Alert Section

Ymateb i Ymgynghoriad Digidol Sir y Fflint

Ymateb i Ymgynghoriad Digidol Sir y Fflint

Crynodeb o’r Canlyniadau

Mae’r canlyniadau wedi dod i law ar gyfer yr ymgynghoriad ar ein Strategaeth Ddigidol arfaethedig a hoffem ddiolch i’r 179 o bobl a gymerodd ran.

Mae ein strategaeth ddigidol yn nodi sut y byddwn yn croesawu’r cyfleoedd y mae technolegau digidol, arloesedd a gwybodaeth yn eu cynnig i ni i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon.  Byddwn yn gwneud hyn drwy fabwysiadu’r egwyddorion canlynol:

  • Ddefnyddio technoleg i gynnig mwy o hyblygrwydd i gwsmeriaid o ran pryd a sut y maent yn cael mynediad at ein gwasanaethau
  • Sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cael mynediad at, a bod ganddynt y sgiliau a'r hyder i ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion –  neb yn cael eu gadael ar ôl
  • Darparu a hyrwyddo gwasanaethau digidol hygyrch a chynhwysol sy'n syml, yn ddiogel ac yn gyfleus ac yn galluogi pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ar sail dydd i ddydd
  • Creu gweithlu sy’n effeithlon ac yn wybodus ac sy'n gallu rhyngweithio'n hyderus ac yn effeithiol mewn byd digidol
  • Byddwn yn dangos arweinyddiaeth ddigidol, yn  creu’r amodau a fydd yn caniatáu gwir weddnewid sefydliadol ac yn herio'r rhai yr ydym yn gweithio â nhw i groesawu a manteisio ar y diwylliant hwn
  • Gweithio gyda, a chefnogi ein busnesau i wneud y mwyaf o gyfleoedd a gynigir gan dechnoleg ddigidol a chynigion arloesol.
  • Defnyddio technoleg ddigidol i weithio a chydweithio â'n partneriaid yn effeithlon ac yn ddiogel, gan gynnwys rhannu a defnyddio data yn effeithiol
  • Trin gwybodaeth fel ased corfforaethol allweddol gan sicrhau ei fod yn cydymffurfio, yn gywir, yn berthnasol ac yn ddiogel fel y gallwn ei ddefnyddio i ddylunio a darparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon
  • Darparu seilwaith digidol diogel, dibynadwy, gwydn a chost effeithiol sy'n ymateb i anghenion y cyngor a'i gwsmeriaid

Nodau

Mae mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â nodau’r Strategaeth Ddigidol a fydd yn ein gweld yn parhau i wella gwasanaethau ar-lein yn yr oes ddigidol.  

Roedd yr ymatebwyr hefyd yn cytuno bod bod ar-lein yn helpu pobl i fod yn fwy hunan-gynhaliol a gall wella cyfleoedd am waith.

Rydym yn gweithio tuag at y pethau canlynol, a byddwn yn parhau i weithio tuag atynt:

  1. Band eang a chysylltedd symudol cyflymach a mwy dibynadwy ar gyfer Sir y Fflint
  2. Cefnogi pobl nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd i fynd ar-lein
  3. Mynediad am ddim i ddyfeisiau i bobl nad oes ganddynt ddyfeisiau eu hunain 
  4. Cefnogi pobl o bob oed i ddatblygu sgiliau a hyder ar-lein 
  5. Sicrhau bod gan bobl o bobl oed fynediad i hyfforddiant a chefnogaeth
  6. Cydweithio â phartneriaid i ddarparu gwasanaethau mwy cyfleus
  7. Cynyddu nifer gwasanaethau’r Cyngor sydd ar gael ar-lein, a fydd yn helpu i ddarparu ffyrdd gwell o weithio a rhagor o werth am arian

Crynodeb o Ymatebwyr

Cyfanswm Ymatebion – 179

Nifer o ymatebion â chod post llawn Sir y Fflint – 109

Nid yw 60.4% o ymatebwyr yn gweithio i Gyngor Sir y Fflint

Mae 83.8% o ymatebwyr yn gweithio, neu’n byw a gweithio, yn Sir y Fflint

Ymgynghoriad Digidol Sir y Fflint - Crynodeb Siart Bar ar gyfer Ymatebwyr

         
Ymgynghoriad Sir y Fflint Digidol - Crynodeb o Ymatebwyr
YmatebwrCanran
Rwy’n byw yn Sir y Fflint 44.8%
Rwy’n byw yn Sir y Fflint ac yn gweithio yn Sir y Fflint 39.0%
Rwy’n gweithio yn Sir y Fflint 6.5%
Rwy’n Gynghorydd Sir 1.9%
Rwy’n Gynghorydd Tref neu Gymuned 1.9%
Rwy’n berchen ar fusnes yn Sir y Fflint 0.6%
Arall 5.2%

Mynediad i’r Rhyngrwyd a Dyfeisiau

Mae gan bob un o’r ymatebwyr fynediad i’r rhyngrwyd gartref:

- Mae gan 98.5% o ymatebwyr fynediad i fand eang
- Mae gan 67.9% o ymatebwyr fynediad i ryngrwyd symudol

Mae gan bob ymatebwr fynediad i ddyfais:

- Mae gan 94% o ymatebwyr ffôn clyfar
- Mae gan 86.5% o ymatebwyr liniadur
- Mae gan 75.2% o ymatebwyr ddyfais llechen
- Mae gan 40.6% o ymatebwyr gyfrifiadur personol

Digital Flintshire Consultation - Access to the Internet and Devices CYMRAEG


         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Mynediad at y rhyngrwyd
Math o gyswllt â’r rhyngrwydCanran
Band eang (contract rhyngrwyd yn y cartref) 98.5%
Data ffôn symudol (contract ffôn symudol) 67.9%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Mynediad at ddyfeisiau
Math o ddyfaisCanran
Ffôn clyfar 94%
Llechen 86.5%
Gliniadur 75.2%
Cyfrifiadur 40.6%

Ymddygiad ar-lein - Cysylltedd

Mae’r mwyafrif o ymatebwyr (61.4%) yn cymdeithasu ar-lein bob dydd

Mae’r mwyafrif (56.5%) o ymatebwyr yn gweithio neu’n astudio gartref bob dydd

Mae’r mwyafrif (62.8%) o ymatebwyr yn siopa ar-lein bob wythnos

Mae’r mwyafrif (37.9%) o ymatebwyr yn rheoli eu harian ar-lein bob wythnos

Nid yw’r mwyafrif (39.5%) o ymatebwyr fyth yn defnyddio gwasanaethau iechyd ar-lein

Mae 38.8% o ymatebwyr yn cael mynediad i wasanaethau iechyd ar-lein bob mis 


Er bod 78.3% o ymatebwyr wedi dweud nad ydynt yn cael unrhyw anhawster wrth gael mynediad i’r rhyngrwyd, y rhwystr mwyaf oedd cyflymder cysylltedd (18.6%)

Gwasanaethau Ar-lein y Cyngor

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr:

- wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein y cyngor (88.8%)

- yn hynod o fodlon neu’n fodlon â gwasanaethau ar-lein y cyngor y maen nhw wedi’u defnyddio

- wedi gallu gwneud beth mae angen iddynt ei wneud trwy’r gwasanaethau ar-lein presennol

 

Ymgynghoriad Digidol Sir y Fflint - Crynodeb Siart Bar ar gyfer Boddhad Gwasanaethau

Gwasanaethau’r Cyngor a bodlonrwydd
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefel boddhad â’r gwasanaeth ar-lein “gwiriwch ddiwrnod biniau”
Gwirio’r diwrnod casglu biniauCanran
Nid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 16%
Anfodlon iawn 1%
Anfodlon 2%
Bodlon 67%
Bodlon iawn 21%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefel boddhad â’r gwasanaeth ar-lein “ceisiadau swyddi”
Ceisiadau am swyddiCanran
Nid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 63%
Anfodlon iawn 1%
Anfodlon 1%
Bodlon 29%
Bodlon iawn 12%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefel boddhad â’r gwasanaeth ar-lein “fy nghyfrif”
Fy NghyfrifCanran
Nid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 53%
Anfodlon iawn 2%
Anfodlon 2%
Bodlon 43%
Bodlon iawn 5%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefel boddhad â’r gwasanaeth ar-lein “taliadau ar-lein”
Taliadau ar-leinCanran
Nid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 36%
Anfodlon iawn 2%
Anfodlon 3%
Bodlon 61%
Bodlon iawn 5%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefel boddhad â’r gwasanaeth ar-lein “ceisiadau cynllunio”
Ceisiadau cynllunioCanran
INid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 53%
Anfodlon iawn 3%
Anfodlon 9%
Bodlon 34%
Bodlon iawn 7%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefel boddhad â’r gwasanaeth ar-lein “rhowch wybod”
Ffurflenni ar-lein i roi gwybod i’r cyngor am faterion
e.e. baw ci, goleuadau stryd, tipio anghyfreithlon ayb.
Canran
Nid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 59%
Anfodlon iawn 0%
Anfodlon 9%
Bodlon 34%
Bodlon iawn 3%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefel boddhad â’r gwasanaeth ar-lein “derbyniadau ysgol”
Derbyniadau ysgolCanran
Nid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 83%
Anfodlon iawn 0%
Anfodlon 2%
Bodlon 18%
Bodlon iawn 1%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefelau bodlonrwydd y gwasanaeth “Ceisiadau Budd-daliadau” ar-lein
Ceisiadau am fudd-dalCanran
Nid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 100%
Anfodlon iawn 0%
Anfodlon 0%
Bodlon 5%
Bodlon iawn 0%
         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Lefel boddhad â’r gwasanaeth ar-lein “ceisiadau grant”
Ceisiadau am grantCanran
Nid wyf wedi defnyddio’r gwasanaeth 96%
Anfodlon iawn 0%
Anfodlon 0%
Bodlon 6%
Bodlon iawn 0%

Barn Ymatebwyr am “Sir y Fflint Digidol”- Crynodeb

Gofynnwyd i ymatebwyr rannu eu barn am ein cynlluniau i ddarparu Sir y Fflint Digidol. Mae’r canlyniadau wedi’u categoreiddio a’u crynhoi i’r adrannau isod, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio arnynt fel rhan o’n Strategaeth Ddigidol. Gweler ein neges flog i gael rhagor o wybodaeth am sut byddwn ni’n gwneud hyn.

1. Cynllunio a Gwybodaeth

  • Gwelededd map ffordd ac amserlenni ar gyfer gweithredu
  • Tryloywder o ran costau ac effaith ar wasanaethau

2. Cynhwysiant a Hygyrchedd

  • Cynhwysiant, allgáu a hygyrchedd – ystyriwch bobl na allant gael mynediad i wasanaethau ar-lein neu a fyddai’n well ganddynt gael mynediad i wasanaethau all-lein
  • Hyfforddiant, sgiliau a meithrin hyder• Dewisiadau amgen i ddarpariaeth ddigidol
  • Safleoedd hygyrch
  • Ymgysylltu â'r gymuned

3. Cysylltedd

  • Gwell cysylltedd yn y sir

4. Gwefan a Darpariaeth Gwasanaeth

  • Gwasanaethau ar-lein wedi’u dylunio’n well – mor hawdd â chodi’r ffôn
  • Cynnwys gwefan cyfredol, hygyrch iawn a pherthnasol
  • Gwasanaethau wedi’u dylunio a’u seilio ar anghenion cwsmeriaid/preswylwyr

Gwasanaethau Presennol y Cyngor 

Gofynnwyd i chi ddweud wrthym a oedd unrhyw beth ar goll o’n gwasanaethau ar-lein a dweud wrthym am unrhyw broblemau allech chi fod wedi’u cael. Mae’r canlyniadau wedi’u crynhoi isod:

  • Dywedodd 35 o ymatebwyr fod rhywbeth ar goll o wasanaeth ar-lein maen nhw wedi’i ddefnyddio
    • 37.1% rhowch wybod ar-lein
    • 31.4% ceisiadau cynllunio
    • 22.9% taliadau ar-lein
    • 22.9% gwirio fy niwrnod casglu biniau
  • Cyfleuster chwilio’r wefan yn wael ac anodd i’w ddefnyddio – methu canfod y wybodaeth ofynnol
  • Rhwyddineb defnyddio ffurflenni a’r safle
  • Gwybodaeth wedi heneiddio, cynnwys cyfyngedig neu wybodaeth ar goll
  • Adborth neu ymateb cyfyngedig gan wasanaethau ar-lein
  • Cydweddiad dyfeisiau symudol

Mae grŵp gwefan wedi’i ailsefydlu ac mae rhaglen gwaith i'r dyfodol yn cael ei datblygu i sicrhau bod pob un o’r materion hyn yn cael sylw wrth i ni barhau i symleiddio a diweddaru’r wefan, gwella’r swyddogaeth chwilio a sicrhau ei fod yn hygyrch trwy amrywiaeth o wahanol ddyfeisiau. 


Gofynnwyd i chi a oedd unrhyw beth a fyddai’n ei gwneud yn haws i chi gael mynediad i’r rhyngrwyd a dywedasoch wrthym am yr 8 prif bwynt isod:

  • Gwell gwasanaethau ar-lein
  • Hyfforddiant/sgiliau
  • Parcio/mynediad am ddim
  • Gwell dyfeisiau
  • Gwell cynnwys i’r wefan
  • Mynediad rhatach
  • Gwell cysylltedd – symudol
  • Gwell cysylltedd – band eang

Mae rhaglen gwaith i’r dyfodol yn cael ei datblygu i fynd i’r afael â phwyntiau a godwyd o ran ein gwasanaethau ar-lein a’n gwefan a byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau ar-lein ochr yn ochr â’n Canolbwynt Digidol, sy’n darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys hyfforddiant, mynediad i ddyfeisiau a chyfeirio at fentrau sy’n barhaus yn ein cymunedau. 

Bydd cefnogaeth yn cynnwys gwirfoddolwyr a hyfforddwyd i helpu i gefnogi pobl, cymorthfeydd digidol yn ein Canolfannau Cysylltu a bwriedir troi’r rhain yn “Ganolfannau Ar-lein” - mewn partneriaeth â Good Things Foundation, rydym yn ceisio bod y Cyngor cyntaf yng Nghymru a fydd yn darparu sims data am ddim i’r bobl sydd eu hangen

Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid i wella’n cysylltedd trwy bob cyfle sy’n codi. Mae ein gwaith gyda rhaglen North Wales LFFN yn dod i ben, gan osod cysylltedd ffibr ar draws y sir ac rydym yn canolbwyntio ar elfen Isadeiledd Digidol Bargen Dwf Gogledd Cymru bellach, i sicrhau bod gan ein preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr fynediad i gysylltiadau symudol a band eang gwell.

Adborth a Dderbyniwyd a’n Hymateb ni

Rydym wedi casglu a chrynhoi’r adborth uniongyrchol rydym wedi’i dderbyn yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad y gellir ei weld isod:

         
Canlyniadau ymgynghoriad Sir y Fflint Ddigidol - Adborth a Dderbyniwyd a’n Hymateb ni
Adborth a dderbyniwyd Ein hymateb
  • Dim map ffordd clir, cerrig milltir, targedau wedi eu gosod ar gyfer gweithredu, ffyrdd i fesur llwyddiant.  
  • Dim manylion ynglŷn â sut bydd y nod a’r amcanion yn cael eu bodloni a sut y bydd hyn yn effeithio ar breswylwyr. 

Bydd map ffordd ar gyfer y Strategaeth ddigidol yn cael ei gyhoeddi a byddwn yn adrodd ar gynnydd a diweddariadau drwy’r Canolbwynt Digidol a’n blog drwy gydol y flwyddyn.   

Adroddir yn erbyn holl gamau cysylltiol mewn byrddau perthnasol ac o fewn cynlluniau a strategaethau unigol ar draws y Cyngor.

  • O ble daw’r costau? A fydd yna gynnydd yn Nhreth y Cyngor oherwydd hyn?  Mae rhai o’r gwasanaethau rydych yn eu darparu wedi eu tanariannu eisoes.

Mae cyllid ar gyfer prosiectau ar draws y gwahanol feysydd o’r Cyngor yn gallu dod o ystod o ffynonellau o grantiau i gyllidebau.   Prosiectau blaenoriaeth sydd â chyllid wedi’i ddyrannu sy’n cael eu dwyn ymlaen.

  • Ydy hyn yn golygu y bydd llai o wasanaethau ar gael mewn bywyd go iawn ac a fydd hyn yn effeithio ar swyddi?  
  • Mae angen pwyslais cadarn ar gwsmeriaid yn gyntaf.
  • Dylai gwasanaethau’r cyngor, gwybodaeth a chyngor fod yn deg ac ar gael oddi ar-lein yn ogystal ag ar-lein. 

Na, bydd ein gwasanaethau yn parhau i gael eu dylunio a’u darparu yn seiliedig ar anghenion cwsmer.

Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau sy’n gallu bod ar-lein yn hygyrch ar-lein, tra’n sicrhau y bydd sianeli eraill ar gael i bobl ble mae yna angen.  

  • Ble gallaf ddod o hyd i enghreifftiau o gynnydd y Cyngor? 

Byddwn yn parhau i ddatblygu ein Blog Ddigidol, Canolbwynt Digidol a thudalennau Strategaeth Ddigidol gan sicrhau bod cynnydd yn erbyn yr amcanion yn cael ei gyhoeddi.  

  • Mae’r defnydd o ddata yn bwysig iawn i sicrhau dull gwella parhaus i’r gwasanaethau a ddarperir. 


Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein rhaglenni gwaith i’r dyfodol ac yn cael ei fwydo i ddylunio gwasanaeth ble bo’n bosibl.

  • Beth am bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i wasanaethau digidol neu ar-lein? 
  • Rwy’n teimlo y dylech sicrhau bod “canolfannau cyswllt y cyngor” lleol yn nodwedd barhaol i’r bobl hynny sy’n methu fforddio prynu cyfrifiadur a thalu am wasanaethau band eang a’r sawl sy’n well ganddynt gael isafswm ôl-troed rhyngrwyd. 
  • Sut fydd pobl â sgiliau cyfyngedig yn cael eu cefnogi i gael mynediad i wasanaethau digidol ac a fydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu? 


Mae Cynhwysiant Digidol yn thema estynedig newydd o fewn y strategaeth ddiwygiedig a bydd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn ganolbwynt i sut yr ydym yn darparu gwasanaethau.   

Byddwn yn parhau i gefnogi ein cwsmeriaid, darparu mynediad i wasanaethau digidol, dyfeisiau, data a hyfforddiant o fewn ein cymunedau drwy Ganolfannau Cyswllt ac mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill fel ein llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth eraill i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’r sawl sydd ei angen.   

 

  • Mae rhai materion, cwestiynau a phryderon yn bersonol ac yn gymhleth.
  • Mae’n bosibl na all platfform ar-lein fynd i’r afael â’r rhain neu nad yw’r dull cywir.   
  • Mae preswylwyr yn dal angen cael mynediad i staff gwybodus.  

Bydd sicrhau bod y defnyddiwr yn ganolbwynt i’n dyluniad gwasanaeth yn ein helpu i ddylunio ein gwasanaethau i’r safon gorau a mwyaf priodol.   

Mae natur y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn cynnwys sbectrwm eang ac egwyddor allweddol ein strategaeth ddigidol yw y bydd gwasanaethau yn hygyrch ar lein tra’n sicrhau bod sianeli priodol ar gael yn dibynnu ar anghenion defnyddiwr. 

  • Mae cyswllt digidol yn gallu bod yn effeithiol ond mae hefyd yn gallu bod yn ynysig os oes yna bengaead e.e. os nad yw’r rhesymau am gysylltu wedi eu cynnwys neu yn ddigonol ac nad oes yna lwybr clir, amgen.   Mae rhwystredigaeth yn y cyswllt hwn yn gallu arwain at deimladau o ynysiad o wasanaethau neu gymorth.   


Mae dylunio gwasanaeth yn allweddol - drwy roi ein defnyddwyr yn ganolog i sut rydym yn dylunio ein gwasanaethau digidol a defnyddio’r data sydd gennym i helpu i ddatblygu’r rhain, rydym yn anelu i sicrhau bod trafodion yn syml, clir ac effeithiol.

Mae ein canolfan gyswllt yn parhau’n agored i gefnogi ein cwsmeriaid ac rydym yn anelu i wella ein darpariaeth gwasanaeth ar-lein yn barhaus.   Mae adborth bob amser yn cael ei groesawu a bydd yn helpu i lywio datblygiadau yn y dyfodol - digital.flintshire@flintshire.gov.uk

 

  • Mae’n wych gweld hyn yn digwydd ond mae’n rhaid i’r seilwaith o ran lled band a dibynadwyedd ISP fod ar gael fel blaenoriaeth.  
  • Mae’r cynllun yn gwbl hanfodol - nid yn unig i ddefnyddwyr gwasanaeth ond i gadw gweithwyr yn y cyfnod WFH a sicrhau nad yw ein hawdurdod lleol yn cael ei adael ar ôl.  Mae’r pandemig wedi cyflymu’r angen a’r cymhelliant ar gyfer datblygu’r seilwaith hwn.  

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU a’r sector preifat yw Cysylltedd digidol, byddwn yn parhau i fanteisio ar bob cyfle sy’n codi i wneud defnydd o adnoddau fydd yn cyflymu neu’n cyfannu gwelliannau i gysylltedd uwchlaw’r gwaelodlin a drefnwyd gan y cyrff hyn.  

Rydym wedi cwblhau ein rhaglen LFFN yn ddiweddar ac mae buddsoddiad pellach wedi’i drefnu drwy gyllid Cynnig Twf Gogledd Cymru a drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU

  • Dylid defnyddio’r Gymraeg gymaint â’r Saesneg. 


Bydd ein holl wasanaethau digidol yn cael eu datblygu yn ddwyieithog o’r dechrau - mae hyn yn egwyddor allweddol o’n dyluniad gwasanaeth. 

 

  • Mae cynnig digidol uwch yn Sir y Fflint yn hanfodol i breswylwyr gael mynediad i’r gwasanaethau sy’n gallu eu cefnogi. 
  • Ni ddylai mynediad i wasanaethau ar-lein fod yn fwy anodd na dulliau traddodiadol.  
  • Dylai gwasanaethau digidol fod yn ddiogel, hawdd cael mynediad atynt a hawdd i’w defnyddio.  

Rydym yn anelu i’n gwasanaethau digidol fod yn syml, diogel a chyfleus - mae’r rhain yn egwyddorion allweddol o ran sut rydym yn datblygu ein gwasanaethau digidol a’r adborth rydym wedi’i dderbyn am ein darpariaeth ar-lein presennol yn derbyn sylw gyda gwaith yn cael ei gynllunio i ddatblygu ein darpariaeth gwasanaeth ar-lein yn barhaus, gan sicrhau eu bod yn hygyrch, hawdd i’w defnyddio gydag anghenion y cwsmeriaid yn ganolbwynt.  

 

  • Hoffwn weld gwybodaeth ar amhariadau presennol i wasanaethau lleol e.e. biniau ddim yn cael eu casglu ac efallai hyd yn oed cau ffyrdd ac ati.
  • A fydd y wefan yn cael ei diweddaru pan fydd angen e.e. pan fydd yna ddigwyddiadau anarferol e.e. eira, ysgolion yn cau.  

Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod cynnwys ein gwefan wedi’i ddiweddaru ac mor berthnasol â phosibl a datblygu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod ein preswylwyr yn gallu gweld y wybodaeth ddiweddaraf ar-lein.   

  • Rwy’n meddwl y dylai pawb gael mynediad i wasanaethau a dyfeisiau digidol ond nid yn angenrheidiol am ddim.    
  • Sut allwch chi benderfynu pwy sy’n fwy teilwng na’i gilydd i gael gwasanaeth am ddim o’r fath? Mae hyd yn oed pobl gyda swyddi a’r hyn sy’n ymddangos fel cyflog da yn ei chael hi’n anodd y dyddiau hyn.   


Mae ein Canolfannau Cyswllt yn hygyrch i’n holl breswylwyr a darperir cyngor, cefnogaeth a chymorth i’r sawl sy’n dymuno mynd ar-lein, pa un a yw hyn mewn perthynas â hyfforddiant a sgiliau, helpu i gael mynediad i ddyfais neu gynlluniau mynediad i’r rhyngrwyd ac ati. 

Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ac yn ymuno â mentrau fel y gronfa ddata genedlaethol a datblygu canolfannau ar-lein i sicrhau fod mynediad yn bosibl i bawb.  

  • Mae hyfforddiant hygyrch yn allweddol i’r sawl sydd eisoes yn cael eu gadael ar ôl.  
  • Dylai fod yna hyfforddiant gorfodol i holl staff sy’n gweithio gyda ac yn darparu gofal/cefnogaeth/cymorth i bobl.


Mae sgiliau digidol a hyfforddiant yn feysydd allweddol ar draws amrywiol themâu o fewn y strategaeth.  Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod ein preswylwyr yn gallu cael mynediad i hyfforddiant ac yn derbyn cefnogaeth i fynd ar-lein.  

Rydym yn datblygu rhaglen Gwirfoddolwyr Digidol, yn cefnogi eraill i ddefnyddio technoleg, yn ogystal â gweithio gyda’n partneriaid fel Cymunedau Digidol Cymru a Choleg Cambria i ddatblygu y sgiliau hyn ymhellach.  

  • Dylai ysgolion ddarparu llechen/gliniadur i blant ar gyfer gwaith cartref, nid y teuluoedd sydd ar fudd-daliadau yn unig. Gyda dysgu gartref, roedd yn rhaid i rieni brynu llechen, argraffwyr ac ati er mwyn gwneud y gwaith ysgol ac mae rhai ysgolion yn parhau i wneud hyn ar gyfer gwaith cartref.   
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid yn ystod y pandemig i awdurdodau lleol weithio gyda’u hysgolion i gefnogi dysgwyr wedi eu heithrio yn ddigidol ac mae’n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i helpu i fynd i’r afael ag eithrio digidol.  Os yw teulu yn teimlo ei bod yn anodd i’w plentyn/plant gael mynediad i waith cartref yn ddigidol, yna dylent gysylltu â’u hysgol am gyngor a chefnogaeth bellach.   
  • Pa mor ddiogel yw’r “cwmwl” a pha fath o wybodaeth fydd yn cael ei storio yno?
  • Sut fydd gwybodaeth yn cael ei chefnogi?
Mae diogelwch ein systemau a gwybodaeth yn hanfodol ar gyfer parhad gwasanaeth a hyder ein cwsmeriaid i ymgysylltu â ni yn ddigidol. Mae unrhyw wasanaeth cwmwl rydym yn ei ddefnyddio yn destun asesiad trylwyr gydag ystyriaethau diogelwch yn greiddiol iddo. Mae’r asesiadau hyn yn seiliedig ar ganllawiau arfer gorau Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).  Yn ogystal, mae unrhyw wasanaethau newydd rydym yn eu cyflwyno yn ddarostyngedig i Asesiad Effaith Diogelu Data.
  • Beth sy’n digwydd os fydd y TG neu’r system yn methu? Rydych angen system gadarn a chynllun wrth gefn, fel nad yw amser segur, pa bynnag reswm, yn effeithio’n andwyol ar breswylwyr na staff.  
Mae gennym ateb wrth gefn sy’n seiliedig ar arfer gorau’r diwydiant  ac mae ein cynlluniau Parhad Busnes ac Adferiad Trychineb yn ceisio lleddfu effaith unrhyw fethiant TG neu system ar ein gwasanaethau a phreswylwyr gyda mwy o bwyslais ar systemau a ystyrir yn fwy hanfodol yn y cyswllt hwnnw. Wrth i ni symud ein systemau i’r cwmwl, bydd yr un ystyriaethau hyn yn berthnasol.   Yn ogystal, wrth adeiladu seilwaith TG i ddarparu systemau busnes, mae dibynadwyedd ac argaeledd yn flaenllaw yn y broses ddylunio.