I gael gwybod mwy am Gynllun y Cyngor, darllenwch y cynllun diweddaraf a gweld cynlluniau blaenorol.
Cyflwyniad
Mae Cynllun y Cyngor yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a’r pethau mawr y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cyflawni dros gyfnod y Cynllun. Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymfalchïo mewn bod yn Gyngor sy’n perfformio’n dda ar ran ei gymunedau lleol, ac un sy’n cael ei arwain a’i gymell gan gyfres o werthoedd cymdeithasol cadarn.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn Gyngor sy’n cael ei lywodraethu’n dda ac yn flaengar ac mae’n parhau i berfformio’n dda fel darparwr uniongyrchol a chomisiynydd gwasanaethau cyhoeddus, ac fel partneriaid i eraill.
Mae’r Cynllun yn nodi blaenoriaethau lefel uchel y Cyngor ac mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u dewis fel y meysydd lle gall y Cyngor ychwanegu’r gwerth mwyaf a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol.
Lawrlwythwch y Cynllun y Cyngor
Gallwch lawrlwytho’r Cynllun y Cyngor 2023-28 isod.
Lawrlwythwch y Cynllun y Cyngor 2023-28
Cynlluniau Blaenorol y Cyngor
Mesur Perfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28)
Mae’r adroddiad isod yn cyflwyno crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn y Blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28.
Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24 (Tudalen 29)