Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (BGC) yn bartneriaeth o gyrff cyhoeddus sy’n cydweithio i wella llesiant y sir. Mae’r BGC yn cynnwys aelodau o gyrff statudol a sefydliadau eraill sydd wedi eu gwahodd. Y pedwar corff statudol yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae’r BGC wedi llunio fersiwn drafft o’r Cynllun Llesiant sy’n nodi’r heriau y mae cymunedau Sir y Fflint yn eu wynebu. Mae’r Cynllun yn amlinellu sut y gall gwaith y bartneriaeth ddiogelu a gwella ansawdd bywyd preswylwyr, cymunedau a busnesau, rŵan ac yn y dyfodol.
Mae’r cynllun drafft yn amlinelliad o’r hyn yr ydym eisiau ei gyflawni a pham. Bydd y cynllun terfynol yn cael ei ddatblygu i’w gyhoeddi y gwanwyn nesaf.
Mae’r diagramau isod yn darparu amlinelliad o bob un o’n 5 blaenoriaeth. Cliciwch ar unrhyw un o’r diagramau os hoffech ddarllen y cynllun drafft manwl.
Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain





