Alert Section

Cymorth gydag arbed ynni


Mae’r gwasanaethau sydd gan Dîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig Cyngor Sir y Fflint i’w cynnig fel a ganlyn: 

  • Cyngor ar ynni
  • Cymorth a chyngor ar ymdrin â’ch cyflenwr ynni
  • Cyngor a chyfeiriadau at ffrydiau cyllid amrywiol ar gyfer uwchraddio gwres a mesurau effeithlonrwydd ynni.
  • Cefnogaeth ac atgyfeiriadau er mwyn cynyddu incwm
  • Atgyfeiriadau a chyfeiriadau i helpu gydag anghenion sylfaenol er mwyn cefnogi iechyd a lles unigolion (gan gynnwys pecynnau/talebau bwyd, ychwanegu nwy a thrydan ar eich mesurydd mewn argyfwng)  
  • Atgyfeiriadau a chyfeiriadau at gefnogaeth gyda phroblemau iechyd meddwl
  • Atgyfeiriadau a chyfeiriadau mewn perthynas â phroblemau cartref a phersonol (gan gynnwys synwyryddion carbon monocsid, larymau mwg, larymau diogelwch)
  • Atgyfeiriadau at gymorth â rheoli dyledion a chyllidebu
  • Atgyfeiriadau a chyfeiriadau at y gofrestr gwasanaethau Blaenoriaeth

Mynnwch air gyda Tim Prosiect Effeithlonrwydd Ynni Domestig gan ffonio 01267 224923 neu ebost: deepadmin@siryfflint.gov.uk

Am ragor o gymorth ar sut i wella effeithlonrwydd ynni eich eiddo: https://www.gov.uk/improve-energy-efficiency


NYTH Cymru

Mae Cynllun Nyth yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim ac, os ydych chi’n gymwys, gwelliannau effeithlonrwydd i’ch cartref fel boeler newydd, gwres canolog, deunydd ynysu neu baneli solar. Gall hyn leihau eich biliau ynni a gall fod o fudd i’ch iechyd a’ch lles.

https://nest.gov.wales/