Alert Section

Bwyd a Maeth

Cychwyn Iach

Beth yw Cychwyn Iach?

Os ydych yn feichiog ers 10 wythnos neu fwy neu os oes gennych blentyn dan 4 oed, efallai bod gennych hawl i gael cymorth i brynu bwyd iach a llefrith.

Bydd merched beichiog a theuluoedd cymwys yn cael cerdyn Cychwyn Iach. Bydd y cerdyn yn cael ei lwytho ar eitemau megis llaeth, ffrwythau, llysiau a chorbys.

Dysgu mwy ynghylch Cychwyn Iach

Syniadau am ryseitiau Cychwyn Iach

Gall merched a theuluoedd cymwys sy’n disgwyl babi dderbyn fitaminau am ddim drwy’r cynllun Cychwyn Iach.

Mae fitaminau Cychwyn Iach yn cynnwys fitaminau A, C a D i blant o adeg geni plentyn tan maen nhw'n 4 oed, ac asid ffolig a fitaminau C a D i ferched beichiog a merched sy’n bwydo ar y fron. 

Mannau casglu fitaminau Cychwyn Iach

NHS GIG

Can Cook -  Well Fed

'Mae Well-Fed yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cymdeithas Tai ClwydAlyn a Can Cook. Y nod yw cynnig opsiynau prydau ffres i blant ifanc, pobl hŷn a phawb arall'.

Mae Can Cook - Well Fed wedi rhoi mwy na 60,000 o brydau i aelwydydd diamddiffyn. Cewch fwy o wybodaeth isod.

Can Cook - Well Fed

Can Cook - Well Fed Facebook

Sgiliau Maeth am Oes

Mae Sgiliau Maeth am Oes yn anelu at weithio gyda sefydliadau ac asiantaethau partner i sicrhau fod gan bawb yng Nghymru’r sgiliau, cyfleoedd a’r hyder i gael mynediad at y bwyd sydd eu hangen arnynt i fod yn iach.

Sgiliau Maeth am Oes

Nutrition-Skill-for-Life-logo

Banc Bwyd Sir y Fflint 

‘Nid ydym yn credu y dylai unrhyw un yn yr oes sydd ohoni orfod wynebu mynd yn llwglyd. Dyna pam ein bod yn darparu gwerth tridiau o fwyd cytbwys ei faeth mewn argyfwng ac yn cefnogi pobl leol sy’n cael eu hatgyfeirio atom. Rydym yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Trussell, yn gweithio i atal tlodi a bod yn llwglyd ledled y DU’.

Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn darparu gwybodaeth am y banciau bwyd sydd ar gael yn Sir y Fflint.

Banc Bwyd Sir y Fflint

Banc Bwyd Sir y Fflint Facebook

Ap am ddim Foodwise in Pregnancy

Mae ap symudol - y cyntaf o’i fath - wedi cael ei lansio i helpu i gefnogi merched beichiog gyda gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol y GIG y gallant ddibynnu arnynt.

Enw’r ap yw Foodwise in Pregnancy, ac mae’n cynnwys chwe adran i weithio drwyddynt yn eich pwysau eich hun gyda ryseitiau, cynghorion siopa a chynllunydd prydau, yn ogystal ag ymarferion cam wrth gam delfrydol ar gyfer merched beichiog.  Mae’r ap hefyd yn galluogi pobl i osod nodau drwy gydol eu beichiogrwydd, cofnodi bwyd ac ymarfer corff, ac mae’n cynnwys gemau rhagweithiol, cwisiau ac offer. 

Foodwise in Pregnancy

Foodwise in Pregnancy