwleidyddol fel a ganlyn: Llafur 34, Y Gynghrair Annibynnol 16, Ceidwadwyr 6, Y Democratiaid Rhyddfrydol 5, Annibynwyr Newydd 4, Annibynwyr 3, ac 1 aelod heb eu halino. Mae gennym un lle gwag ar hyn o bryd.

Mae gan y Cyngor Gabinet a phwyllgorau Craffu.  Y Cabinet sydd fel arfer yn penderfynu ar bob mater, gan gynnwys materion polisi o bwys.  Swyddogaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yw dwyn y Cabinet i gyfrif a chynorthwyo i wella a datblygu polisïau a gwasanaethau’r Cyngor.  Mae gan Sir y Fflint chwech o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, sef:

  • Adnoddau Corfforaethol
  • y Gymuned, Tai ac Asedau
  • Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
  • yr Amgylchedd a’r Economi
  • Chymdeithasol a Gofal Iechyd

I gael mwy o wybodaeth am y trefniadau llywodraethu, dilynwch y ddolen gyswllt: https://siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-and-Democracy/Home.aspx

Ein Perfformiad

Yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi adolygu ac ail-gyhoeddi Cynllun y Cyngor.  Trwy symleiddio ac ailosod ei flaenoriaethau, mae’r Cynllun yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer nodau’r Cyngor yn y dyfodol a’r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn i hynny ddigwydd.  

Fel sefydliad cyhoeddus mae’r Cyngor yn cael archwiliadau rheolaidd i archwilio a herio ei berfformiad a'i effeithiolrwydd.

Derbyniodd y Cyngor Grynodeb Archwilio Blynyddol ffafriol gan Archwilio Cymru ym mis Medi 2020. “Ardystiodd yr Archwilydd Cyffredinol fod y Cyngor wedi diwallu ei ddyletswyddau cyfreithiol ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adrodd ar welliannau a chredir ei bod yn debygol y bydd yn diwallu gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ystod 2020/21.”

Mae llythyr blynyddol cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn adlewyrchu ein perfformiad cryf trwy gydol 2019/20. 

Yn ei adroddiad archwilio ym mis Mehefin 2019 roedd Estyn, sef Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant annibynnol Cymru, yn cydnabod y cynnydd da sy’n cael ei wneud gan y gwasanaeth addysg yn Sir y Fflint.   "Mae uwch swyddogion ac aelodau etholedig yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer addysg yn Sir y Fflint, ac maent yn mynegi hynny’n glir yn nghynlluniau strategol yr awdurdod lleol. Mae’r awdurdod yn gweithio’n dda mewn partneriaeth ar draws meysydd gwasanaeth, gydag ysgolion a gyda darparwyr allanol. Mae hyn yn cyfrannu’n dda at wella cefnogaeth i ddysgwyr agored i niwed yn arbennig."

Gweithio mewn partneriaeth

Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (BGC) yn greiddiol i'r gwaith o hybu diwylliant cadarnhaol o gydweithio ac mae'n canolbwyntio ei egni, ymdrech ac adnoddau ar ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i gymunedau lleol.

Partneriaeth rhwng y Cyngor, y Bwrdd Iechyd a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint yw Compact y Sector Gwirfoddol. Ei nod yw sicrhau fod y gwasanaethau cyhoeddus yn deall rôl y sector gwirfoddol yn iawn, a sicrhau y manteisir yn llawn ar gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth.

Mae Sir y Fflint yn bartner blaenllaw mewn nifer o bartneriaethau rhanbarthol gan gynnwys Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sy’n ddylanwadol iawn.

Rydym yn gwesteio nifer o wasanaethau cydweithredol rhanbarthol gan gynnwys:

Rydym yn ymgysylltu’n llawn ag amrywiaeth o gyrff proffesiynol cenedlaethol megis: