Mae'r Cynghorydd Dennis Hutchinson wedi'i benodi yn Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.
Mae’r Cynghorydd Hutchinson wedi cynrychioli Ward Bwcle Pentrobin am 32 o flynyddoedd. Mae wedi byw yn Sir y Fflint drwy gydol ei fywyd, yn Sychdyn a Bwcle yn bennaf.
Yn briod â Jeanne ers 55 mlynedd, mae ganddynt 2 o blant, Andrew a Sarah, a 5 o wyrion ac wyresau o’r enw Lauren, Hannah, Ben, Max ac Ethan.
Bydd y Cynghorydd Jeanne Hutchinson yn Gonsort i Dennis yn ystod ei gyfnod yn y swydd.