Rheoli plâu
Caiff y cyfan o’n gwaith ei wneud ynglŷn ag iechyd a diogelwch a diogelu anifeiliaid nad ydynt yn darged.
Defnyddiwn blaleiddiaid, trapiau, a mesurau ataliol i sicrhau bod y plâu’n cael eu canfod a’u cywiro mor gyflym a thrugarog â phosib. Byddwn yn eich cyflenwi â gwybodaeth am y dulliau gorau o atal y plâu rhag dychwelyd hefyd.
Byddwn yn trin ar gyfer y canlynol:
- Llygod mawr
Fe wnawn ni drin y tu mewn neu’r tu allan.
Mae baw llygod mawr yn ddu/frown tywyll ei liw ac yn tua ½ modfedd o hyd.
- Llygod
Rydym yn trin yn y tŷ yn unig, ni fyddwn yn rhoi triniaeth y tu allan neu mewn gerddi ayb.
Mae baw llygod yn tueddu i edrych yn debyg i ronynnau du o reis.
- Chwain
Os ydych yn cael eich brathu o gwmpas gwaelod eich coes a’ch fferau a bod gennych gathod/gŵn yn eich cartref yna fe allech fod â phla o Chwain, y peth cyntaf i’w wneud ydi cael yr anifail anwes wedi’i drin gan filfeddyg am chwain, yna cysylltu â ni i drefnu i Swyddog drin y tŷ os bydd angen. Bydd mwy o gyngor yn cael ei roi pan wnewch chi’r alwad. Codir tâl am y driniaeth ar bawb gan fod modd osgoi chwain anifeiliaid anwes trwy fod yn berchen cyfrifol ar anifail anwes h.y. cael trin yr anifail anwes rhag chwain yn rheolaidd gan filfeddyg / y perchennog.
- Wasp
Byddwn ond yn trin y tu allan (gan gynnwys adeiladau allanol). Mae triniaeth yn drethadwy , bydd consesiwn yn cael eu cymhwyso os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Lwfans Byw i'r Anabl ( DLA ) neu Bensiwn y Wladwriaeth. Rhaid darparu prawf o fudd-daliadau yn cael eu dangos i Swyddog Rheoli Pla neu fel arall bydd rhaid i chi dalu . Rhaid i'r budd-dal fod yn daladwy i'r perchennog tŷ / Tenant ac nid i ddibynyddion / plant ac ati.
- Morgrug ymlusgol
Rydym yn trin yn y tŷ yn unig, ni fyddwn yn rhoi triniaeth y tu allan neu mewn gerddi ayb. Mae triniaeth yn drethadwy , bydd consesiwn yn cael eu cymhwyso os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Lwfans Byw i'r Anabl ( DLA ) neu Bensiwn y Wladwriaeth. Rhaid darparu prawf o fudd-daliadau yn cael eu dangos i Swyddog Rheoli Pla neu fel arall bydd rhaid i chi dalu. Rhaid i'r budd-dal fod yn daladwy i'r perchennog tŷ / Tenant ac nid i ddibynyddion / plant ac ati.
Nid ydym yn trin ar gyfer y canlynol:
- Ystlumod
Mae’r rhain wedi’u gwarchod, cysylltwch â Chyngor Cefn Gwlad Cymru 01248 385500 am gyngor
- Gwenyn
Efallai y bydd gwenynwr lleol yn gallu helpu er efallai y bydd yn codi tâl (gweler Yellow Pages).
- Llwynogod
Ewch i RHS website am wybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut i ddelio â llwynogod yn eich gardd.
Gallech gyfeirio at Yellow Pages i gael rheolwr plâu preifat ar gyfer y canlynol
- Pycs
- Tyrchod
- Morgrug hedegog
- Pryfed heidiog
- Gwiwerod
- Adar
- Pryf pren
- Chwilod
- Cacwn meirch
- Psosidiaid
- Gwiddon
- Pryfed arian
- Gwyfynod
- Euddon
- Llwynogod
- Cwningod
Ffioedd A Taliad
Codir tâl am rai triniaethau fel y nodir uchod. Gallwch dalu'r gweithiwr pan fydd yn ymweld i roi triniaeth. Rydym yn croesawu taliad gyda siec (yn daladwy i 'Cyngor Sir y Fflint'), arian parod a'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd. Neu gallwn anfon anfoneb atoch (codir tâl ychwanegol am anfonebu).
Aelwyd Breifat |
Gwasanaeth | Ffi | TAW | Gyfan |
Llygod Mawr a Llygod
|
£62.79 |
£12.56 |
£75.35 |
Chwain
|
£65.65 |
£13.13 |
£78.78 |
Wasp
|
£57.08 |
£11.42 |
£68.50 |
Morgrug ymlusgol
|
£51.38 |
£10.28 |
£61.66 |
Cacwn (cyngor yn unig)
|
£37.11 |
£7.42 |
£44.53 |
Galwad a Gollwyd / preswylydd ddim ar gael adeg apwyntiad
|
£37.11 |
£7.42 |
£44.53 |
Cyfradd Rhatach
|
£36.15 |
£7.23 |
£43.38 |
Masnachol a Busnes |
Gwasanaeth | Ffi | Taw | Gyfan |
Llygod Mawr, Llygod, Wasps, Morgrug ymlusgol, Chwain |
£59.93 |
£11.99 |
£71.92 |
Contracts |
Gan ddechrau o £48 |
Rhestr o wasanaethau a chostau Rheoli Plâu o 1 Hydref 2024
Gofyn am Ymweliad / Cyngor Pellach
Ffurflen Rheoli Plâu - Ymholiad Cyffredinol
Neu cysylltwch â Gwarchod y Cyhoedd ar 01352 703440 a siarad â chynghorydd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd yr Adran Rheoli Plâu yn ceisio ymateb i geisiadau i drin plâu o fewn 3 diwrnod gwaith. Yn yr haf mae’n llwyth gwaith yn cynyddu’n fawr, felly ni allwn addo cwrdd â’r amseroedd ymateb uchod.