Alert Section

Menter Twyll Cenedlaethol


Ymarfer cydweddu/paru data yw’r Fenter Twyll Genedlaethol (MTG) wedi’i llunio i ganfod ac atal twyll a gordaliadau ledled Cymru a Lloegr. Ymarfer gorfodol i’r Cyngor Sir yw MTG ac fe’i cynhelir bob dwy flynedd gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Fel corff cyhoeddus, mae’n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith i ddiogelu’r arian cyhoeddus a weinyddir gennym. Cawn rannu gwybodaeth a ddarperir ar ein cyfer gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian y cyhoedd er mwyn atal a chanfod twyll.

Yr Archwilydd Cyffredinol sydd yn gyfrifol am gynnal ymarferion cydweddu data o fewn ei bwerau dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae cydweddu data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill gan yr un corff neu gorff arall. Fel arfer gwybodaeth bersonol fydd hyn. Bydd cydweddu data cyfrifiadurol yn caniatáu i hawliadau a thaliadau twyllodrus gael eu canfod. Pan ddarganfyddir cydweddiad golyga hynny nad oes anghysondeb fydd angen ymchwilio ymhellach iddo. Ni ellir tybio bod twyll neu gamgymeriad wedi cymryd lle neu bod esboniad arall nes bydd archwiliad wedi’i gynnal.

Mae’r Archwilydd Cyffredinol dros Gymru am i ni gymryd rhan mewn ymarfer cydweddu data i gynorthwyo i atal a chanfod twyll. Mae’n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer eu cydweddu/paru. Mae’r manylion i’w cael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru 

Gan fod y defnydd o ddata gan yr Archwilydd Cyffredinol dros Gymru mewn ymarfer cydweddu/paru data ag awdurdod statudol yn perthyn iddo (Adran 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004), nid oes angen caniatâd yr unigolion cysylltiedig â’r ymarfer dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae cydweddu data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amodol ar Gôd Ymarfer. Gellir dod o hyd i hwn ar Wefan Swyddfa Archwilio Cymru 

Am wybodaeth bellach am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau pam ei fod yn cydweddu gwybodaeth benodol, gweler yr Hysbysiad lefel 3 (hysbysiad prosesu teg testun llawn) ar Wefan Swyddfa Archwilio Cymru 

Trosglwyddir data i’r Archwilydd Cyffredinol gan ddefnyddio cyfleuster llwytho sy’n galluogi cyflwyno data’n ddiogel (gan ddefnyddio amgryptio SSL). Cynhwysir y cyfleuster hwn o fewn rhaglen feddalwedd ddiogel bresennol MTG ac fel canlyniad mae’n darparu’r un amgylchedd cyrchu rheoledig.

Am wybodaeth ar y broses a ddilynir gan Gyngor Sir y Fflint cysylltwch â Dave Stephens 01352 702228.