Grant Cist Gymunedol
Mae’r Gist Gymuned yn gynllun grant a ariennir gan Gyngor Sir y Fflint ac a weinyddir gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint i gefnogi gweithgareddau cymunedol yn y sir. Rhoddir blaenoriaeth i grwpiau cymunedol lleol sy’n llai o faint.
Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr:
- fod wedi’u lleoli yn Sir y Fflint;
- â chyfansoddiad ffurfiol ac nid er elw;
- Yn annibynnol o gyrff statudol neu gyhoeddus;
- Hunanlywodraethol h.y. ddim yn atebol i gorff arall;
- Cynnal cyfrif banc sydd angen o leiaf dau lofnodwr; ac
- Mae’n rhaid iddynt weithredu heb unrhyw gyfyngiad ar aelodaeth.
Nod y grant yw cefnogi mentrau un tro megis:
- Prosiectau cyfalaf bach er enghraifft, atgyweirio adeiladau a diweddaru nodweddion a gosodiadau mewnol.
- Digwyddiadau Cymunedol
- Offer ond nid nwyddau traul*
- Astudiaethau Dichonolrwydd
- Cyhoeddusrwydd / marchnata
- Hyfforddiant a digwyddiadau / cyrsiau ymwybyddiaeth
*Mae’n rhaid i unrhyw eiddo a brynwyd gyda’r grant barhau'n eiddo i'r grŵp a rhaid iddynt fod ar gael ar gyfer mwy nag un aelod.
Sylwch fod y ffurflen gais a'r nodiadau cyfarwyddyd wedi cael eu diweddaru'n ddiweddar.
Cist Cymunedol Nodiadau Canllaw
Cist Cymunedol Ffurflen Gais
Cais Ar Lein
Am arweiniad ynghylch sut i ymgeisio a / neu ffurflen gais, cysylltwch Heather Hicks, wyddog Cyngor ar Gyllido yng Nghyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint: 01352 744004.
Fel arall gallwch e-bostio Heather: Heather.Hicks@flvc.org.uk
Ni fydd unrhyw gais am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae modd gweld rhestr o sefydliadau a gaiff eu cefnogi gan y Grant Cist Gymunedol trwy wefan Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint Grantiau Cyfredol (flvc.org.uk)