Angladdau gwyrdd a claddu mewn coedlan
Claddiad o fewn coedlan neu mewn gweirglodd gan ddefnyddio arch gardfwrdd neu wiail yw angladd gwyrdd, gan fod amryw o agweddau eraill y gellir eu hystyried wrth gynllunio angladd er mwyn sicrhau ei fod mor garedig wrth yr amgylchedd neu mor wyrdd â phosib.
Mannau claddu gwyrdd
Bwriad mannau claddu mewn coedlan neu weirglodd yw bod o fudd i’r amgylchedd trwy ddarparu cynefinoedd naturiol gwerthfawr i fywyd gwyllt. Cânt eu rheoli a’u cynnal heb ddefnyddio cemegau ac ati. Fel arfer bydd yr angladd yn cynnwys plannu coeden goffa neu flodau gwyllt a fydd yn helpu i wella’r amgylchedd ymhellach. Gall hyd yn oed Fynwentydd trefol gynnwys ardal sy’n cael ei rheoli’n llai dwys er budd yr amgylchedd, gan ganiatáu i gynefin naturiol ddatblygu.
Gwneud y dewis gwyrdd
Gall pob agwedd ar drefniadau’r angladd effeithio ar ddylanwad yr angladd ar yr amgylchedd. Gall yr amseriad, y lleoliad, y blodau a roddir fel teyrnged, y ffordd y caiff y Fynwent ei rheoli a’r dewis o gofeb i gyd gael dylanwad ar effaith yr angladd ar yr amgylchedd.
Er mwyn bodloni’r galw cynyddol am seremoni angladd mwy naturiol ac organig, mae Cyngor Sir y Fflint wedi sefydlu safle claddu naturiol ym Mynwent Celstryn. Yma, gellir cynnal claddedigaethau llawn neu gladdu llwch mewn lleoliad coetir heddychlon. Mae’n weithredol erbyn hyn, ac rydym wedi plannu bylbiau’r gwanwyn o amgylch y coed, a thrwy reoli’r glaswelltir, rydym nawr yn ceisio annog rhagor o flodau gwyllt i ailsefydlu eu hunain.
Mae Gwasanaethau Profedigaeth wedi cynnal rhaglen o blannu coed brodorol lleol. Mae’r coed hyn bellach yn aeddfedu ac yn helpu i wella bio-amrywiaeth y safle a gwella’r cynefinoedd trwy ddarparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt lleol, adar ac ati.
Ydw i’n dewis claddedigaeth neu amlosgiad?
Bydd ffactorau amrywiol yn effeithio ar ddylanwadu amgylcheddol claddedigaeth neu amlosgiad. Ar y cyfan credir mai claddedigaeth yw’r opsiwn mwyaf ‘gwyrdd’ o ran defnyddio ynni, amodau’r tir, claddu ac ati, ond bydd y ffordd y caiff y Fynwent ei rheoli hefyd yn effeithio ar ei dylanwad.
Blodau a roddir fel teyrnged
Y dyddiau hyn mae blodau a roddir fel teyrnged yn cynnwys fframiau plastig, gwerddonau, deunydd seloffen neu blastig o’u hamgylch, tapiau a rhubanau a fydd i gyd yn ychwanegu at effaith amgylcheddol yr angladd.
Os caiff y teyrngedau hyn eu compostio a’u hailgylchu, bydd yn helpu i leihau’r effaith hon. Gellir briwsioni gwerddonau a’u cymysgu â chompost er mwyn helpu’r compost i ddal dŵr.
Pa fath o arch ddylwn i ei dewis?
Mae amrywiaeth eang o eirch i ddewis ohonynt y dyddiau yma o flychau mawr Americanaidd i’r rheiny a wnaed o bren lleol cynaliadwy i wiail neu gardfwrdd. Ar wahân i wirio ffynhonnell y deunyddiau a ddefnyddir i lunio’r arch, dylech wirio pa mor bell mae’n rhaid danfon y deunyddiau hynny neu ba mor bell mae’n rhaid iddynt deithio i lunio’r arch gan y gall hyn effeithio ar eich penderfyniad.
Pa fath o gofeb ddylwn i ei ddewis?
Gall y dewis o gofeb hefyd effeithio ar yr amgylchedd. Caiff llawer o gofebau eu mewnforio o lefydd fel yr India neu Tsieina'r dyddiau yma. Dewis mwy caredig efallai fyddai llunio croes bren yn lleol neu gael cofeb wedi’i gwneud o gared neu lechen leol.
Amseriad yr angladd
Fel arfer bydd yr ymadawedig yn cael ei gadw mewn oergell cyn yr angladd, felly gorau po leiaf o amser sydd rhwng y farwolaeth a’r angladd, oherwydd defnyddir llai o ynni.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r wybodaeth yma’n rhoi rhai dewisiadau sylfaenol i chi eu hystyried, ond edrychwch hefyd ar y daflen ‘Effaith Angladd ar yr Amgylchedd (PDF 226KB ffenestr newydd)’ sy’n rhoi dewisiadau i chi o ran sut i leihau effaith angladd ar yr amgylchedd.