Aelodau Etholedig
Atebolrwyddau:
- Cyngor Llawn
- Etholaeth eu ward
Rôl, Pwrpas a GweithgarwchCynrychioli a chefnogi cymunedau:
- Cynrychioli buddiannau’r ward
- Bod yn eiriolwr ar gyfer y Cyngor yn y ward a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu
- Bod yn sianel gyfathrebu i’r gymuned ar strategaethau, polisïau, gwasanaethau a gweithdrefnau’r Cyngor
- Cynrychioli etholwyr unigol a sefydliadau lleol, gan ymgymryd â gwaith achos ar eu rhan a gwasanaethu pawb yn deg ac yn gyfartal
- Cysylltu ag aelodau gweithredol, aelodau eraill y cyngor, swyddogion y cyngor a sefydliadau partner i sicrhau y caiff anghenion y cymunedau lleol eu hamlygu, eu deall a’u cefnogi
- Hybu goddefgarwch a chydlyniant mewn cymunedau lleol
Gwneud penderfyniadau a goruchwylio perfformiad y cyngor:
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd Cyngor Llawn, gan gyrraedd a gwneud penderfyniadau gwybodus a chytbwys, a goruchwylio perfformiad
- Cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau gwybodus a chytbwys ar bwyllgorau a phaneli y gallent gael eu penodi arnynt
- Cadw at egwyddorion democratiaeth a chydgyfrifoldeb wrth wneud penderfyniadau
- Hybu a sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn narpariaeth y cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill
Cynrychioli’r Cyngor (yn amodol ar benodiad):
- Cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol lleol fel un o benodai’r Cyngor
- Cynrychioli’r Cyngor ar gyrff partneriaeth lleol, gan hybu buddiannau cyffredin a chydweithio er lles y naill a’r llall
- Cynrychioli a bod yn eiriolwr i’r Cyngor ar gyrff cenedlaethol ac mewn digwyddiadau cenedlaethol
Llywodraethu mewnol, safonau moesol a pherthnasau:
- Hybu a chefnogi rheolaeth dda'r Cyngor a’i faterion
- Darparu arweinyddiaeth gymunedol a hybu dinasyddiaeth weithgar
Hybu a chefnogi llywodraeth agored a thryloyw:
- Cefnogi a chadw at berthnasau parchus, priodol ac effeithiol gyda gweithwyr y Cyngor
- Cadw at God Ymddygiad yr Aelodau, Protocol yr Aelodau/Swyddogion a’r safonau ymddygiad uchaf mewn swyddfa gyhoeddus
Datblygiad Personol a Swydd:
- Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a gynigir i aelodau gan yr awdurdod
GwerthoeddBod yn ymrwymedig i werthoedd y cyngor a'r gwerthoedd canlynol mewn swyddfa gyhoeddus:
- Didwylledd a thryloywder
- Gonestrwydd ac uniondeb
- Goddefgarwch a pharch
- Cydraddoldeb a thegwch
- Gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol
- Cynaliadwyedd