Gyrfaoedd yn y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Dysgu am y mathau o swyddi blynyddoedd cynnar a gofal plant a’r cymwysterau a’r datblygiad gyrfaol sydd ar gael.
Yn Sir y Fflint, rydym yn ymrwymo i ddatblygu gweithlu proffesiynol sy’n cynnwys staff o ansawdd uchel o wahanol gefndiroedd i adlewyrchu’r amrywiaeth yn ein Sir.
Addysgwyr / Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar
Mae addysgwyr / ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn darparu gofal, cyfleoedd dysgu a chwarae cynnar i blant dan 5 oed. Gweler “Pwy ydi Pwy” am ragor o wybodaeth.
Efallai y byddwch yn gweithio mewn:
Meithrinfeydd Dydd
Gweithio gyda phlant 0-7 oed. Mae meithrinfeydd dydd fel arfer ar agor drwy gydol y flwyddyn o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 8.00am tan 6.00pm, ac yn cynnig sesiynau diwrnod llawn neu hanner diwrnod. Fe’u cynhelir yn bennaf fel busnesau preifat, ond mae rhai’n cael eu cynnal gan sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol a rhai mewn Canolfannau Teulu. Mae gan y mwyafrif ohonynt ystafelloedd neu ardaloedd ar wahân i fabanod, plant bach a phlant cyn ysgol.
Grwpiau cyn ysgol (a elwir hefyd yn grwpiau chwarae)
Gweithio gyda phlant rhwng 2 a 5 oed. Mae’r grwpiau hyn fel arfer yn weithredol yn ystod y tymor ac yn cynnig sesiynau bore a/neu brynhawn. Maent yn gweithredu o amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau eglwys a neuaddau sgowtiaid ac fel arfer yn cael eu cynnal gan grwpiau cymunedol gwirfoddol.
Ysgolion a dosbarthiadau meithrin
Gweithio gyda phlant rhwng 3 a 5 oed. Mae’r rhain ar agor yn ystod y tymor yn unig. Mae dau fath gwahanol o ysgolion a dosbarthiadau meithrin: Mae dosbarthiadau meithrin a gynhelir yn weithredol mewn rhai ysgolion ac yn cael eu cynnal gan yr Awdurdod Addysg Lleol ac ar agor yn ystod y tymor yn unig. Rhoir dewis o amseroedd hyblyg i rieni o bryd i’w gilydd. Mae unedau meithrin ysgolion annibynnol ac ysgolion meithrin preifat yn cynnig sesiynau hyblyg - bore, prynhawn neu drwy’r dydd. Mae rhai ohonynt ar agor drwy gydol y flwyddyn, ond bydd rhai ond ar agor yn ystod y tymor.
Gwarchodwr Plant
Mae’n bosibl y bydd arnoch chi eisiau dechrau eich busnes eich hunan. Gallwch ddysgu mwy am beth mae bod yn warchodwr plant yn ei olygu ar pacey.org.uk.
Gweithwyr chwarae
Mae gweithwyr chwarae’n cynnig cyfleoedd chwarae a gweithgareddau i blant oed ysgol rhwng 5 ac 11 oed y tu allan i oriau ysgol arferol. Mae’n bosibl y byddwch yn gweithio o’r ysgol / lleoliad gwaith chwarae wedi’u lleoli yn neu’n agos at ysgolion ac mae’r rhain yn aml yn cael eu cynnal gan yr ysgol, busnesau preifat neu sefydliadau gwirfoddol lleol.