Alert Section

Cod Ymddygiad Aelodau


Mae gofyn i bob Cynghorydd Sir, Cynghorwyr Cynghorau Tref a Chymuned ac Aelodau Cyfetholedig lynu at God Ymddygiad i Gynghorwyr a fabwysiadwyd gan eu Cynghorau perthnasol, sy’n cydymffurfio â gofynion gorfodol y Model Cod Ymddygiad a rannwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’n gyfrifoldeb personol ar bob Aelod i sicrhau eu bod yn deall eu rhwymedigaethau o dan y Cod, a gweithredu mewn ffordd sy’n dangos eu bod wedi’u hymrwymo i fodloni a chynnal safonau uchel o ymddygiad sy’n ddisgwyliedig ohonynt fel Aelodau. 

Gellir trafod pryderon am ymddygiad Cynghorwyr gyda’r Swyddog Monitro yn gyntaf.  Eu manylion yw:

Mr Gareth Owen
Swyddog Monitro
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug CH7 6NA
E-bost: gareth.legal@flintshire.gov.uk

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol bod Cynghorydd wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad, mae’n rhaid i chi gyfeirio’r gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Ombwdsman Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LF
Gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk 
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk 

Mae’r ddolen isod i’r ddogfen Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi dealltwriaeth gyffredinol o’r Cod a’i ofynion, a’i bwrpas yw rhoi sicrwydd i aelodau’r cyhoedd o’r safonau a ddisgwylir:

https://www.ombwdsmon.cymru/cymraeg/wp-content/uploads/sites/2/2018/04/Code-of-Conduct-Community-Councils-August-2016-WELSH-amended.pdf