Alert Section

Angladdau sifil


Pan fydd rhywun yn marw, mae’r teulu a’r ffrindiau agos yn aml yn wynebu amryw o ddewisiadau a phenderfyniadau o ran y trefniadau angladd, yn cynnwys y seremoni ei hun.  Mae’n syniad cyffredin fod y seremoni angladdol yn ddewis syml rhwng seremoni grefyddol ‘draddodiadol’ neu seremoni heb unrhyw gyfeiriadau crefyddol o gwbl.

I nifer gynyddol o bobl, mae Seremoni Angladd Sifil yn dod yn ddewis mwy priodol, gan fod ei hyblygrwydd yn golygu y gellir cynnwys rhywfaint o gynnwys crefyddol, fel emyn neu weddi, yn y Seremoni. Mewn gwirionedd, anghenion a dymuniadau pob teulu unigol sy’n llywio Seremoni Angladd Sifil, gan greu’r Seremoni mwyaf priodol ac ystyrlon i’r weithred olaf hon o gariad a pharch.

Beth yw Seremoni Angladd Sifil?

Seremoni urddasol, ffurfiol yw Seremoni Angladd Sifil, wedi’i hysgrifennu a’i chyflwyno gan Weinydd Angladd Sifil mewn ymgynghoriad â’r teulu. Uwchlaw popeth, mae’n seremoni sy’n adlewyrchu dymuniadau’r teulu ac mae’n canolbwyntio ar fywyd, cymeriad a phersonoliaeth yr ymadawedig.

Lle mae cynnal Angladd Sifil?

Gellir cynnal Seremoni Angladd Sifil yn rhywle y dymunwch, bron iawn, ac eithrio eglwysi ac adeiladau crefyddol eraill. Mae’r Seremoni yn addas ar gyfer amlosgiad neu gladdedigaeth mewn mynwent anghrefyddol neu goedlan gladdu. 

Pwy sy’n cynnal Seremoni Angladd Sifil?

Mae pob Gweinydd Angladd Sifil wedi dilyn cwrs hyfforddi dwys ac wedi’i asesu mewn sawl maes, yn cynnwys ei agwedd broffesiynol, ei sgiliau ysgrifennu teyrngedau, y modd y mae’n cyflwyno Seremonïau a’r rhinweddau personol sy’n ei wneud yn addas i gyflawni swyddogaeth mor bwysig.

Sut mae creu Seremoni Angladd Sifil?

Bydd eich Gweinydd Angladd Sifil yn creu seremoni bersonol a chwbl unigryw i chi, yn seiliedig ar eich dewis o gerddoriaeth a darlleniadau ac unrhyw ddymuniadau personol eraill sydd gennych. Wrth wraidd y Seremoni mae teyrnged i’r un sydd wedi eich gadael, wedi’i hysgrifennu gan y Gweinydd gan ddefnyddio gwybodaeth ffeithiol ac atgofion a ddarparwyd gennych chi. Gellir cynnwys aelodau’r teulu a ffrindiau yn y seremoni hefyd os ydynt yn awyddus i ddarllen darn neu gerdd. Mae’r Gweinydd yn llunio sgript gyflawn ar gyfer y Seremoni a chewch gyfle i’w gweld cyn yr angladd i wneud yn siŵr fod yr holl fanylion yn gywir. Anfonir copi cyflwyno o’r sgript atoch ar ôl yr angladd hefyd. 

Sut ydw i’n trefnu Seremoni Angladd Sifil?

Dylech gysylltu i ddechrau â Swyddfa’r Cofrestrydd a fydd yn gallu eich cynghori, neu efallai y bydd eich Trefnydd Angladdau hefyd yn gallu eich cynghori. Os dymunwch, gall ffrind, aelod o’r teulu neu eich trefnydd angladdau wneud yr alwad ar eich rhan. Bydd Gweinydd yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib i drefnu i’ch cyfarfod. Gall y cyfarfod yma fod yn eich cartref, neu yn rhywle arall os yw’n well gennych. Bydd y Gweinydd yn trafod trefniadau’r Seremoni gyda chi ac yn edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i chi ddewis ohonynt. Gofynnir i chi ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib am yr ymadawedig, fel y gall y Gweinydd ysgrifennu teyrnged bersonol sy’n cyfleu hanfod eich anwylyd.