Alert Section

Cymorth, Cefnogaeth a Gwybodaeth

DEWIS

Dewch o hyd i help, gwasanaethau a gwybodaeth yn agos atoch chi...

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

family info service logo

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ddewis gofal plant, y cymorth sydd ar gael gyda chostau gofal plant neu os hoffech chi ddod o hyd i leoliad gofal plant lleol, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint drwy ddilyn y dolenni isod neu drwy ffonio 01352 703500. Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac rydym yn rhan o Gyngor Sir y Fflint.

Ymwelwch â thudalen we’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

E-bost: fisf@siryfflint.gov.uk.

Gallwch ddilyn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar y Cyfryngau Cymdeithasol.

Canolfan Cymorth Cynnar

Oes gennych chi blant?

Ydych chi'n ei chael hi'n anodd?

Os nad ydych chi’n gwybod ble i droi, mae’r Ganolfan Cymorth Cyntaf yma i chi.?

Mae’r Ganolfan Cymorth Cynnar yn:

  • Un pwynt cyswllt i weithwyr proffesiynol, teuluoedd a phobl ifanc gael gafael ar gymorth cynnar ledled Sir y Fflint.
  • Cefnogi teuluoedd Sir y Fflint i gael mynediad i ymyrraeth fuan i atal uwchgyfeirio anghenion.
  • Asiantaethau partner a gydleolir a 3ydd sector i rannu mwy o wybodaeth i ddarparu cyngor a chefnogaeth briodol i deuluoedd. 

Cysylltwch â’r Ganolfan Cymorth Cynnar ar 01352 701000.

Family5