Oeddech chi’n gwybod nad yw ymennydd babi wedi datblygu’n llawn pan maent newydd eu geni? Maent yn cael eu geni gyda thua 100 biliwn o gelloedd yr ymennydd, ond mae llai o gysylltiadau rhwng y celloedd. Un o’r ffactorau pwysicaf sy’n effeithio ar ddatblygiad ymennydd eich babi yw ansawdd y perthnasoedd maent yn eu cael yn gynnar yn eu bywyd Maent angen oedolion gofalgar er mwyn weirio’r cysylltiadau yn yr ymennydd, ac mae GroBrain yn trafod tair set o ‘wifrau ymennydd’ mae rhieni angen gwybod amdanynt.
- Weirio cariad (gallu babi i deimlo’n gariadus)
- Weirio straen (gallu babi i reoli straen)
- Weirio lleferydd (datblygiad gwybyddol)
Mae cymaint o bethau y gall rhieni eu gwneud i helpu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol eu plentyn.
Meddyliwch am wenu, cysuro a siarad babi i feithrin perthnasoedd da a thyfu ymennydd eich babi.
Rydym yn darparu hyfforddiant i helpu rhieni a gwasanaethau i ddeall pwysigrwydd datblygiad yr ymennydd yn y blynyddoedd cynnar. Mae’n cynnwys:
- ‘GroBrain’
- ‘Baby GroBrain’
- ‘Bonding and brain development’
- ‘A guide for parents and carers’
‘Oxford Brain Story’
Rydym ni’n gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen a rhieni i’n helpu oll i ddeall y datblygiad pwysig hwn ym mywyd plentyn, a deall sut mae profiadau’n siapio ein hymennydd, a’r goblygiadau hirdymor ar iechyd meddwl a chorfforol, fel y gallwn wella canlyniadau i blant ac oedolion.
I Deuluoedd ac Unigolion
Mae’r Brain Story yn ymwneud â sut mae profiadau’n siapio ein hymennydd. Mae’n stori i bawb, gan ein bod i gyd yn dibynnu ar y rhai o’n hamgylch am y profiadau sy’n creu adeiladwaith ein hymennydd. Dyma’r sylfaen i’r ffordd rydym ni’n dysgu ac yn ymddwyn ac i’n hiechyd yn y dyfodol.
Ewch i wefan ‘Oxford Brain Story’dolen allanol