Cronfa Deddf Eglwys Cymru
Mae Cronfa’r Degwm Sir y Fflint yn Gronfa Ymddiriedolaeth Elusennol sy’n cael ei gweinyddu gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Caiff y Gronfa Ymddiriedolaeth ei rheoli gan Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914. Mae’r gronfa’n cefnogi:
- Prosiectau sy’n cyfrannu at ailwampio a chynnal a chadw eglwysi, capeli a neuaddau cymuned/pentref yn y sir
- Prosiectau sy’n gweithio i fynd i’r afael ag anfantais er budd trigolion Sir y Fflint
- Prosiectau sy’n darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i drigolion Sir y Fflint.
Mae’n rhaid i bob grŵp lenwi ffurflen gais ar-lein a gellir cael mynediad ati drwy wefan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, bydd angen i chi lawr lwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen gais sydd ar gael ar wefan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Ni fydd unrhyw gais am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae modd gweld rhestr o sefydliadau a gaiff eu cefnogi gan Gronfa'r Degwm Sir y Fflint trwy wefan y Sefydliad Cymunedol Cronfeydd Sir y Fflint neu trwy’r Adroddiadau Effaith isod:
Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint - Rhagfyr 2020
Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint - Hydref 2022