Alert Section

Amser Holi i'r Cyhoedd


Ar ddechrau pob cyfarfod cyffredin o’r Cyngor mae yna gyfle i bobl sy’n byw, gweithio neu’n astudio yn Sir y Fflint i fynychu a chyflwyno cwestiynau i Arweinydd y Cyngor a’r Aelodau Cabinet.

Bydd Sesiwn Holi’r Cyhoedd yn dechrau ar ddechrau’r cyfarfod hwnnw a bydd yn para am 30 munud.

Mae cwestiynau wedi eu cyfyngu i faterion sy’n ymwneud â Sir y Fflint ac/neu’r gwasanaethau a ddarparwyd gan y Cyngor. 

Gall unigolyn gyflwyno un cwestiwn i’w ystyried mewn unrhyw sesiwn Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd, ond bydd un cwestiwn atodol yn cael ei ganiatáu ym mhob achos.

Ni fydd cwestiynau sy’n ymwneud â’r canlynol yn cael eu derbyn:- 

  • Materion barnwrol neu led-farnwrol;
  • Materion sy’n cael eu hymchwilioCeisiadau cynllunio, trwyddedu neu grant unigol neu apeliadau;
  • Swyddog enwebedig neu aelod o’r Cyngor;
  • Gwybodaeth gyfrinachol neu wedi’i heithrio fel y disgrifir yn y Rheolau Gweithdrefn Hawl i Wybodaeth neu sydd angen ei datgelu
  • Materion gwleidyddol plaid;
  • Deunydd difenwol
  • Yn sylweddol yr un mater â chwestiwn ond o fewn y 6 mis diwethaf. Ni fydd cwestiynau yn cael eu derbyn gan Aelodau a Gweithwyr y Cyngor

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig a’u derbyn dim hwyrach na 12 canol dydd ar y seithfed diwrnod cyn Amser Cwestiwn i ddau:

Steven.Goodrum@flintshire.gov.uk 
a
Committee.Administration@flintshire.gov.uk